Os yw eich CV yn siop sy'n arddangos popeth sydd gennych i'w gynnig, yna eich Llythyr Eglurhaol yw'r ffenestr siop, sy'n cynnwys gwybodaeth allweddol a gynlluniwyd i ddenu ac annog y sawl sy'n mynd heibio i alw heibio.

Dylai eich Llythyr Eglurhaol fod yn fewnwelediad i'r hyn y gallwch ei GYNNIG i gyflogwr, nid yr hyn rydych chi ei eisiau ganddyn nhw.

Dylai fanylu pam rydych chi'n cysylltu â nhw, cipolwg ar pam eich bod chi'n addas ar gyfer y swydd rydych chi'n gwneud cais amdani, a pham rydych chi eisiau gweithio i'r sefydliad penodol.

Ystyriwch eich cynulleidfa bob amser - a fyddech chi â diddordeb mewn darllen eich cynnwys? Felly, byddwch yn gryno, gwnewch yn siŵr bod eich ysgrifennu'n fachog a gwnewch i'r cynnwys neidio o'r dudalen!

Awgrymiadau Defnyddiol

  • Dilynwch strwythur pedwar paragraff.
  • Fel arfer, dylai edrych fel llythyr, gyda'ch manylion cyswllt yn y gornel dde uchaf, gwybodaeth y cyflogwr ychydig yn is ar y chwith a dylai fod â dyddiad.
  • Dylai golwg ac arddull eich Llythyr Eglurhaol fod yn gyson â'ch CV.
  • Cyfeiriwch eich Llythyr Eglurhaol at unigolyn penodol bob amser.
  • Fel gyda'ch CV, byddwch yn ofalus gyda sillafu a gramadeg. Bydd unrhyw gamgymeriadau sillafu yn tanseilio unrhyw broffesiynoldeb rydych chi'n ceisio'i gyfleu ar unwaith.
  • Byddwch yn benodol i'r hyn sydd gennych i'w gynnig. Osgowch wybodaeth generig nad yw'n eich gwahaniaethu chi oddi wrth ymgeiswyr eraill.
  • Meddyliwch am eich brand - er enghraifft os oes gennych wefan bersonol, cerdyn busnes neu bortffolio, yna dylai golwg ac arddull eich CV a'ch Llythyr Eglurhaol fod yn gyson â hyn. Dylai fod cysylltiad clir rhwng y gwahanol ffyrdd rydych chi'n marchnata'ch hun ac yn arddangos eich cynnig.

Ysgrifennu eich Llythyr Eglurhaol

  • Rhowch eich manylion yng nghornel dde uchaf y dudalen.
  • Cynhwyswch fanylion y cyflogwr ychydig yn is ar y chwith.
  • Rhowch ddyddiad ar y llythyr.

  • Cyflwynwch eich hun a pham rydych chi'n cysylltu â'r cwmni.
  • Os ydych chi'n ymateb i swydd wag a hysbysebir, nodwch pa swydd rydych chi'n gwneud cais amdani a ble a phryd yr hysbysebwyd y swydd.

  • Dangoswch i'r cyflogwr eich bod wedi gwneud eich ymchwil ac yn deall y busnes a rôl y swydd.
  • Dangoswch eich cymhelliant drwy egluro beth sydd o ddiddordeb i chi am y cyflogwr / swydd.

  • Cyflwynwch eich CV a chrynhowch eich sgiliau allweddol, gwybodaeth, rhinweddau personol a phrofiad sy'n berthnasol i'r swydd.
  • Rhowch dystiolaeth o sut rydych chi wedi ennill neu ddangos y sgiliau hyn e.e. gwaith cwrs / prosiect, a phrofiad gwaith blaenorol.
  • Ychwanegwch unrhyw beth arall rydych chi'n teimlo sy'n bwysig e.e. rhinweddau personol / ysgogol ac agwedd.

  • Gorffennwch y llythyr mewn ffordd gadarnhaol a chwrtais. Nodwch hefyd eich bod ar gael ar gyfer cyfweliad.
  • Os ydych chi'n gwybod enw'r cyflogwr defnyddiwch “Yn ddiffuant”, os ydych chi wedi'i gyfeirio at “Annwyl Syr / Fadam” (er ceisiwch osgoi hyn!), yna dylech ddefnyddio “Yn gywir”.
student sat on campus in treforest

Eisiau mynd â'r sgwrs ymhellach?

Bwciwch apwyntiad i siarad ag un o'n Cynghorwyr Gyrfaoedd.