Polisi Derbyniadau
Mae’r Polisi hwn yn berthnasol i geisiadau i bob rhaglen addysg uwch Prifysgol a addysgir ar ein campysau yn Nhre-fforest, Glyn-taf, Caerdydd a Chasnewydd.
Gwneud Cais/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/11-campus-exterior-shots/Ty-Crawshay-sunrise_26013-(3).jpg)
Mae’r Polisi hwn yn berthnasol i geisiadau i bob rhaglen addysg uwch Prifysgol a addysgir ar ein campysau yn Nhre-fforest, Glyn-taf, Caerdydd a Chasnewydd.
Mae’r Polisi wedi’i lunio a’i gymhwyso yn unol â pholisïau eraill y Brifysgol ac ochr yn ochr â hwy wrth weithredu derbyniadau gan gynnwys y Cynllun Academaidd gyda chyfeiriadau penodol at Reoliadau’r Brifysgol ar gyfer Cyrsiau a Addysgir sy’n cael eu cynhyrchu a’u hadolygu’n rheolaidd.
Yn sail i’r Polisi Derbyniadau mae Gweledigaeth y Brifysgol i fod yn Brifysgol o ddewis yng Nghymru a thu hwnt, i fyfyrwyr, sefydliadau a chymunedau sy’n gwerthfawrogi addysg â ffocws galwedigaethol ac ymchwil gymhwysol sy’n darparu datrysiadau i broblemau sy’n effeithio ar gymdeithas a’r economi.
Rhoddwyd ystyriaeth i ddeddfwriaeth berthnasol gyda chyfeiriadau at gyngor ac arweiniad Cod Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer y thema Recriwtio, Derbyn ac Ehangu Mynediad.
1 Egwyddorion Derbyn
Mae Prifysgol De Cymru yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â’r gallu i gyfranogi a diddordeb a chymhelliant i lwyddo mewn addysg uwch. Gwneir penderfyniad i dderbyn myfyriwr ar sail teilyngdod unigol a’r broses o wneud cais. Byddwn yn ystyried ystod eang o gymwysterau ffurfiol yn ogystal ag unrhyw brofiadau gwaith/bywyd perthnasol ac ystyrir pob cais ar sail unigol.
1.1 Y Sail ar gyfer Dethol
Mae’r broses ddethol yn dechrau drwy ystyried cais wedi’i gwblhau. Cynhelir cyfweliadau neu glyweliadau ar gyfer rhai cyrsiau, gan gynnwys y rhai pan fydd yn ofyniad gan gorff proffesiynol sy’n achredu cyrsiau penodol.
Mae’r prosesau a ddefnyddir i ddefnyddir i ddethol wedi’u hategu gan yr egwyddorion canlynol:
- Mae’r broses yn seiliedig ar degwch a theilyngdod, ceisio lleihau rhwystrau a darparu cefnogaeth briodol.
- Rydym yn cydnabod nad yw talent a photensial o bosibl yn cael eu hadlewyrchu bob amser mewn canlyniadau arholiadau, a chroesawn geisiadau sy’n dangos tystiolaeth amgen o sgiliau a chymwyseddau a allai gael eu derbyn weithiau yn hytrach na chymwysterau ffurfiol.
- Rydym yn ystyried yr ystod eang o gymwysterau sydd ar gael a chroesawn geisiadau gan y rhai â chymwysterau nad ydynt yn rhai traddodiadol. Byddwn yn gofyn am brawf o gymwysterau a chanlyniadau arholiadau yn ystod y broses gwneud cais.
- Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr nad yr iaith Gymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf i sicrhau cymhwyster sy’n dderbyniol i’r Brifysgol, sy’n dangos eu gallu i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg (lle y bo’n briodol) a chwblhau eu cwrs dethol yn llwyddiannus. Mae canllawiau ar gael ar wefan y Brifysgol.
