Ceisiadau
Gyda llawer o gyflogwyr graddedigion yn defnyddio ceisiadau ar-lein fel rhan o'u proses recriwtio, mae angen i chi fod yn barod i farchnata'ch hun yn effeithiol a dangos tystiolaeth o'ch sgiliau a'ch cymwyseddau.
Gyda chyflogwyr yn gorfod didoli nifer fawr o geisiadau, bydd angen i chi ddeall y sgiliau maen nhw'n chwilio amdanynt er mwyn creu argraff dda ar unwaith. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dangos yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni ac yn dangos yn glir eich addasrwydd ar gyfer y rôl.
Parhewch i ddarllen i ddarganfod sut i sefyll allan ymhlith y dorf (yn y lle cyfyngedig sydd ar ffurflen gais), a sicrhau'r cyfweliad hollbwysig hwnnw i chi'ch hun!
Awgrymiadau Defnyddiol
- Cymerwch amser i baratoi – peidiwch â dechrau llenwi'r ffurflen gais ar unwaith.
- Myfyriwch ar eich galluoedd – byddwch yn glir ynglŷn â sut rydych chi'n bodloni meini prawf y swydd a'r gwerth y gallwch ei gyfrannu at eu sefydliad.
- Ewch ati i greu argraff gyntaf wych – gydag ymchwil sy'n eich helpu i ddeall y rôl, y sefydliad a'r sector y mae'n gweithredu ynddo.
- Rhowch dystiolaeth – ewch i'r afael â gofynion cyflogwyr gydag enghreifftiau penodol sy'n dangos eich bod chi'n bodloni eu meini prawf dethol.
- Mireiniwch eich arddull ysgrifennu – ewch ati i sefyll allan gyda chais sy'n gryno ac yn gryf, gan gyfleu sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf gydag effaith.
- Ewch ati i’w gwblhau – ceisiwch ei gwblhau gydag amser yn weddill fel y gallwch chi wirio, gwirio ddwywaith, a'i anfon i ffwrdd mewn pryd.
Ysgrifennu eich Cais
- Gwybodaeth bersonol – rhowch fanylion sylfaenol fel enw a chyfeiriad e-bost.
- Cefndir addysgol – rhowch fanylion am eich addysg mewn trefn gronolegol o chwith (y mwyaf diweddar yn gyntaf). Cynhwyswch y sefydliadau rydych chi wedi mynychu, cyrsiau a gymerwyd a chymwysterau a enillwyd.
E.e. Rhowch enghraifft o amser pan wnaethoch chi weithio fel rhan o dîm? Beth wnaethoch chi i sicrhau llwyddiant?
E.e. Eglurwch sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf dethol gan roi tystiolaeth o'ch addasrwydd. - Profiad gwaith – rhowch fanylion am eich profiad gwaith mewn trefn gronolegol o chwith (y mwyaf diweddar yn gyntaf). Rhestrwch eich prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau, gan bwysleisio'r rhai sy'n cyfateb i'r swydd rydych chi'n gwneud cais amdani.
- Cwestiynau seiliedig ar gymhwysedd – efallai y bydd yn rhaid i chi ateb cwestiynau arddull cymhwysedd. Rhowch enghreifftiau penodol pan fyddwch chi wedi dangos y sgil, yr ymddygiad neu'r cymhwysedd.
- Datganiadau personol – efallai y gofynnir i chi ysgrifennu datganiad i gefnogi eich cais.
Defnyddiwch y lle i esbonio pam rydych chi'n gwneud cais am y swydd a darparu tystiolaeth eich bod chi'n bodloni'r gofynion.
Mae gan rai cyflogwyr derfyn geiriau penodol; bydd eraill yn hapus i chi barhau ar dudalennau ychwanegol. - Ewch i’r afael â HOLL ofynion y cyflogwr gan ddefnyddio’r penawdau allweddol neu’r pwyntiau bwled a nodir ym manyleb yr unigolyn.
- Argraffwch y ffurflen gais a'r cyfarwyddiadau neu lawrlwythwch nhw. Darllenwch nhw'n ofalus fel eich bod chi'n glir ynglŷn â'r hyn a ddisgwylir a'r broses y mae angen i chi ei dilyn. Cadwch lygad am derfynau nifer geiriau a chyfarwyddiadau cyflwyno penodol.
- Casglwch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, gan gynnwys cyflawniadau academaidd, hanes cyflogaeth a manylion cyswllt eich canolwyr.
- Deallwch y rôl. Mae angen i chi fod yn glir ynglŷn â'r sgiliau a'r rhinweddau penodol maen nhw'n chwilio amdanynt, a sut rydych chi'n bodloni eu gofynion.
