Sharon Latham
Ynglŷn â
Dechreuodd Sharon ei gyrfa ym 1994 fel cynorthwyydd llyfrgell yng Ngholeg Morgannwg. Cafodd ei dyrchafu i swydd rheolwr llyfrgell Canolfan Celf a Dylunio Morgannwg (GCADT) ym 1999. Yn 2009 dechreuodd weithio i Brifysgol Morgannwg, yn gyntaf ar gampws Trefforest ac yna ar gampws Caerdydd (Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol).
Mae Sharon bellach yn gweithio ar draws campysau Trefforest, Glyn-taf a Chasnewydd fel Llyfrgellydd Academaidd y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth (FCES).
Cymwysterau
- PgCDPPHE
- BA (Anrh) yn y Dyniaethau gyda Hanes Celf, Y Brifysgol Agored
- MA mewn Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth
- FHEA
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Rheolaeth Llinell Gyntaf
- Ar hyn o bryd yn astudio BSc (Anrh) Seicoleg Fforensig (Y Brifysgol Agored)
Cyfrifoldebau
- Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt gyda staff academaidd, myfyrwyr ac ymchwilwyr ym meysydd Yr amgylchedd adeiledig, cyfrifiadureg, electroneg, peirianneg, gwyddorau cymhwysol.
- Darparu addysg ac arweiniad wrth ddefnyddio a dod o hyd i wybodaeth i grwpiau o fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff ym meysydd pwnc Yr amgylchedd adeiledig, cyfrifiadureg, electroneg, peirianneg, gwyddorau cymhwysol..
- Darparu cefnogaeth ymholiad pwnc un i un trwy apwyntiad.
- Datblygu casgliadau print a digidol adnoddau gwybodaeth mewn cysylltiad â staff academaidd ym meysydd pwnc Yr amgylchedd adeiledig, cyfrifiadureg, electroneg, peirianneg, gwyddorau cymhwysol.a rheoli'r cyllidebau adnoddau gwybodaeth yn y meysydd pwnc hyn.
- Creu deunyddiau dysgu a chanllawiau i gynorthwyo defnyddwyr i ddefnyddio adnoddau llyfrgell.
- Gweithio gydag aelodau eraill y Gwasanaethau Dysgu ac adrannau eraill yn y Brifysgol ar brosiectau penodol.
- Cynrychioli'r Gwasanaeth Llyfrgell mewn amryw bwyllgorau a chyfarfodydd academaidd.
Aelodaeth
- Cymrawd yr AAU (Academi Addysg Uwch)
- CILIP