1.2 Lleihau rhwystrau
Mae PDC yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn annog poblogaeth ehangach o fyfyrwyr drwy groesawu ceisiadau gan y rhai â diddordeb mewn addysg uwch. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob grŵp hil a chymdeithasol a’r rhai ag anghenion arbennig neu anableddau.
Nodir gofynion mynediad cyrsiau ar wefan y Brifysgol a hefyd ar wefan UCAS ar gyfer cyrsiau llawn amser israddedigion.
2 Cyfrifoldeb dros Dderbyniadau
2.1 Cyfrifoldebau
Mae PDC yn gweithredu gweithdrefn derbyniadau canolog ar gyfer y mwyafrif o’u cyrsiau lle gwneir penderfyniadau ar sail meini prawf mynediad penodedig. Mae pob Cyfadran yn gyfrifol am bennu eu meini prawf derbyniadau ar gyfer pob cwrs, mewn cydweithrediad â staff Derbyniadau'r Brifysgol yn ôl yr angen. Mae diwygiadau i feini prawf mynediad cyrsiau yn cael eu hystyried gan y Tîm Ymholiadau a Derbyniadau mewn cydweithrediad â chyfadrannau drwy Fforwm Derbyniadau’r Brifysgol.
Y Tîm Ymholiadau a Derbyniadau sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar geisiadau pan na fydd angen cynnal cyfweliad, clyweliad neu adolygiad o bortffolio. Pan fydd angen cyfweliad, clyweliad neu adolygiad o bortffolio, bydd y Tîm Ymholiadau a Derbyniadau yn cydlynu gweithgarwch o’r fath gyda staff academaidd ac yn rhannu’r canlyniad mewn dull amserol a phroffesiynol gyda’r ymgeisydd. Gweler adran 5 am fanylion.
2.2 Monitro ac Adolygu
Mae Pwyllgor Sicrhau Ansawdd y Brifysgol yn cadarnhau’r polisi a’r Tîm Ymholiadau a Derbyniadau sy’n gyfrifol am ei weithredu o ddydd i ddydd, mewn ymgynghoriad â’r Cyfadrannau a’r Adrannau Corfforaethol perthnasol. Arweinir ymgynghoriadau ar y Polisi a diwygiadau iddo gan y Pennaeth Derbyniadau, mewn ymgynghoriad â’r Fforwm Derbyniadau ac a gyflwynir i’r Pwyllgor Sicrhau Ansawdd i’w hystyried, eu diwygio a/neu eu cadarnhau. Rhoddir ystyriaeth i ganllawiau a pholisïau eraill gan gynnwys y Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Adsefydlu Troseddwyr a Deddf yr Iaith Gymraeg yn cael ei fonitro’n weithredol.
Mae’r Tîm Ymholiadau a Derbyniadau yn adolygu’r prosesau a’r gweithdrefnau derbyn yn flynyddol, fel rhan o’i ymrwymiad i sicrhau ansawdd a gwelliannau parhaus.
Mae PDC yn ymrwymedig i gyfle cyfartal yn eu derbyniadau ac ategir hyn gan “Gynllun Cydraddoldeb Strategol” y Brifysgol (mae’r manylion ar gael ar gais). Cynhelir Asesiad o Effaith y Polisi ar Gydraddoldeb yn gyfnodol ac mae ar gael ar gais.
2.3 Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Ar gyfer rhai cyrsiau penodol, er enghraifft, addysgu neu bynciau sy’n gysylltiedig ag iechyd neu waith cymdeithasol, mae angen i ymgeisydd ddarparu datgeliad llawn o’u holl droseddau a rhybuddion ar y pwynt gwneud cais. Mae'r cyrsiau hyn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyn cofrestru. Cydlynir y broses gan y Tîm Ymholiadau a Derbyniadau ar y cyd â'r Cyfadrannau academaidd perthnasol.
