ARCHWILIO A SYMUD YMLAEN GYDA'CH GYRFA

Fel un o raddedigion Prifysgol De Cymru, mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn dal yma i'ch galluogi a'ch grymuso i ymchwilio i'ch opsiynau, cael eich hysbysu, cael profiad, meithrin eich hyder, cael eich ysgogi a sicrhau eich bod yn llwyddiannus wrth gael rôl rydych yn dymuno.

Graddedigion
A group of students celebrating at graduation.

Mae'r hyn sy'n bwysig i chi am eich gyrfa yn bwysig i ni hefyd.

P'un ai oes gennych nod pendant mewn golwg neu'n parhau i archwilio eich camau nesaf, gallwn eich helpu i gael eglurder a dealltwriaeth o'r opsiynau a'r posibiliadau sydd o'n blaenau.

MYND YMHELLACH GYDA ‘MY CAREER’ I HELPU GYDA CHYNLLUNIO EICH CAM NESAF


Dysgu amdanoch chi’ch hun

Dysgwch fwy amdanoch chi’ch hun, eich cryfderau (a’ch gwendidau!), eich sgiliau a’ch personoliaeth.

Cymerwch 5 munud i ddysgu am eich math personoliaeth gyda’n cwis BUZZ

Treuliwch mwy o amser yn archwilio gyda 16 personoliaeth

Datgelwch eich cynnig creadigol gyda Creative types

Ewch ymhellach gyda phrofion mewnwelediad personoliaeth trwy MyCareer

Dechreuwch ddatblygu eich brand personol

Ystyriwch a myfyrio sut rydych chi’n ymddangos a sut rydych chi’n cael eich gweld, yn seiliedig ar eich Gwerthoedd, eich Diddordebau, eich Personoliaeth a’ch Sgiliau (VIPS)

Gadewch i’ch brand eich arddangos mewn ffordd gadarnhaol a phroffesiynol. Am gyngor ar sut i ddatblygu ac arddangos, chwiliwch am ‘Brand Personol’ ar My Career

*Awgrym AI – Rwyf eisiau datblygu brand personol cryf fel [dylunydd/gweithiwr proffesiynol creadigol/ayyb.]. A gaf i help i ddiffinio fy ngwerth unigryw, adnabod fy nghynulleidfa targed, awgrymu ffyrdd i gyflwyno fy hun ar-lein (portffolio, LinkedIn, cyfryngau cymdeithasol), a darparu cynllun cam wrth gam ar gyfer tyfu fy ngwelededd a hygrededd yn fy maes?

Cydnabod, deall a datblygu eich sgiliau

Cymerwch amser i ddeall y sgiliau sydd gennych a lle a sut maent yn cael eu datblygu.

Deall y Sgiliau mae pob Graddedig eu Hangen

Gwnewch Fodiwl Sgiliau drwy MyCareer

Os ydych chi’n chwilio am syniadau gyrfa, eisiau gwybod sut mae’ch sgiliau’n ymwneud â swyddi pendodol neu a fyddai eich personoliaeth yn addas, yna ystyriwch …

Gwblhau Cynlluniwr Gyrfa a Pharu Swyddi.

Diddordeb mewn dysgu mwy am yrfaoedd nodweddiadol y gallai eich gradd arwain atynt neu ba sectorau y mae graddedigion eich gradd yn tueddu tuag atynt?

Gall ‘Beth allaf i ei wneud gyda fy ngradd?’ eich helpu drwy ddarparu syniadau a swyddi i’w hystyried.

Awyddus i archwilio pa swyddi sy’n bodoli, beth maent yn ei ddisgwyl gennych chi, a phwy allai eich cyflogi?

  • Gallwch gael mewnwelediad manwl i’r sgiliau sydd eu hangen, cyfrifoldebau’r swydd, eich cyflog posibl a sut i gyrraedd yno drwy ein hystod eang o Broffiliau Swydd.
  • Archwiliwch ystod o ddolenni wedi'u curadu sy'n gysylltiedig â'ch maes gradd. 
  • Archwiliwch ystod o ddolenni sy’n berthnasol i faes eich gradd drwy ‘Dolenni Pwnc’ ar MyCareer.

Gall datblygu eich rhwydwaith eich helpu i ddeall eich sector, gwneud cysylltiadau proffesiynol a dangos yr hyn sydd gennych i’w gynnig i’r bobl iawn.

Sefydlwch bresenoldeb ar LinkedIn a / neu lwyfannau rhwydweithio eraill. Gallwch weld arweiniad LinkedIn ar MyCareer.

*Awgrym AI - Rwyf eisiau tyfu fy rhwydwaith broffesiynol, yn enwedig ym maes [......]. Ga i strategaethau ymarferol ar gyfer rhwydweithio ar-lein ac wyneb yn wyneb, awgrymiadau ar gyfer pa lwyfannau a digwyddiadau i ganolbwyntio arnynt, a chymorth gydag ysgrifennu negeseuon i gysylltu gyda gweithwyr proffesiynol eraill, mentoriaid neu gyd-weithwyr posibl?

Ennill profiad yw’r ffordd orau i ddeall a yw swydd/sector penodol ar eich cyfer chi ynghyd a darparu’r dystiolaeth ymarferol mae cyflogwyr yn chwilio amdani.

Cliciwch drwy’r tudalennau Profiad Gwaith Gyrfaoedd PDC – Dysgwch am gyfleoedd gwirfoddoli drwy CareersConnect a Gwirfoddoli Cymru.

Cwblhewch y Wobr Camu ‘Mlaen Parod am Yrfa i’ch helpu i fyfyrio ar a mynegi’ch profiad.

Yn Ystyried Astudiaethau Ôl-raddedig?

Gall astudiaethau ôl-raddedig fod yn ofynnol ar gyfer rhai swydd neu gallech fod eisiau parhau gyda’ch astudiaethau i amrywio, newid cyfeiriad, gwneud ymchwil neu oherwydd eich brwdfrydedd dros y pwnc.

  • Mae Prospects yn darparu trosolwg o astudiaeth ôl-raddedig ar bob lefel, beth i’w ystyried, sut i wneud cais a sut i ariannu.
  • Cymerwch olwg ar y cyrsiau ôl-raddedig sydd ar gael yn PDC.
  • Chwiliwch am gyrsiau ar Find a Masters.
  • Ewch i Find a PhD a Vitae ar gyfer cyfleoedd ac astudiaeth o fewn ymchwil.
  • Cyfeiriwch ar Ysgol Raddedig PDC am opsiynau ymchwil yn PDC.

*Awgrym AI: Ga i help i ddod o hyd i gyrsiau ôl-raddedig addas yn y DU yn seiliedig ar fy nghefndir academaidd a'm diddordebau, awgrymiadau o’r prifysgolion gorau, eglurhad o’r broses ymgeisio (gan gynnwys dyddiadau cau, datganiadau personol, a chyfeiriadau), a chyngor ar opsiynau ariannu a fisâu myfyrwyr os oes angen?

A group of students happily chatting on the sofas in Treforest Student's Union.

Yn well gennych weithio i chi'ch hun neu ddechrau busnes?

Ar gyfer rhai sectorau, mae gwaith llawrydd yn fwy nodweddiadol. Sicrhewch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i ddeall gweithio'n llawrydd, gweithio i chi'ch hun a sefydlu busnes.