Profion seicometrig
Mae cyflogwyr a recriwtwyr nifer fawr o raddedigion yn derbyn nifer fawr o geisiadau, ac maen nhw'n defnyddio amrywiaeth eang o brofion i'w helpu i sicrhau eu bod nhw'n dewis y bobl gywir.
Gall profion seicometrig ymddangos yn frawychus, ond gan baratoi’n dda a gyda llawer o ymarfer, gallwch wella'ch tebygolrwydd o lwyddo.
Defnyddir y profion ar-lein hyn (mae rhai profion papur yn dal i fodoli) fel mecanwaith hidlo yn ystod y broses recriwtio a dethol.
Maent yn cael eu defnyddio’n aml yn y camau cynnar ar ôl cyflwyno cais, ond gellir eu defnyddio hefyd ochr yn ochr â chyfweliadau cyntaf neu ail gyfweliadau, ac mewn canolfannau asesu. Maent yn helpu i nodi sgiliau, gwybodaeth a phersonoliaeth ymgeisydd.
Awgrymiadau Defnyddiol
- Ymarfer, ymarfer, ymarfer – gwnewch eich gorau drwy gwblhau profion ac ymarferion enghreifftiol, fel eich bod chi'n gwybod beth i'w ddisgwyl. Os cewch chi brofion ymarfer penodol, cwblhewch nhw, os ddim, rhowch gynnig ar rai am ddim, yn enwedig os ydyn nhw gan yr un cwmni sy'n darparu'r profion i'r cyflogwr e.e. Assessment Day.
- Sicrhewch eich bod â’r offer cywir – bydd angen beiros, papur, cyfrifiannell rydych chi'n gyfarwydd â hi (yn aml ni allwch ddefnyddio'ch ffôn), oriawr a geiriadur arnoch. Gall cyflogwyr ddarparu offer, ond byddwch chi'n gyflymach yn defnyddio offer cyfarwydd rydych chi wedi ymarfer â nhw.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau'n ofalus – gwrandewch ar/darllenwch y cyfarwyddiadau'n ofalus, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n deall sut mae'r prawf neu'r asesiad yn gweithio, a'r hyn y mae'r cyflogwr yn chwilio amdano.
- Cadwch lygad ar yr amser - gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod faint o gwestiynau/tasgau sydd yna, ac unrhyw gyfyngiadau amser, gall y rhain fod yn derfyn amser prawf cyfan, terfynau ar gyfer setiau o gwestiynau neu fesul cwestiwn/gweithgaredd.
- Gofynion anabledd – os oes gennych anabledd a allai effeithio ar eich perfformiad, rhowch wybod i'r recriwtwyr ymlaen llaw fel y gallant wneud unrhyw drefniadau, ac addasiadau rhesymol yn ôl yr angen.
Cyfnodau Profi
- Rhesymu rhifiadol – yn asesu pa mor dda rydych chi'n dehongli data, graffiau, siartiau ac ystadegau. Yn gallu gwirio rhifyddeg sylfaenol.
- Rhesymu geiriol - yn asesu pa mor dda rydych chi'n deall gwybodaeth ysgrifenedig, gwerthuso dadleuon a datganiadau.
- Rhesymu diagramatig - yn asesu pa mor dda rydych chi'n dilyn gwybodaeth ddiagramatig neu’n sylwi ar batrymau. Yn gallu gwirio ymwybyddiaeth ofodol hefyd.
- Rhesymu rhesymegol – yn asesu sut rydych chi'n dilyn gwybodaeth sylfaenol, hyd at gasgliad gan ddefnyddio gwybodaeth neu brofiad cyfredol.
- Rhesymu diddwythol – yn debyg i brofion rhesymu rhesymegol ond yn rhoi gwybodaeth a rheolau i chi eu defnyddio er mwyn dod i ateb.
- Rhesymu anwythol – yn debyg i brofion rhesymu diagramatig neu haniaethol sy'n asesu pa mor dda rydych chi'n gweld patrymau.
- Crebwyll sefyllfaol – yn asesu eich crebwyll wrth ddatrys problemau yn y gwaith.
- Gwirio gwallau – yn asesu pa mor gyflym a chywir y gallwch ganfod gwallau.
