Ydych chi erioed wedi clywed y dyfyniad, ‘Methu â pharatoi, paratoi i fethu’ neu’r ‘5P – Mae Paratoi Perffaith yn Atal Perfformiad Gwael’ (Perfect Preparation Prevents Poor Performance yn Saesneg)?

Nid oes angen i gyfweliadau fod yn frawychus os ydych chi’n paratoi. Byddwch yn ymwybodol o’r swydd, y sefydliad a’r hyn y gallwch chi ei gynnig.

Awgrymiadau Defnyddiol

  • Byddwch yn gadarnhaol ac yn hyderus ynglŷn â'ch galluoedd. Ewch i'r cyfweliad gyda'r bwriad o gael cynnig y swydd.
  • Byddwch â dealltwriaeth glir o'ch sgiliau, eich profiad a'r hyn y gallwch ei gynnig. Mae cyrraedd y cyfweliad yn arwydd clir bod y cyflogwr yn hoffi'r hyn maen nhw'n ei weld. Y cyfweliad yw eich cyfle i fynegi'n hyderus pam y dylen nhw eich cyflogi!
  • Mae cyfweliad yn broses ddwyffordd, nid proses holi drylwyr, felly ystyriwch yr hyn rydych chi am ei wybod am y sefydliad a'r rôl.
  • Gall ystyried y cyfweliad fel sgwrs strwythuredig helpu i dawelu'ch nerfau!
  • Bydd y sefydliad yn chwilio am rywun sy'n personoli proffesiynoldeb, sy'n ymwybodol ohono'i hun ac sydd ag agwedd gadarnhaol.
  • Mae proffesiynoldeb yn seiliedig ar eich Ymddygiad, Gwybodaeth a Sgiliau mewn perthynas â'r rôl. Bydd deall y rhain a'ch addasrwydd - eich cryfderau, gwendidau a nodweddion personol - yn eich helpu i nodi sut rydych chi'n addas ar gyfer y rôl.

Ymarfer, Perffeithio, Perfformio, Myfyrio

  • Gwnewch eich hun yn gyfarwydd eto â'r disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn.
  • Byddwch yn gwbl ymwybodol o'ch sgiliau a'ch profiad eich hun mewn perthynas â'r swydd rydych chi'n gwneud cais amdani.
  • Ail-edrychwch ar eich ffurflen gais / CV.
  • Ymchwiliwch i'r cyflogwr ac ystyriwch pam rydych chi eisiau gweithio iddyn nhw a'r hyn sydd angen i chi ei wybod amdanyn nhw / y swydd.
  • Paratowch atebion i gwestiynau posibl - ystyriwch y rhinweddau hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd.
  • Gwisgwch yn briodol - os ydych chi'n ansicr, gofynnwch.
  • Cynlluniwch y pethau y byddwch eu hangen arnoch a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod sut i gyrraedd yno.

  • Byddwch yn broffesiynol a gwnewch argraff gadarnhaol o'r eiliad y byddwch yn cyrraedd y sefydliad - peidiwch â bod yn hwyr.
  • Diffoddwch eich ffôn!
  • Dechreuwch y cyfweliad mewn ffordd gadarnhaol trwy wenu a thrwy ysgwyd llaw 'cadarn ond cyfeillgar'.
  • Os oes mwy nag un unigolyn yn cyfweld, gwnewch yn siŵr eich bod yn annerch pawb ar y panel drwy gydol y broses.
  • Gwrandewch ar yr hyn a ofynnir i chi a chyflwynwch ateb strwythuredig (ystyriwch ddefnyddio'r dechneg STAR). Byddwch yn benodol i'ch profiadau a gwnewch eich atebion yn ddiddorol!
  • Sicrhewch eich bod yn ateb y cwestiwn a ofynnwyd i chi - peidiwch ag ofni gofyn am eglurhad os oes angen.
  • Ystyriwch eich ateb cyn i chi siarad.
  • Peidiwch â beirniadu cyflogwyr presennol neu flaenorol.
  • Gofynnwch gwestiynau i'r cyflogwr a darganfyddwch y cam nesaf yn y broses, h.y. pryd y byddwch yn cael gwybod a ydych wedi bod yn llwyddiannus.

  • Amcangyfrifir bod argraffiadau cyntaf y cyfwelydd yn cael eu ffurfio yn y 4 munud cyntaf.
  • 55% effaith weledol; 38% tôn llais; 7% beth a ddywedwch.
  • Felly... gwenwch a chadwch gyswllt llygad da.
  • Ysgwydwch law yn hyderus.
  • Eisteddwch yn hamddenol.
  • Defnyddiwch dechnegau anadlu i'ch helpu i dawelu'ch nerfau - anadlwch i mewn yn araf trwy'r trwyn, oedwch, anadlwch allan yn araf trwy'r geg.
  • Hefyd, nodwch iaith corff y cyfwelydd - ydyn nhw'n edrych yn chwilfrydig?

  • Ceisiwch bob amser gael adborth fel y gallwch ddysgu o'r broses.
  • Dilynwch y cyfweliad gydag e-bost at yr unigolyn / pobl sy'n eich cyfweld i ddiolch iddynt am y cyfle (ac i ail-bwysleisio eich diddordeb yn y swydd). Dydych chi byth yn gwybod, gallai hyn wneud y gwahaniaeth os ydyn nhw'n cael trafferth penderfynu rhwng dau ymgeisydd.
  • Byddwch yn falch o gyrraedd y cam hwn o'r broses, p'un a gewch gynnig y swydd ai peidio!
student sat on campus in treforest

Eisiau mynd â'r sgwrs ymhellach?

Bwciwch apwyntiad i siarad ag un o'n Cynghorwyr Gyrfaoedd.