Diwrnod Cyfweliad Addysg Gychwynnol Athrawon
Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod cyn mynychu eich cyfweliad AGA. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi.
Archebwch eich cyfweliad
Trefnu eich cyfweliad
I drefnu eich cyfweliad, cofrestrwch i'n Porth Digwyddiadau Prifysgol. Rhaid i ymgeiswyr fynychu cyfweliad cyn cael cynnig lle ar y cwrs. Os ydych wedi derbyn gwahoddiad am gyfweliad ond heb archebu eto, mewngofnodwch nawr i sicrhau eich lle.
Os nad ydych wedi defnyddio ein Porth Digwyddiadau o'r blaen, gallwch fewngofnodi gyda'r un cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd ar gyfer eich cais. I gael mynediad i'ch cyfrif a'ch opsiynau archebu, cliciwch ar 'Wedi anghofio eich cyfrinair?', dilynwch y camau i sefydlu'ch cyfrif, ac yna mewngofnodi i archebu eich lle.
Archebu eich cyfweliadMethu gwneud dyddiad y cyfweliad?
Os nad ydych yn gallu mynychu unrhyw un o'r dyddiadau cyfweld sydd ar gael, neu os ydych wedi archebu ond bod angen i chi aildrefnu, gallwch gysylltu â'n Tîm Derbyn drwy e-bost ar [email protected] a fydd yn helpu i ddod o hyd i ddyddiad addas i chi.
[email protected]
Cyngor a pharatoi cyfweliad
Does dim rhaid i gyfweliad fod yn brofiad brawychus. Ym Mhrifysgol De Cymru rydym yn defnyddio'r broses gyfweld i asesu eich ymrwymiad i'ch dewis gwrs a sicrhau eich bod yn cynnal y gwerthoedd a ddisgwylir gan y proffesiwn ac yn addas i ofalu am eraill mewn lleoliad proffesiynol.
Dyma’ch cyfle i gwrdd â ni a chaniatáu i ni ddod i adnabod y person y tu ôl i’r cais. Mae hefyd yn gyfle i chi benderfynu a ydym yn ffit iawn i chi a gallwch weld eich hun yn astudio gyda ni!
Cofiwch, dyma’ch cyfle i feddwl am y rôl a’r rhinweddau sydd eu hangen, a sut mae eich doniau, eich sgiliau a’ch profiad trosglwyddadwy yn cyd-fynd â’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano mewn athrawon y dyfodol.
Eich cyfweliad
Ar y campws - BA (Anrh) Addysg Gychwynnol Athrawon Cynradd gyda SAC
Bydd eich diwrnod cyfweld ar y campws yn cynnwys:
- Cyfarfod a chyfarch yr Academydd
Byddwch yn cwrdd ag aelod(au) ein tîm addysgu academaidd a fydd yn rhoi trosolwg o'r cwrs Addysg Gychwynnol Athrawon Cynradd, yn ogystal â chyfle i chi weld ein cyfleusterau ar y campws. - Trafodaeth
Gofynnir cwestiynau agored i chi fel grŵp. Pam hoffech chi fod yn athro/athrawes? Beth allwch chi ei ddweud wrthym am y cwricwlwm yng Nghymru? Bydd y cwestiynau hyn yn eich galluogi i adfyfyrio ar eich cais a'ch datganiad personol, yn ogystal â chyfle i ni ddod i'ch adnabod. - Cyfweliad anffurfiol
Byddwch yn cael cyfle i sgwrsio ag aelod o'n tîm addysgu academaidd i dynnu sylw at eich angerdd dros ddod yn athro/athrawes, a sut mae eich doniau, sgiliau a phrofiad perthnasol yn cyd-fynd â'r hyn yr ydym yn chwilio amdano.
Ar-lein - BA (Anrh) Addysg Gychwynnol Athrawon Cynradd gyda SAC
Bydd eich diwrnod cyfweld ar-lein yn cynnwys:
- Cyfarfod a chyfarch yr Academydd
Byddwch yn cwrdd (yn rhithwir) ag aelod o'n tîm addysgu academaidd, a fydd yn rhoi trosolwg o'r cwrs Addysg Gychwynnol Athrawon Cynradd. - Trafodaeth a chyfweliad anffurfiol
Gofynnir cwestiynau agored i chi yn seiliedig ar y proffesiwn. Pam hoffech chi fod yn athro/athrawes? Beth allwch chi ei ddweud wrthym am y cwricwlwm yng Nghymru? Byddwch hefyd yn cael cyfle i dynnu sylw at eich doniau, eich sgiliau a'ch profiadau perthnasol sy'n dangos eich angerdd am addysgu.
TAR Addysg Gychwynnol Athrawon Cynradd gyda SAC
Bydd y digwyddiad dethol yn cynnwys y canlynol:
- Trafod ysgrif fer o gyfnodolyn (cyfweliadau ar y campws yn unig): Darllenwch yr erthygl y byddwch yn ei thrafod.
Bydd angen i chi baratoi ymlaen llaw ar gyfer y drafodaeth hon drwy ddarllen ac ymgysylltu â'r cynnwys. Ystyriwch y pwyntiau y mae'r awdur yn eu gwneud a sut maent yn cefnogi eu dadleuon a'u barn, yn ogystal â safbwynt yr awdur a'ch ymateb i hyn. - Trafod profiad perthnasol – addysgu sgil
Byddwch yn egluro i'r cyfwelydd sut byddech chi'n addysgu sgil newydd i grŵp o blant. Ni fydd gofyn i chi addysgu'r sgil ond yn hytrach, bydd gofyn i chi esbonio'n glir sut y byddech yn gwneud hyn. Gallwch ddod â nodiadau ac adnoddau gyda chi. - Cyfweliad unigol
Bydd y cyfwelydd yn asesu eich sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu, meddwl, gwerthoedd ac angerdd am addysgu. Byddant hefyd yn asesu eich dealltwriaeth o rôl y Gymraeg ac ymrwymiad i barhau i wella eich sgiliau Cymraeg.
Cwestiynau Cyffredin Cyfweliad
Rydym wedi casglu rhai o'r cwestiynau cyfweliad nodweddiadol, fel y gallwch deimlo'n hyderus eich bod chi'n gwybod popeth a ofynnir i chi yn eich cyfweliad.
- Beth ydych chi'n meddwl y mae athro yn ei wneud?
- Ydych chi wedi siarad ar ran rhywun yn enwedig os oedd ganddynt bryderon?
- Sut mae'n gwneud i chi deimlo pan fyddwch chi'n clywed am bobl yn cael eu cam-drin?
- Pam ydych chi eisiau bod yn athro/athrawes gymwys?
- Beth wnaeth eich ysbrydoli i ystyried y proffesiwn hwn?
- Pam ydych chi'n meddwl eich bod chi'n addas iawn i ddod yn athro/athrawes yn y dyfodol?
- Pa rannau o'r cwrs ydych chi'n meddwl fydd fwyaf heriol i chi?
- Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf am y cwrs?
- Ble ydych chi'n gobeithio gwneud y gwahaniaeth mwyaf? Pam?
- Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch i fod yn broffesiynol?
- Beth ydych chi'n ei wneud sy'n dangos ymddygiad proffesiynol?
Cyrraedd eich cyfweliad
Wedi'i leoli yng nghanol Dinas Casnewydd, mae'n hawdd cyrraedd y campws mewn car ac mae ganddo gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol.