Gall bywyd yn y Brifysgol fod yn anodd, gyda therfynau amser, arholiadau, perthnasoedd ac ymdopi â bywyd mewn amgylchedd newydd oddi cartref. Mae cynnydd yn eich astudiaethau yn llawer gwell os ydych chi'n gyfforddus â chi'ch hun a'ch byd. Mae eich helpu i gyflawni hyn yn flaenoriaeth i’r Gaplaniaeth, ac rydym yn cynnig gwahanol ffyrdd o wneud hynny.

Yr Ystafell Fyfyrio

Mae ystafell dawel, o’r neilltu yn y Tŷ Cwrdd lle mae croeso i chi bob amser eistedd.  Dewch i mewn a gofyn am yr Ystafell Fyfyrio.

Mae ystafelloedd gweddïo a myfyrio ar bob campws.

Siarad yn Gyfrinachol

Mae'r Caplaniaid bob amser ar gael ar gyfer sgwrs breifat a chyfrinachol ar unrhyw adeg.  Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gofyn.

Rydym yn addo: peidio â'ch barnu; parchu a gwerthfawrogi'r hyn sy'n bwysig i chi; cydnabod bod eich bywyd cartref a'ch perthnasoedd yn cael effaith bwysig ar eich bywyd yn y Brifysgol; ac i wneud popeth o fewn ein gallu i'ch gweld chi pan fydd angen i chi ein gweld ni.

Ond does dim rhaid i chi aros i argyfwng ddigwydd.  Dewch i'n gweld ni unrhyw adeg i siarad am unrhyw fater sy'n eich poeni chi.

Lle Distaw i Weithio

Mae ystafelloedd yn y Tŷ Cwrdd bob amser lle gallwch ddod o hyd i gornel ddistaw i wneud rhywfaint o waith.  Dewch i mewn a gofyn. 

Mae'r adeilad wedi'i gyfarparu'n llawn â WiFi

Ardal dawel: Lle i dawelwch yn ystod cyfnodau prysur

Mae Caplaniaeth PDC yn eich gwahodd i brofi ein Hardal Dawel, i'ch helpu i ddod o hyd i heddwch thawelwch yn ystod wythnos waith brysur. Mae'n cynnig cyfle i'ch rhyddhau eich hun rhag pwysau a straen ac i fyfyrio, meddwl, neu 'fod' mewn awyrgylch o dawelwch heddychlon.  Yn addas i bawb, waeth beth fo'u cred bersonol neu grefydd.

Myfyrdod dan Arweiniad

Mae’r Gaplaniaeth yn cynnig myfyrdodau byr dan arweiniad o bryd i'w gilydd.  Siaradwch â Chaplan os hoffech eu profi.