- Holiaduron personoliaeth – yn asesu’r ffordd mae’n well gennych ddelio â gwahanol sefyllfaoedd neu ymateb iddynt. Mae Dangosydd Math Myers Briggs (Profion MBTI) yn eich rhoi mewn un o'r 16 grŵp personoliaeth, ac mae holiaduron Personoliaeth Alwedigaethol (OPQ) yn profi eich personoliaeth i wirio ei bod yn addas i'r swydd.
- Asesiadau sy'n seiliedig ar gemau – profion personoliaeth ar sail gêm, a ddefnyddir gan rai recriwtwyr graddedigion
- Ymarferion mewnflwch – yn asesu eich gallu i flaenoriaethu tasgau a rheoli amser yn effeithiol gan ddefnyddio senarios sy'n seiliedig ar waith.
- Watson Glaser – prawf rhesymu beirniadol a ddefnyddir gan gwmnïau cyfreithiol i archwilio eich gallu i resymu trwy ddadl yn rhesymegol a gwneud penderfyniadau gwrthrychol.
- Prawf gallu cwrs y Bar (BCAT) – prawf mynediad ar gyfer cwrs hyfforddi proffesiynol y Bar gan ddefnyddio'r un fethodoleg â Watson Glaser.
Fel gydag unrhyw fath o brawf, gallwch wella perfformiad os ydych chi'n gwybod beth i'w ddisgwyl ac wedi ymarfer. Defnyddiwch y profion am ddim isod i ddod yn gyfarwydd â'r fformatau nodweddiadol, a'r ffordd y gofynnir cwestiynau. Byddwch chi'n nodi meysydd i'w gwella ac yn cynyddu eich cyflymder a'ch cywirdeb.
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael digon o gwsg, wedi ymlacio, ond yn effro.
- Ewch ati i’w drin fel arholiad.
- Os ydych gartref, gwnewch yn siŵr na fydd unrhyw beth yn torri ar eich traws a bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch wrth law e.e. beiro, pad ysgrifennu, cyfrifiannell, oriawr a geiriadur. Os ydych chi mewn canolfan asesu, ystyriwch fynd ag adnoddau cyfarwydd gyda chi e.e. cyfrifiannell.
- Rhowch sylw gofalus i gyfarwyddiadau'r prawf, byddwch yn ymwybodol o'r terfynau amser, a dilynwch bob gair o’r cyfarwyddiadau.
- Darllenwch y cwestiynau a'r atebion posibl yn ofalus.
- Peidiwch â threulio gormod o amser ar un cwestiwn.
- Ceisiwch ddileu cymaint o atebion anghywir â phosibl, gall hyn eich helpu i ddod o hyd i ateb heb orfod cyfrifo pob dewis arall yn llawn.
- Atebwch gymaint o gwestiynau â phosibl o fewn y terfyn amser ond byddwch yn ymwybodol o farcio negyddol.
- Defnyddiwch unrhyw amser sydd ar ôl ar y diwedd i wirio'ch atebion.
- Peidiwch â synnu os na fyddwch chi'n gorffen popeth. Dim ond canran fach o ymgeiswyr sy'n cyrraedd y diwedd - maen nhw i fod yn heriol!
- Bydd eich canlyniadau'n cael eu cymharu â disgwyliad 'arferol' ar gyfer grŵp demograffig a ddewisir gan y cyflogwr neu ddarparwr y prawf.
- Os ydych chi'n sefyll y profion hyn fel rhan o ddiwrnod asesu, ceisiwch barhau i ganolbwyntio ac aros yn optimistaidd.
- Os ydych chi wedi bodloni'r gofynion recriwtio, llongyfarchiadau! Mae'n debyg y cewch eich gwahodd i ganolfan asesu a/neu gyfweliad.
- Os nad ydych chi wedi cyrraedd y lefel ofynnol, peidiwch â gadael i hyn effeithio arnoch. Yn aml dim ond ychydig o farciau sydd rhwng sgôr wael a sgôr sy'n pasio. Gallwch barhau i wella perfformiad mewn profion eraill.
- Myfyriwch ar y meysydd lle gwnaethoch chi wynebu anawsterau a dechreuwch ymarfer.
Eisiau mynd â'r sgwrs ymhellach?
Bwciwch apwyntiad i siarad ag un o'n Cynghorwyr Gyrfaoedd.