Dod o hyd I’ch gyrfa
Gall y Gwasanaeth Gyrfaoedd ym Mhrifysgol De Cymru eich helpu i ymchwilio eich opsiynau, cael gwybodaeth, ennill profiad, magu hyder a chymhelliant.
Gyrfaoedd
P’un a oes gennych nod benodol dan sylw neu heb feddwl y tu hwnt i heddiw, mae’n synhwyrol cael syniad o’r opsiynau a’r posibiliadau sydd o’ch blaen.
Bydd cael eglurder o’r hyn sy’n ofynnol yn sicrhau fod gennych lwybr clir o’ch blaen tuag at eich gyrfa ddelfrydol.
Hyd yn oed os nad ydych yn sicr o’r hyn sy’n dod nesaf, bydd ennill profiad a datblygu sgiliau yn eich rhoi ar y blaen pan ddaw i wneud ceisiadau am swyddi a chael eich cyfweld.
Dysgu amdanoch chi’ch hun
Dysgwch fwy amdanoch chi’ch hun, eich cryfderau (a’ch gwendidau!), eich sgiliau a’ch personoliaeth.
Cymerwch 5 munud i ddysgu am eich math personoliaeth gyda’n cwis BUZZ
Treuliwch mwy o amser yn archwilio gyda 16 personoliaeth
Datgelwch eich cynnig creadigol gyda Creative types
Ewch ymhellach gyda phrofion mewnwelediad personoliaeth trwy MyCareer
Dechreuwch ddatblygu eich brand personol
Ystyriwch a myfyrio sut rydych chi’n ymddangos a sut rydych chi’n cael eich gweld, yn seiliedig ar eich Gwerthoedd, eich Diddordebau, eich Personoliaeth a’ch Sgiliau (VIPS)
Gadewch i’ch brand eich arddangos mewn ffordd gadarnhaol a phroffesiynol. Am gyngor ar sut i ddatblygu ac arddangos, chwiliwch am ‘Brand Personol’ ar My Career
*Awgrym AI – Rwyf eisiau datblygu brand personol cryf fel [dylunydd/gweithiwr proffesiynol creadigol/ayyb.]. A gaf i help i ddiffinio fy ngwerth unigryw, adnabod fy nghynulleidfa targed, awgrymu ffyrdd i gyflwyno fy hun ar-lein (portffolio, LinkedIn, cyfryngau cymdeithasol), a darparu cynllun cam wrth gam ar gyfer tyfu fy ngwelededd a hygrededd yn fy maes?
Cydnabod, deall a datblygu eich sgiliau
Cymerwch amser i ddeall y sgiliau sydd gennych a lle a sut maent yn cael eu datblygu.
Deall y Sgiliau mae pob Graddedig eu Hangen
Os ydych chi’n chwilio am syniadau gyrfa, eisiau gwybod sut mae’ch sgiliau’n ymwneud â swyddi pendodol neu a fyddai eich personoliaeth yn addas, yna ystyriwch …
Diddordeb mewn dysgu mwy am yrfaoedd nodweddiadol y gallai eich gradd arwain atynt neu ba sectorau y mae graddedigion eich gradd yn tueddu tuag atynt?
Gall ‘Beth allaf i ei wneud gyda fy ngradd?’ eich helpu drwy ddarparu syniadau a swyddi i’w hystyried.
Awyddus i archwilio pa swyddi sy’n bodoli, beth maent yn ei ddisgwyl gennych chi, a phwy allai eich cyflogi?
Gallwch gael mewnwelediad manwl i’r sgiliau sydd eu hangen, cyfrifoldebau’r swydd, eich cyflog posibl a sut i gyrraedd yno drwy ein hystod eang o Broffiliau Swydd.
Archwiliwch ystod o ddolenni sy’n berthnasol i faes eich gradd drwy ‘Dolenni Pwnc’.
Gall datblygu eich rhwydwaith eich helpu i ddeall eich sector, gwneud cysylltiadau proffesiynol a dangos yr hyn sydd gennych i’w gynnig i’r bobl iawn.
Sefydlwch bresenoldeb ar LinkedIn a / neu lwyfannau rhwydweithio eraill. Gallwch weld arweiniad LinkedIn ar MyCareer.
*Awgrym AI - Rwyf eisiau tyfu fy rhwydwaith broffesiynol, yn enwedig ym maes [......]. Ga i strategaethau ymarferol ar gyfer rhwydweithio ar-lein ac wyneb yn wyneb, awgrymiadau ar gyfer pa lwyfannau a digwyddiadau i ganolbwyntio arnynt, a chymorth gydag ysgrifennu negeseuon i gysylltu gyda gweithwyr proffesiynol eraill, mentoriaid neu gyd-weithwyr posibl?
Ennill profiad yw’r ffordd orau i ddeall a yw swydd/sector penodol ar eich cyfer chi ynghyd a darparu’r dystiolaeth ymarferol mae cyflogwyr yn chwilio amdani.
Cliciwch drwy’r tudalennau Profiad Gwaith Gyrfaoedd PDC – Dysgwch am gyfleoedd gwirfoddoli drwy CareersConnect a Gwirfoddoli Cymru.
Cwblhewch y Wobr Camu ‘Mlaen Parod am Yrfa i’ch helpu i fyfyrio ar a mynegi’ch profiad.
Yn Ystyried Astudiaethau Ôl-raddedig?
Gall astudiaethau ôl-raddedig fod yn ofynnol ar gyfer rhai swydd neu gallech fod eisiau parhau gyda’ch astudiaethau i amrywio, newid cyfeiriad, gwneud ymchwil neu oherwydd eich brwdfrydedd dros y pwnc.
- Mae Prospects yn darparu trosolwg o astudiaeth ôl-raddedig ar bob lefel, beth i’w ystyried, sut i wneud cais a sut i ariannu.
- Cymerwch olwg ar y cyrsiau ôl-raddedig sydd ar gael yn PDC.
- Chwiliwch am gyrsiau ar Find a Masters.
- Ewch i Find a PhD a Vitae ar gyfer cyfleoedd ac astudiaeth o fewn ymchwil.
- Cyfeiriwch ar Ysgol Raddedig PDC am opsiynau ymchwil yn PDC.
*Awgrym AI: Ga i help i ddod o hyd i gyrsiau ôl-raddedig addas yn y DU yn seiliedig ar fy nghefndir academaidd a'm diddordebau, awgrymiadau o’r prifysgolion gorau, eglurhad o’r broses ymgeisio (gan gynnwys dyddiadau cau, datganiadau personol, a chyfeiriadau), a chyngor ar opsiynau ariannu a fisâu myfyrwyr os oes angen?
Yn well gennych weithio i chi'ch hun neu ddechrau busnes?
Ar gyfer rhai sectorau, mae gwaith llawrydd yn fwy nodweddiadol. Sicrhewch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i ddeall gweithio'n llawrydd, gweithio i chi'ch hun a sefydlu busnes.