Myfyrwyr rhan-amser, pellter a phartner
Myfyrwyr rhan-amser, a myfyrwyr o bell
Rydym yn cydnabod y gall myfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr o bell wynebu heriau wrth wneud defnydd llawn o'r llyfrgell a'i chyfleusterau. Bydd y canllaw i fyfyrwyr o bell yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ein gwasanaethau a'n cymorth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Myfyrwyr coleg partner
Bydd Llyfrgell y Brifysgol o gymorth i chi yn ystod eich astudiaethau ond bydd eich coleg yn cwrdd â'r rhan fwyaf o'ch anghenion am wasanaethau llyfrgell. Dylai eich cyswllt cyntaf fod gyda staff y gwasanaethau hyn bob amser.
Bydd y canllaw i fyfyrwyr coleg partner yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ein gwasanaethau a'n cymorth.
Ymuno â'r llyfrgell / cerdyn adnabod
Os oes angen cerdyn adnabod arnoch (sydd hefyd yn gerdyn llyfrgell i chi) ar ôl i chi gofrestru yn y lle cyntaf, cysylltwch â'ch Ardal Gynghori campws agosaf i drefnu i gerdyn gael ei gynhyrchu.
Dylai sesiynau sefydlu llyfrgell gael eu trefnu gan lyfrgell eich coleg a'ch tiwtor academaidd.
Cewch wybodaeth am lyfrgell eich coleg eich hun yn ogystal â sut i ddefnyddio gwasanaethau llyfrgell y Brifysgol.
Gwasanaethau Llyfrgell Electronig i Fyfyrwyr mewn Colegau Partner
Gall myfyrwyr sydd wedi'u lleoli mewn sefydliadau partner gael mynediad i lawer o e-adnoddau'r Brifysgol, lle caniateir hynny o dan gytundebau trwyddedu. Rydym yn darparu ystod eang o ddeunydd electronig gan gynnwys e-Gyfnodolion, e-Newyddion ac e-cronfeydddata; gellir defnyddio'r adnoddau hyn ar y campws ac oddi arno.
Defnyddiwch FINDit, ein chwiliad syml un stop i ddod o hyd i'r adnoddau electronig sydd eu hangen arnoch.
Staff yn eich coleg eich hun fydd y prif ffynhonnell cymorth wrth ddefnyddio FINDit ac e-adnoddau, ond mae gennym ystod o ganllawiau FINDit i helpu.