Cyfleoedd a gwybodaeth i fyfyrwyr rhyngwladol
Os ydych chi'n chwilio am lwyfannau sy'n darparu'n benodol ar gyfer graddedigion rhyngwladol a/neu swyddi sy'n cynnig nawdd, archwiliwch y canlynol –
- Student Circus
- GradLinkUK
- UK Visa Jobs
- Defnyddiwch eich sgiliau iaith yn y gweithle, archwiliwch gyfleoedd drwy Multi Lingual Vacancies.
- Mae gwefan GOV.UK yn darparu cofrestr o noddwyr trwyddedig.
- Darllenwch y canlynol gan Target Jobs Canllaw i Chwilio am Swyddi i Fyfyrwyr Rhyngwladol.
- Dylech hefyd archwilio'r llwyfannau a nodir drwy 'Cynlluniau Graddedigion, Swyddi Graddedigion a Hyfforddeiaethau'.
Asiantaethau Recriwtio
Gall asiantaethau helpu i ddod o hyd i gyfleoedd ar unwaith a chael swyddi gwag yn barod i'w llenwi. Gallwch chwilio am asiantaethau yn ôl sector drwy Agency Central.
Cymwysterau Rhyngwladol a'u cyfwerth yn y DU
Os yw cyflogwr yn gofyn i chi brofi sut mae eich cymwysterau rhyngwladol yn gyfwerth â rhai'r DU, yna mae gwasanaeth cymharu cyffredinol ar gael trwy UK ENIC. Cyfeiriwch at eu gwefan am wasanaethau a chostau.
Am gyngor penodol ar fisâu
Cyfeiriwch at y wybodaeth a ddarperir gan Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol yn PDC.
Mae Cyngor Materion Myfyrwyr Rhyngwladol y DU hefyd yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr.
Eisiau gweithio yn y DU wrth i chi astudio?
- Archwiliwch ‘Gweithio wrth i chi astudio a swyddi rhan-amser’
- Sut i ysgrifennu CV effeithiol ar gyfer ceisiadau am swyddi rhan-amser.
Eich datblygiad gyrfa broffesiynol
- I ddarganfod yr hyn y mae cyflogwyr ei eisiau, sut i wneud argraff arnyn nhw, ac i gael cipolwg ar y broses recriwtio, cwblhewch y gweithgaredd CareersConnect hwn.
- I gael cipolwg ar opsiynau swyddi i raddedigion yn y DU o safbwynt myfyriwr rhyngwladol, cwblhewch y gweithgaredd CareersConnect hwn.