Meddwl yn wyrdd wrth chwilio am swydd
Yn y farchnad swyddi newidiol sydd ohoni, nid tuedd yn unig yw cynaliadwyedd—mae'n flaenoriaeth fyd-eang hollbwysig. I raddedigion y DU, mae dewis gyrfa sydd â ffocws ar gynaliadwyedd yn cynnig pwrpas a chyfle.
O gofio bod y DU wedi ymrwymo i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050, mae busnesau a sefydliadau cyhoeddus yn mynd ati fwyfwy i integreiddio arferion cynaliadwy, gan greu galw cynyddol am weithwyr proffesiynol medrus a all ysgogi cyfrifoldeb amgylcheddol a chymdeithasol.
Nid yw cynaliadwyedd wedi'i gyfyngu i un sector—mae'n cwmpasu ystod eang o ddiwydiannau a rolau. Mae rôl 'werdd' neu rôl sy'n 'canolbwyntio ar gynaliadwyedd' fel arfer yn cynnwys integreiddio ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd mewn penderfyniadau ac ymarfer. Yn aml, nod y rolau hyn yw lleihau effaith amgylcheddol, hybu tegwch cymdeithasol, a gyrru atebion moesegol hirdymor. Boed ym maes adeiladu, cyllid, polisi cyhoeddus, addysg, neu dechnoleg, mae swyddi o'r fath yn cyfrannu at ddiogelu'r amgylchedd, gwytnwch yn wyneb newid hinsawdd, a chyfiawnder cymdeithasol.
- Gall swyddi cynaliadwyedd gynnwys strategaeth fusnes, cyfiawnder cymdeithasol, neu feddwl am systemau hirdymor—nid tasgau amgylcheddol yn unig.
- Fel arfer, mae swyddi gwyrdd yn rolau ymarferol neu dechnegol sydd â budd amgylcheddol uniongyrchol.
- Mae swyddi moesegol fel arfer yn gysylltiedig ag Effaith Gymdeithasol, Cynaliadwyedd Amgylcheddol a Chyfrifoldeb Corfforaethol.
Mae Gyrfaoedd PDC wedi ymrwymo i gynorthwyo myfyrwyr a graddedigion drwy gynnig cyngor diduedd o ansawdd uchel ar yrfaoedd er mwyn iddyn nhw allu gwneud dewisiadau gyrfa gwybodus sy'n cyd-fynd â’u gwerthoedd. Rydyn ni’n hyrwyddo cyfleoedd sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas, yr amgylchedd a llesiant cenedlaethau'r dyfodol. I gael gwybod mwy darllenwch ein polisi.
Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio
- Cyngor Prospects ar yrfaoedd cynaliadwy a swyddi amgylcheddol
- Cyngor gyrfaoedd ar Yrfaoedd Gwyrdd
- Cyngor TargetJobs ar ddod o hyd i yrfa werdd a swyddi sy'n gwneud gwahaniaeth
- Chwiliwch am swyddi ym mhob sector sy'n gwella'r amgylchedd ar Green Careers
Hyd yn oed os yw eich gradd mewn pwnc anghysylltiedig, mae yna gyfleoedd i ddysgu mwy am gynaliadwyedd. Dyma rai pethau allech chi eu gwneud:
- Chwilio am gyrsiau byr neu am ddim ar-lein fel Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig neu Academi SDG neu blatfformau fel Open Learn, Coursera a Future Learn.
- Dilyn podlediadau a rhaglenni dogfen, gan ddechrau â chyfresi podlediadau Sustainable Futures: Career Conversations a GreenBiz 350 a rhaglenni dogfen am gynaliadwyedd fel Planet Earth
- Ymchwil – tyrchu’n ddwfn i faterion cynaliadwyedd drwy ddarllen adroddiadau ac erthyglau gan arbenigwyr blaenllaw a llunwyr polisi. Gallai hyn gynnwys: tanysgrifio i gylchlythyr yr Uned Deallusrwydd Ynni a Hinsawdd; deall polisi'r DU, Net Sero; dod o hyd i adnoddau, newyddion ac astudiaethau achos ar-lein ar wefannau fel edie, Renewable UK a'r Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy a Thechnoleg Lân.