Os oes gennych syniad busnes neu os oes angen cymorth arnoch gyda'ch menter bresennol, rydyn ni yma i helpu! Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o gymorth i'ch helpu i ddatblygu'ch syniad busnes neu'ch menter lawrydd.


Cymorth rydym yn ei Gynnig

Two people looking at a laptop in conversation

Adeiladu Eich Busnes

O'ch syniad cyntaf i'ch cwsmer cyntaf, byddwn yn eich cefnogi i dyfu.

Anaisia Mbowe

Cynllunio a chyflwyno busnes

Dysgwch sut i lunio'ch syniad, adeiladu cynllun busnes, a chyflwyno'ch syniad yn hyderus.

Student sat in USW Careers Service office talking to a Careers Consultant

Cymorth Un-i-Un

Gallwch gael cyngor personol ar eich syniad llawrydd neu fusnes, ar-lein neu wyneb yn wyneb.

A group of students at a careers event holding papers preparing for a group presentation

Cronfa Cychwyn Busnes

Cyflwynwch eich syniad am gyfle i dderbyn hyd at £1,000 i gefnogi eich busnes.

Graddedig Busnes Alicia Smith (dde) gyda'i phartner Mathew Hunt o flaen eu fan goffi

Cronfa Masnach Prawf

Rhowch gynnig ar eich syniad mewn lleoliad go iawn a gweld beth sy'n gweithio.

Student talking to people at a stand at Immersed Careers Fair

Digwyddiadau

Ymunwch â gweithdai, dosbarthiadau meistr a sesiynau rhwydweithio i feithrin sgiliau a chysylltu ag eraill.

Two men having a conversation whilst looking at a laptop in the sports park

Cyllid Allanol

Byddwn yn eich helpu i ganfod cyfleoedd ariannu ychwanegol a gwneud cais amdanynt.

Student sat in USW Careers Service office talking to a Careers Consultant

Ymgynghoriaeth

Cyngor a chymorth arbenigol ar gael.

A close up of a student filling out a careers worksheet with the title 'Simply Do Ideas, The Concept Canvas'

Adnoddau a Phecynnau Cymorth

Archwiliwch ganllawiau ymarferol ar waith llawrydd, marchnata a chynllunio busnes. Cysylltwch â'r tîm i gael mynediad at ein banc adnoddau pwrpasol ar gyfer popeth sy'n ymwneud â hunangyflogaeth a busnesau newydd.

A student organising different patterns, textures and materials on a work desk

Stiwdio Sefydlu

Defnyddiwch ofod cychwyn busnes pwrpasol i ddatblygu eich busnes.

Cyllid allanol a chefnogaeth partneriaid

Gall cychwyn busnes deimlo'n heriol, ond nid ydych chi'n ei wneud ar eich pen eich hun. Rydym yn eich cysylltu â sefydliadau dibynadwy sy'n cefnogi hunangyflogaeth a busnesau newydd.

Busnes Cymru
Yn cynnig cefnogaeth i bob busnes newydd a phresennol sy'n cynnwys taflenni ffeithiau'r sector busnes, gweithdai BOSS ar-lein am ddim a gwybodaeth cynllunio busnes i'ch helpu i adeiladu eich gwybodaeth a'ch busnes. Maent hefyd yn cynnig opsiynau ariannu cynhwysfawr, gan gynnwys Banc Datblygu Cymru ac offeryn Canfyddwr Cyllid.

Ymddiriedolaeth y Brenin
Yn cynnig cymorth cychwyn busnes i bobl 18-30 oed.

Cyllid a Thollau EF
Yn darparu gwybodaeth hanfodol am gofrestru fel unigolyn hunangyflogedig.

IPSE
Yn cynnig cefnogaeth i weithwyr llawrydd a'r hunangyflogedig.

GOV.UK
Mae gan CThEF ganllaw defnyddiol ar ddewis strwythur cyfreithiol eich busnes a'r hyn y mae'n ei olygu.

Nod Cronfa/Cronfeydd Cychwyn Menter PDC yw helpu myfyrwyr a graddedigion i gymryd y cam cyntaf tuag at lansio busnes, gyrfa lawrydd neu fenter gymdeithasol. Mae'r cyllid grant hwn yn rhoi hwb ariannol hanfodol i helpu i droi syniadau entrepreneuraidd addawol yn realiti.

Mae'n hawdd gwneud cais a gall gefnogi ystod eang o eitemau cymwys, ar yr amod bod rhesymeg glir dros sut y byddant yn helpu i symud eich syniad ymlaen. Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • Offer a deunyddiau
  • Datblygu gwefan
  • Costau marchnata a hysbysebu
  • Cyrsiau hyfforddi perthnasol
  • Gweithgareddau masnachu prawf
  • Cyfleoedd rhwydweithio
  • Gweithgareddau ymchwil i’r farchnad

(Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr)

Noder, mae cyllid yn gystadleuol ac mae cyllideb flynyddol gyfyngedig. Mae Tîm Menter PDC yn cadw'r hawl i dynnu'r cyfle cyllido hwn yn ôl ar unrhyw adeg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag [email protected]  

Cymhwysedd

Mae'r cyllid ar gael i fyfyrwyr presennol Prifysgol De Cymru a graddedigion diweddar (o fewn 3 blynedd i raddio).

