Rhestrau darllen
Gellir cyrchu eich rhestr ddarllen modiwlau ar-lein o Blackboard.
Mae eich rhestr ddarllen ar-lein yn darparu:
- mynediad di-dor at adnoddau - cofnodion Catalog Llyfrgell gydag argaeledd eitemau amser real, erthyglau e-gylchgronau testun llawn, e-lyfrau, penodau llyfrau wedi'u digido, gwefannau a llawer mwy.
- disgrifiad cyson ar gyfer eich adnoddau darllen - bydd pob cyfeiriad yn cael ei arddangos mewn fformat safonol a gall darlithwyr eich cwrs anodi'r rhestrau i'ch cyfeirio at dudalennau penodol neu wybodaeth bwysig..
- pwysigrwydd eitemau a nodiadau darlithydd i'ch tywys chi a'ch gofod astudio eich hun i chi gofnodi nodiadau yn erbyn pob eitem, gan gofnodi eich defnydd astudio.
- Yr opsiwn i newid rhwng y Gymraeg a'r Saesneg trwy glicio ar yr eicon glôb ar ben pob tudalen.
- Sylwer: Er bod y rhestr ddarllen ei hun ar-lein, nid yw'r holl adnoddau a restrir ar gael yn electronig. Nid oes gan rai modiwlau restr ddarllen eto ar-lein. Os nad oes gan eich modiwl restr ddarllen, gofynnwch i arweinydd eich cwrs gysylltu â Llyfrgellydd y Gyfadran.
Cyfarwyddiadau
Gwyliwch y fideo hwn (YouTube) i ddarganfod sut i gael gafael ar eich rhestrau darllen, pa swyddogaethau sydd ar gael a sut i bersonoli a threfnu eich darlleniadau.