Dave Owen
Ynglŷn â
Dechreuodd Dave weithio fel cynorthwyydd llyfrgell yn Llyfrgell Gyhoeddus Castell-nedd yn 2000 cyn mynd ymlaen i weithio fel llyfrgellydd ysgol yn 2003. Ymunodd â Choleg Castell-nedd Port Talbot (NPTC) fel cynorthwyydd llyfrgell yn 2006 a chafodd ddyrchafiad i rôl ymgynghorydd llyfrgell yn 2007. Yn 2023, cafodd Dave ddyrchafiad i rôl uwch ymgynghorydd llyfrgell yn NPTC.
Cymwysterau
- Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- BA yn y Dyniaethau gyda Hanes yr Henfyd
- BA (Anrh) Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth
Cyfrifoldebau
- Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt gyda staff academaidd, myfyrwyr ac ymchwilwyr ym meysydd Gwyddorau Gofal a Iechyd.
- Darparu addysg ac arweiniad wrth ddefnyddio a dod o hyd i wybodaeth i grwpiau o fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff ym meysydd pwnc Gwyddorau Gofal a Iechyd.
- Darparu cefnogaeth ymholiad pwnc un i un trwy apwyntiad.
- Datblygu casgliadau print a digidol adnoddau gwybodaeth mewn cysylltiad â staff academaidd ym meysydd pwnc Gwyddorau Gofal a Iechyd. a rheoli'r cyllidebau adnoddau gwybodaeth yn y meysydd pwnc hyn.
- Creu deunyddiau dysgu a chanllawiau i gynorthwyo defnyddwyr i ddefnyddio adnoddau llyfrgell.
- Gweithio gydag aelodau eraill y Gwasanaethau Dysgu ac adrannau eraill yn y Brifysgol ar brosiectau penodol.
- Cynrychioli'r Gwasanaeth Llyfrgell mewn amryw bwyllgorau a chyfarfodydd academaidd.