Rhaid i ymgeiswyr ddangos uchelgais glir i ddechrau busnes, gyrfa lawrydd, neu fenter gymdeithasol, a bod wedi gwneud cynnydd cychwynnol wrth ddatblygu'r syniad.

Rhaid i ymgeiswyr fod mewn sefyllfa i gofrestru eu busnes (masnachwr unigol, cwmni cyfyngedig, ac ati) o fewn 6 mis i wneud cais (yn amodol ar ddisgresiwn y panel a'r Rheolwr).

Dim ond ar gyfer busnesau yn y DU y mae'r cyllid. Nid yw ymgeiswyr sydd ar Fisa Myfyriwr yn gymwys oherwydd cyfyngiadau fisa, ond mae'r rhai sydd ar Fisa Llwybr Graddedig yn gymwys i wneud cais.

Mae derbynwyr blaenorol Cronfa/Cronfeydd Cychwyn Menter PDC yn gymwys i ail-ymgeisio, cyn belled nad ydynt wedi cael mwy na £1000 yn gyfan gwbl.

Nid yw myfyrwyr na graddedigion sydd wedi cael £1,000 neu fwy o gystadlaethau PDC yn y gorffennol yn gymwys.

Sut mae'r Cyllid yn Gweithio

Mae'r cyllid yn seiliedig ar ad-daliad. Rhaid i chi wario'r swm cymeradwy yn gyntaf a darparu derbynebau/prawf o brynu i'w hawlio'n ôl.

Rhaid i bob pryniant a gynlluniwyd gael ei gymeradwyo ymlaen llaw yn ysgrifenedig gan y Tîm Menter. Nid yw eitemau sydd o fudd i'r unigolyn yn unig (e.e. cerbydau personol, gliniaduron, cyfrifiaduron gemau, ipads) yn gymwys.

Cyflwynir hawliadau drwy Ffurflen Dreuliau gyda'r holl dderbynebau a dogfennaeth berthnasol.

Ar ôl cyflwyno, gall taliadau gymryd hyd at 30 diwrnod i'w prosesu.

O dan rai amgylchiadau efallai y byddwn yn gallu gwneud pryniannau ar eich rhan, wedi'u cyfyngu gan reoliadau cyllid PDC.

Proses Ymgeisio

I wneud cais am Gronfa/Cronfeydd Cychwyn Menter PDC, bydd angen i chi ddarparu un neu'r cyfan o'r canlynol:

  • Eich manylion myfyriwr/unigolyn graddedig
  • Enw'r busnes, ac unrhyw ddolenni cyfryngau cymdeithasol/gwefan perthnasol
  • Templed Trosolwg Busnes cyflawn sy'n amlinellu:
    -Cysyniad
    -Ymchwil i’r farchnad
    -Cynllun marchnata
    -Gweithrediadau
    -Costau
    -Sgiliau
    -Cynnydd hyd yma
    -Cais am gyllid a'i ddefnydd
    -Camau nesaf

Os ydych chi'n gwneud cais fel tîm, dylai un aelod gyflwyno'r cais, gyda manylion yr holl aelodau wedi'u cynnwys.

Meini Prawf Adolygu

Bydd eich cais yn cael ei asesu ar sail:

  • Hyfywedd: Angen clir yn y farchnad, cynulleidfa a chynnig gwerth.
  • Eglurder: Cais sydd wedi'i strwythuro'n dda ac yn hawdd ei ddeall.
  • Effaith: Dadansoddiad o sut y bydd cyllid yn cefnogi datblygiad busnes.
  • Ymrwymiad: Tystiolaeth o ymgysylltiad a momentwm gwirioneddol.
  • Rhwystrau ac Angen: Dyma'r meini prawf ysgogol, bod y panel yn gallu gweld budd clir i'r ymgeisydd a datblygiad y syniad.

e.e. mae gan ffotograffydd sy'n gofyn am lens newydd sydd â'r gallu i fasnachu, lai o angen nag ymgeisydd sydd angen yswiriant busnes i weithredu.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfarfod â'r Tîm Menter i gyflwyno eu syniadau a/neu i drafod y camau nesaf. Anogir ymgeiswyr aflwyddiannus i ofyn am adborth ac ailgyflwyno yn rowndiau’r dyfodol.

Mae penderfyniad y Tîm Menter ar bob dyraniad cyllid yn derfynol. Nid oes unrhyw broses anghydfod nac apelio.

Am gymorth gyda'ch cais, cysylltwch ag [email protected] 

Digwyddiadau yn syth i'ch mewnflwch

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr

Gwnewch ymholiad am gyllid

Cysylltwch â Ni