Ar Ôl Gwneud Cais
Ar ôl cyflwyno eich cais, bydd ein Tîm Ymholiadau a Derbyniadau yn asesu eich cais yn seiliedig ar eich addasrwydd ar gyfer y cwrs o’ch dewis.
Bywyd Myfyrwyr
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad drwy e-bost, felly ychwanegwch [email protected] neu [email protected] (os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol) i’r llyfr cyfeiriadau e-bost er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn ei fethu.
Ar ôl gwneud cais i Brifysgol De Cymru, bydd ein Tîm Derbyniadau yn asesu eich cais yn seiliedig ar eich addasrwydd ar gyfer y cwrs o’ch dewis. Bydd hyn yn cynnwys eich cymwysterau academaidd, profiad gwaith perthnasol ac unrhyw wybodaeth arall yn eich datganiad personol.
Yna byddwn yn cysylltu â chi gydag un o’r ymatebion canlynol:
- Cynnig diamod: Mae hyn yn golygu y gallwn gynnig lle i chi ar y cwrs o’ch dewis
- Cynnig amodol: Mae hyn yn golygu y gallwn gynnig lle i chi, ar yr amod eich bod yn cyflawni amodau penodol, e.e. cyflawni graddau penodol yn eich arholiadau Safon Uwch.
- Gwahoddiad i gyfweliad: Mae gan rai cyrsiau ofyniad i chi fynychu cyfweliad cyn y gallwn wneud penderfyniad ar eich cais. Gwneir hyn oherwydd bod y cwrs yn boblogaidd iawn neu o natur arbenigol, neu os bydd angen i ni gael gwybod mwy amdanoch cyn i ni wneud ein penderfyniad.
- Aflwyddiannus: Yn anffodus, yn yr achos hwn, ni allwn gynnig lle i chi astudio ym Mhrifysgol De Cymru. Gallwch dderbyn adborth ysgrifenedig drwy gysylltu â’n Tîm Ymholiadau a Derbyniadau, gan ddyfynnu eich enw, eich cyfeirnod adnabod personol ac enw’r cwrs rydych wedi gwneud cais amdano.
Efallai y cewch wahoddiad hefyd i fynychu diwrnod i ymgeiswyr, sy’n rhoi cyfle gwych i chi gael gwybod mwy am y cwrs o’ch dewis, siarad gyda’ch tiwtoriaid a chwrdd â myfyrwyr eraill a fydd yn astudio gyda chi. Dylech wneud pob ymdrech i fynychu’r digwyddiadau hyn, hyd yn oed os ydych eisoes wedi mynychu Diwrnod Agored.
Os ydych eisoes wedi cyflwyno eich cais ar-lein ond bod gennych wybodaeth ychwanegol yr hoffech ei hanfon atom i ategu eich cais, gallwch wneud hyn drwy ei hanfon drwy e-bost i [email protected] os ydych yn ymgeisydd yn y DU neu’r UE, neu i [email protected] os ydych yn ymgeisydd rhyngwladol. Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeirnod adnabod personol ac enw’r cwrs rydych wedi gwneud cais amdano yn eich neges e-bost.
Gallwch olrhain eich cais UCAS ar-lein can ddefnyddio Tracio eich Cwrs UCAS. Os ydych wedi gwneud cais i ni’n uniongyrchol yn lle hynny, gallwch ei olrhain ar eich Fy Mhorth PDC
Fel rhan o’ch cais, efallai y cewch eich gwahodd i fynychu Diwrnod Ymgeiswyr neu Gyfweliad. Dylech wneud pob ymdrech i fynychu’r digwyddiadau hyn er mwyn dysgu hyd yn oed mwy am eich cwrs a dod i adnabod y bobl a fydd yn eich addysgu. Os bydd angen cyfweliad ar gyfer eich cwrs, mae hyn hefyd yn un o’r ffyrdd y byddwn yn asesu eich cais.
Nawr yw’r amser i chwilio hefyd am unrhyw gyllid y gallech fod yn gymwys i’w gael, ynghyd â’r opsiynau llety.
Os na allwch ymweld â’r campws mewn person, edrychwch ar ein teithiau rhithwir.
Os ydych wedi derbyn cynnig i astudio yn PDC, bydd angen i chi ei dderbyn cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eich lle.
Os ydych wedi gwneud cais drwy UCAS, byddwch yn derbyn y cynnig ar dudalen UCAS Hub .
Mae manylion am y mathau o gynigion y gallech eu derbyn, ynghyd â chanllawiau a dyddiadau pwysig, ar gael ar wefan UCAS. Mae’n bwysig eich bod yn ymateb i’ch cynigion erbyn y dyddiad a nodwyd, neu bydd pob un o’ch cynigion yn cael eu gwrthod gan UCAS.
Os ydych yn sicr yr hoffech dderbyn ein cynnig, ond nad ydych wedi derbyn ymatebion gan bob un o’ch Prifysgolion eto, gallwch wneud hyn drwy ganslo eich cynigion eraill. Ni ellir gwyrdroi’r cam hwn, felly dylech wneud yn siŵr eich bod wedi gwneud eich meddwl yn llwyr.
Os ydych wedi gwneud cais yn uniongyrchol, gallwch dderbyn eich cynnig drwy fewngofnodi i borth ymgeiswyr ar-lein y Brifysgol a dilyn y canllawiau derbyn eich cynnig.
Os oes gennych gynnig amodol sy’n seiliedig ar eich canlyniadau arholiad, bydd angen i chi anfon eich canlyniadau atom cyn gynted ag y byddwch yn eu derbyn. Anfonwch gopi ohonynt i [email protected], gan ddyfynnu eich rhif adnabod personol. Bydd hyn yn ein galluogi i gadarnhau eich cais fel cynnig cadarn diamod.
Ar ôl i chi dderbyn cynnig cadarn diamod – llongyfarchiadau – mae eich lle yn PDC wedi’i gadarnhau! Byddwch yn derbyn manylion am gofrestru ac wythnos y glas o fis Awst ymlaen, ynghyd â chadarnhad o unrhyw lety rydych wedi gwneud cais amdano.