LinkedIn a chyfryngau cymdeithasol
Os yw eich CV yn siop sy'n arddangos popeth sydd gennych i'w gynnig, eich Llythyr Eglurhaol yw'r ffenestr siop, sy'n cynnwys gwybodaeth allweddol i ddenu ac annog y sawl sy'n mynd heibio i alw heibio, yna mae cyfryngau cymdeithasol yn darparu rhwydwaith o du blaen siopau i adeiladu a gwerthu eich brand personol!
Gyda chymaint o wahanol lwyfannau ar gael, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i'r lle ar-lein cywir i amlygu sgiliau, gwybodaeth, profiad a chyflawniadau allweddol. Mae llwyfannau poblogaidd yn cynnwys LinkedIn | X | TikTok | Instagram | Facebook.
Gellir defnyddio gwefannau/llwyfannau eraill fel YouTube, Vimeo, Behance ac ati hefyd i arddangos cymwysterau, sgiliau, profiad neu waith (portffolio), gan adeiladu presenoldeb cryf ar-lein, a chynyddu eich tebygolrwydd o gael eich darganfod.
Gall cynnwys dolenni proffil mewn CVs a cheisiadau helpu i ehangu eich cynnig ac atgyfnerthu cyflawniadau.
Peidiwch ag anghofio bod llawer o gyflogwyr yn gwirio cyfryngau cymdeithasol fel rhan o'r broses recriwtio, felly mae'n bwysig sicrhau eich bod yn ymwybodol yn union beth all cyflogwyr ei weld, fel ei fod yn creu argraff gyntaf gadarnhaol.
Awgrymiadau Defnyddiol
- Gwnewch yn siŵr bod eich cyfeiriad e-bost/enw proffil/dolen yn broffesiynol.
- Meddyliwch am yr hyn rydych chi am ei gyfleu a'i ychwanegu at eich proffil – gwobrau, profiadau nodedig, eich diddordebau, sgiliau allweddol neu'r darnau gwaith gorau.
- Gwiriwch eich gosodiadau preifatrwydd – sicrhewch y gellir dod o hyd i chi, eich bod chi'n gwybod pwy all weld eich cynnwys, a beth allan nhw ei weld.
- Cysylltwch - cysylltwch â chyflogwyr, sefydliadau a phobl yr hoffech chi weithio iddyn nhw neu gyda nhw.
- Ymgysylltwch - Hoffwch, rhowch sylwadau a rhannwch wybodaeth. Postiwch eich cynnwys eich hun sy'n arddangos gwybodaeth, profiad a sgiliau sy'n berthnasol i'r sector rydych chi am ymuno ag ef.
Adeiladu eich proffil a defnyddio LinkedIn
- Gyda 562 miliwn o ddefnyddwyr mewn mwy na 200 o wledydd - y rhwydwaith cymdeithasol proffesiynol hwn yw'r lle i ddod o hyd i swyddi a chael eich canfod.
- Mae nodweddion allweddol yn cynnwys:
- Proffil ar-lein cyfryngau cyfoethog (CV) uwch
- Chwilio am swyddi ac ymwybyddiaeth o gyfleoedd
- Adeiladu ac ymgysylltu â'ch rhwydwaith proffesiynol
- Gyda llawer o gyflogwyr yn edrych ar LinkedIn i ddod o hyd i weithwyr neu'n gwirio proffiliau fel rhan o'r broses recriwtio, os nad oes gennych broffil LinkedIn – ewch i wneud un!
- Ewch i gael URL personol - Gwnewch yn siŵr bod dolen eich proffil yn hawdd ei chanfod ac yn eich cynrychioli chi
e.e. “linkedin.com/in/joe-bloggs/” yn hytrach na “linkedin.com/in/HRbt7523lugwgn764” - Rhowch wybod i gyflogwyr eich bod yn agored i gyfleoedd - trowch ddiddordebau gyrfa YMLAEN
- Byddwch yn benodol - Gosodwch rybuddion chwilio am swydd, nodwch y rolau swyddi a'r sector sydd o ddiddordeb i chi a bydd LinkedIn yn cyflwyno swyddi perthnasol i chi yn rheolaidd.
- Mae llun proffesiynol yn cael mwy o ymwelwyr â’ch proffil. Defnyddiwch lun o ansawdd da (wedi'i oleuo'n dda, heb fod yn aneglur) sy'n wynebu ymlaen yn gwenu, gyda'r pen a'r ysgwyddau yn dangos, a chefndir plaen i gael y canlyniadau gorau.
- Gall lluniau cefndir ddangos rhywbeth amdanoch chi, eich swydd, sefydliad neu sgiliau a chyflawniadau allweddol.
Rhowch wybod i bobl beth rydych chi'n ei wneud/astudio, eich diddordebau, dangoswch wobrau perthnasol, cymwysterau, sgiliau neu brofiadau allweddol a gyrfaoedd/rolau o ddiddordeb. e.e.