- Ymchwiliwch i'r cwmni a'r sector. Mae gan Target Jobs ganllawiau gwych ar sut i gynnal ymchwil ar gyflogwyr.
- Meddyliwch am yr enghreifftiau penodol y byddwch chi'n eu defnyddio i ddarparu tystiolaeth o'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen.
- Gweithiwch all-lein gan ddrafftio'ch atebion i'r cwestiynau sydd angen yr ymatebion hiraf yn gyntaf – peidiwch â gadael y rhain tan y diwedd.
- Ysgrifennwch am brofiadau penodol sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rôl.
- Mae angen i'ch atebion fod yn fyr ac yn gryno. Defnyddiwch y dechneg STAR a berfau grymus fel 'cyflwynais', 'cyflawnais' a 'threfnais', a geiriau disgrifiadol fel 'effeithiol', 'hyblyg' a 'chyson' i greu argraff.
- Argraffwch eich atebion a'u gwirio gan ei bod hi'n haws nodi camgymeriadau ar bapur. Mae sillafu a gramadeg dda yn hanfodol i greu argraff gyntaf wych.
- Gwiriwch eich bod o fewn unrhyw derfynau geiriau penodedig.
- Gofynnwch i rywun arall wirio'ch ffurflen gais – efallai y byddant yn gweld rhywbeth nad ydych chi wedi sylwi arno.
- Gludwch eich atebion i'r system ar-lein, gan gadw'ch gwaith wrth i chi fynd ymlaen. Gwiriwch nad ydych wedi methu unrhyw gynnwys wrth ludo.
- Argraffwch gopi o'r cais i gyfeirio ato pan gewch eich gwahodd i gyfweliad.
- Mae'r dechneg STAR yn ffordd ddefnyddiol o strwythuro'ch atebion i unrhyw gwestiynau sy'n seiliedig ar gymhwysedd, h.y. y rhai sy'n gofyn i chi ddangos sgil.
- Mae'n golygu Sefyllfa Tasg Gweithred Canlyniad (Situation Task Action Result yn Saesneg). Gallwch hefyd ychwanegu 'R' arall am Myfyrio (Reflection) os ydych am siarad am yr hyn a ddysgoch o'r broses neu'r hyn y gallech ei wneud yn wahanol yn y dyfodol.
- Mae hon yn dechneg ddefnyddiol wrth gyfleu'ch ateb ar lafar mewn cyfweliad yn ogystal ag ar ffurf ysgrifenedig ar ffurflen gais.
Dyma enghraifft o rywun yn defnyddio STAR i ddadansoddi achlysur pan wnaethon nhw ymdopi â chwsmer anodd. Gofynnodd y cyflogwr y cwestiynau canlynol - "Dywedwch wrthym am sefyllfa neu broblem anodd ddiweddar y daethoch chi ar ei thraws, sut wnaethoch chi ei datrys a beth wnaethoch chi ei ddysgu ohoni?"
Sefyllfa: wrth weithredu fel goruchwyliwr wrth gefn mewn bwyty pitsa adnabyddus, dechreuodd cwsmer gwyno'n uchel bod y gwasanaeth yn araf.
Tasg (neu darged yr oeddech am ei gyflawni): Bodloni'r unigolyn heb gynhyrfu cwsmeriaid eraill a oedd hefyd yn aros am eu bwyd ac a oedd wedi cyrraedd yn gynharach
Gweithrediadau (a gymerwyd gennych i gyflawni hyn): Gwrando'n ofalus ar safbwynt y cwsmer. Eglurwyd yn dawel ac yn ddiplomatig fod diffyg staff oherwydd salwch. Sicrhawyd y cwsmer bod yr archeb yn cael sylw a chynigiwyd diodydd am ddim wrth aros.
Canlyniad (boed hyn yn ganlyniad pendant neu'r gwersi personol a ddysgwyd): Tawelodd y cwsmer a gwerthfawrogi'r sefyllfa yr oeddem yn ei hwynebu. Fe sylweddolodd nad oedd yn fwriadol a phenderfynodd aros yn dawel, gyda'r diodydd am ddim. Dysgais bwysigrwydd gwrando ar bobl a gweld eu safbwynt.
- Sicrhewch ei fod wedi'i gwblhau a'i gyflwyno ymhell o fewn y terfyn amser, rhag ofn y byddwch yn cael unrhyw broblemau technegol gyda'r cyflwyniad.
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi atodi unrhyw dudalennau ychwanegol os caniateir / os oes angen.
- Gwiriwch fod y cais wedi'i gyflwyno. Yn aml, byddwch yn cael e-bost yn cadarnhau ei fod wedi'i dderbyn.
Eisiau mynd â'r sgwrs ymhellach?
Bwciwch apwyntiad i siarad ag un o'n Cynghorwyr Gyrfaoedd.