CV
P'un a ydych chi'n gwneud cais am swyddi graddedig, lleoliadau, profiad gwaith neu astudiaeth bellach, mae'n debygol y bydd angen i chi gyflwyno CV (curriculum vitae).
Mae angen i'ch CV ddangos yn effeithiol yr hyn y gallwch chi ei gynnig i'r cyflogwr, gyda chynnwys allweddol yn dangos yn gryno pam eich bod chi'n addas iddyn nhw. Dim ond 30 eiliad ar gyfartaledd y bydd cyflogwyr yn ei gymryd i ddarllen eich CV, felly mae cael eich cynnwys yn iawn yn bwysig!
Dylai ddarparu crynodeb o'ch hanes academaidd a'ch profiad gwaith, yn ogystal â'ch gweithgareddau a'ch cyflawniadau allgyrsiol. Mae angen iddo fod wedi'i ysgrifennu'n dda a'i dargedu at y swydd rydych chi'n gwneud cais amdani, gan ddod gyda llythyr eglurhaol personol a phenodol.
Awgrymiadau Defnyddiol
- Ymchwiliwch i'r cyflogwr cyn i chi ddechrau ysgrifennu i sicrhau eich bod chi'n deall yn union beth maen nhw'n chwilio amdano.
- Cyflwynwch eich CV gan ddefnyddio arddull ffont a maint ffont cyson. Rhowch sylw arbennig i'ch sillafu a'ch gramadeg fel bod eich CV yn darllen yn dda a heb wallau.
- Trefnwch eich cynnwys gan ddefnyddio penawdau ac is-benawdau llawn gwybodaeth i helpu cyflogwyr ddod o hyd i'r wybodaeth maen nhw'n chwilio amdani yn hawdd. Chi sy'n penderfynu ar y categorïau i'w cynnwys felly byddwch yn benodol i'ch cynnig e.e. gallai myfyriwr Dylunio Graffeg gael adran, 'Sgiliau Dylunio'; gallai myfyriwr Ffasiwn gael adran, 'Profiad Marchnata Gweledol'. Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi lynu wrth y categoreiddio isod. Eich dogfen chi yw hi - chi sy'n berchen arni.
- Byddwch yn gryno ac yn berthnasol ac osgowch baragraffau hir o destun. Bydd cyflogwyr eisiau gweld sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf mewn ffordd glir a chryno. Ceisiwch beidio â bod yn fwy na dwy ochr o A4.
- Ewch ati i deilwra eich CV a'ch llythyr eglurhaol i ddangos eich sgiliau a'ch profiad yn glir, sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rôl.
- Gwnewch eich cynnwys yn BERTHNASOL, crëwch EFFAITH yn y ffordd rydych chi'n cynllunio'r ddogfen ac yn cyflwyno eich gwybodaeth, a dangoswch BROFFESIYNOLDEB trwy gynnwys penodol a sylw i fanylion.
Ysgrifennu eich CV
- Defnyddiwch eich enw fel pennawd – does dim angen ysgrifennu 'Curriculum Vitae' ar y brig.
- Defnyddiwch eich cyfeiriad yn ystod y tymor, neu gyfeiriad arall yn y DU lle gellir cysylltu â chi.
- Defnyddiwch gyfeiriad e-bost proffesiynol synhwyrol.
- Addaswch eich datganiad personol i gyd-fynd â'r swydd neu'r lleoliad rydych chi'n gwneud cais amdano.
- Meddyliwch am eich prif bwyntiau gwerthu a rhowch grynodeb byr o sgiliau a phrofiad perthnasol.
- Gallech hefyd nodi eich nod neu ffocws gyrfa (os yw'n cyd-fynd â'r hyn rydych chi'n gwneud cais amdano).
- Rhowch fanylion am eich addysg ddiweddaraf yn gyntaf.
- Cynhwyswch ddosbarth gradd, neu ganlyniad disgwyliedig. Fel arall, nodwch ganlyniadau modiwlau.
- Rhowch fanylion am brosiectau mawr gan roi'r teitl a chrynodeb byr – rhowch fethodoleg/proses a chanlyniadau.
- Rhowch gymwysterau blaenorol gan gynnwys y cyfwerth yn y DU os ydych chi'n fyfyriwr tramor.
- Rhowch fanylion o’ch holl brofiad gwaith, gan gynnwys swyddi rhan-amser a gwirfoddoli.
- Dechreuwch gyda'r mwyaf diweddar yn gyntaf a'r dyddiadau y buoch yn gweithio yno. Cynhwyswch fanylion eich dyletswyddau, eich cyflawniadau a'r sgiliau a ddatblygoch tra roeddech yn gweithio yno.
- Canolbwyntiwch ar y sgiliau y mae'r cyflogwr yn chwilio amdanynt.
- Hyd yn oed os nad yw eich swyddi rhan-amser yn uniongyrchol berthnasol, gallwch barhau i dynnu sylw at y sgiliau trosglwyddadwy perthnasol a ddatblygoch drwyddynt.
- Gwnewch i’ch sgiliau gyd-fynd â'r swydd/lleoliad.
- I wneud hyn mae angen i chi fod yn glir ynglŷn â'r rôl rydych chi'n gwneud cais amdani a gofynion y cyflogwr.
- Darparwch dystiolaeth o'r sgiliau hyn yng nghorff y CV.
- Nodwch aelodaeth o gyrff proffesiynol.
- Os yw eich cwrs yn cael ei achredu gan gorff proffesiynol, nodwch hyn hefyd.
- Cadwch yr adran hon yn fyr a thynnwch sylw at y sgiliau a'r rhinweddau personol y mae eich diddordebau wedi eich helpu i'w datblygu.
- Peidiwch â rhestru eich diddordebau yn unig, nodwch eich lefel o gyfranogiad ac osgowch ysgrifennu am eich bywyd cymdeithasol.
- Fel arfer, mae angen dau ganolwr, yn ddelfrydol gan gyflogwyr neu ddarlithwyr.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am eu caniatâd yn gyntaf.
- Fel arall, nodwch 'yn cael eu rhoi ar gais'.
- Cofiwch roi copi o'ch CV i'ch canolwyr.
Eisiau mynd â'r sgwrs ymhellach?
Bwciwch apwyntiad i siarad ag un o'n Cynghorwyr Gyrfaoedd.