- Gweithiwr Proffesiynol AD (CIPD) | Yn frwd dros Ddysgu a Datblygu | Chwilio am rôl arbenigwr Datblygu Sefydliadol |
- Myfyriwr Cyfraith PDC (LLB/LPC) | Llywydd Cymdeithas y Gyfraith 2025 | Profiad gwaith Eversheds Sutherland | Diddordeb mewn Cyfraith Teulu |
Adroddwch eich stori, gan amlinellu eich sgiliau, profiadau a chyflawniadau mwyaf perthnasol:
- Defnyddiwch allweddeiriau diwydiant a disgrifiad swydd
- Adroddwch eich stori – ychwanegwch rywfaint o bersonoliaeth (difyr ond proffesiynol)
- Ychwanegwch eich manylion cyswllt
- Dolen i arddangosfeydd cyfryngau cyfoethog – portffolios, gwefannau, blogiau, fideos, prosiectau a'ch CV.
- Rhowch deitlau modiwlau, prosiectau, aseiniadau, prosiectau mawr terfynol neu draethodau hir (a marciau), yn ogystal â'r sgiliau a ddefnyddiwyd, y wybodaeth a'r profiad a gafwyd.
- Adrannau ychwanegol – gellir eu defnyddio i dynnu sylw at hyfforddiant, cyrsiau, gwobrau, ardystiadau, gwaith prosiect, cyhoeddiadau ac ati.
Rhowch yr holl brofiad yn yr adran hon. Amlinellwch y rolau, defnyddiwch bwyntiau bwled i esbonio'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau allweddol, gan gynnwys y sgiliau a ddefnyddir. Defnyddiwch ferfau gweithredol e.e.
- 'Cwblheais yr holl waith prosiect o fewn y gyllideb a’r amserlen’
- ‘Cyflwynais adroddiad cryno ar oblygiadau allweddol y ddeddfwriaeth newydd’
- Sgiliau - Ychwanegwch eich sgiliau, gan ganolbwyntio yn gyntaf ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swyddi/diwydiant sydd o ddiddordeb i chi. Defnyddiwch y sgiliau awtoawgrymu, gan fod y rhain yn seiliedig ar y sgiliau y mae recriwtwyr yn chwilio amdanynt amlaf.
- Ardystiadau - Gofynnwch i'ch cysylltiadau eich cymeradwyo am sgiliau maent wedi'u gweld yn cael eu dangos gennych a chymeradwywch eraill hefyd - byddant yn aml yn dychwelyd y ffafr!
- Argymhellion - Wedi cael adborth gwych? Gofynnwch iddynt ei roi ar eich proffil LinkedIn fel argymhelliad, fel ei fod yno i bawb ei weld.
- Dilynwch bobl - dylanwadwyr, cyflogwyr perthnasol, sefydliadau a phobl broffesiynol sy'n gweithio yn y diwydiant rydych chi am weithio ynddo i gael cipolwg ar swyddi, dod i wybod am gyfleoedd a beth mae pobl yn eich Diwydiant yn siarad amdano.
- Cysylltwch â phobl - cysylltwch, ymunwch â grwpiau a thyfwch eich rhwydwaith. Cysylltwch â Chyn-fyfyrwyr, cyd-fyfyrwyr, academyddion, cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol rydych chi'n cwrdd â nhw yn ogystal â ffrindiau a theulu.
- Byddwch yn broffesiynol - anfonwch neges bersonol wrth gysylltu i roi rhywfaint o gyd-destun i'ch cais. e.e.
“Helo Simon, diolch am eich darlith wadd ar gyfer ein cwrs Hysbysebu neithiwr. Roeddwn i’n teimlo bod y syniadau a rannwyd gennych yn ddiddorol iawn ac fe wnes i fwynhau sgwrsio â chi amdanyn nhw wedyn. Tybed a allem ni gysylltu?”
“Rwy’n gweld eich bod wedi graddio o PDC. Rwy’n astudio Peirianneg ac yn archwilio cyfleoedd gwaith posibl. Tybed a fyddech chi’n hoffi dod yn rhan o fy rhwydwaith proffesiynol?”
- Ymgysylltwch â'ch rhwydwaith – drwy hoffi/rhoi sylwadau/rhannu/postio gwybodaeth sy'n dangos eich angerdd, sgiliau, profiadau, gwybodaeth ac arbenigedd.
- Efallai eich bod wedi darllen erthygl ddiddorol neu wedi dod o hyd i adnodd gwefan gwych i'w rannu a fyddai o ddiddordeb i'ch rhwydwaith.
- Efallai yr hoffech chi ddweud wrth bobl am rywbeth cyffrous rydych chi wedi'i wneud, neu'n mynd i'w wneud, neu efallai eisiau cysylltu i ofyn am adborth neu gyngor.
- Defnyddiwch hashnodau - i chwilio am gynnwys ac i helpu eraill ddod o hyd i'ch postiadau.
Eisiau mynd â'r sgwrs ymhellach?
Bwciwch apwyntiad i siarad ag un o'n Cynghorwyr Gyrfaoedd.