3 Y Broses Gwneud Cais
3.1 Trosolwg
Y Tîm Ymholiadau a Derbyniadau sy’n gyfrifol am dderbyn a phrosesu ceisiadau ac eithrio’r rhai ar gyfer y Rhaglenni Ymchwil, sy’n gyfrifoldeb i’r Swyddog Ymchwil Graddedigion. Mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais wedi’i gwblhau’n llawn wedi’i ategu gan eirdaon a chadarnhad o ganlyniadau arholiadau cyn cofrestru. Ni chynigir lle i unrhyw ymgeisydd neu fyfyriwr cofrestredig sy’n methu â chyflawni’r gofyniad hwn, neu sy’n cyflwyno/darparu gwybodaeth ffug fel rhan o’u proses gwneud cais, neu gall y Brifysgol dynnu'r cynnig hwnnw yn ôl, ni waeth pa hyd o’r cwrs a astudiwyd eisoes. Os bydd angen, hysbysir Tîm Dilysu UCAS hefyd.
Y Tîm Ymholiadau a Derbyniadau sydd hefyd yn gyfrifol am gyfathrebu gydag ymgeiswyr hyd at y cam cyn-cofrestru ac ar y pwynt hwn bydd y Gofrestrfa Academaidd a’r Cyfadrannau yn dod yn gyfrifol am sefydlu myfyrwyr ar gyrsiau. Bydd y Tîm Ymholiadau a Derbyniadau yn cydlynu’r broses o gyfathrebu gwybodaeth am gofrestru a llety i ymgeiswyr llwyddiannus, i’w galluogi i symud ymlaen o fod yn ddarpar fyfyriwr i fod yn fyfyriwr cofrestredig.
3.2 Myfyrwyr y mae eu hastudiaethau wedi dod i ben/cael eu terfynu*
Os yw’r brifysgol wedi penderfynu nad yw myfyriwr yn gallu parhau â’i astudiaethau mwyach (e.e. terfynu, tynnu’n ôl oherwydd diffyg ymgysylltu), ni fydd fel arfer yn cael cofrestru am o leiaf deuddeg mis o’r dyddiad y gwnaed y penderfyniad hwn. Ar ôl y cyfnod hwn mae ganddynt yr hawl i gofrestru ond dylent fod yn ymwybodol y bydd eu hastudiaeth flaenorol yn cael ei hystyried ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ategol o brofiad pellach neu astudiaeth academaidd a gymerwyd ers gadael y Brifysgol. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddai ymgeiswyr yn cael eu hystyried ar gyfer yr un maes astudio neu faes astudio cytras, a byddai angen cymeradwyaeth Cyfarwyddwr y Gofrestrfa Academaidd neu enwebai.
Troednodyn – Ni fydd myfyrwyr sydd wedi’u tynnu’n ôl o’u hastudiaethau o ganlyniad i weithdrefn ddisgyblu yn gymwys i ddychwelyd i’r Brifysgol o dan unrhyw amgylchiadau oni bai bod y canlyniad yn caniatáu trosglwyddo credydau.
3.3 Ceisiadau sydd â dyledion sy’n daladwy i’r Brifysgol
Ni chaniateir i ymgeiswyr sydd â dyled i’r Brifysgol am unrhyw reswm gofrestru ar raglen yn y Brifysgol. Felly, bydd unrhyw geisiadau newydd yn cael eu tynnu’n ôl ar y pwynt gwneud cais nes y bydd y ddyled wedi’i thalu’n llawn neu pan fydd cynllun ad-dalu wedi'i gytuno a'i dystiolaethu gyda’r staff Refeniw.
3.4 Newidiadau i Gyrsiau
Bydd y Brifysgol yn ymgynghori ag ymgeiswyr, yn eu hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau i leoliadau astudio, teitlau cyrsiau, cynnwys cwrs, costau ychwanegol, ffioedd neu gyrsiau sy’n dod i ben. Pan fydd angen, bydd ymgeiswyr yn cael eu cynghori a’u cefnogi er mwyn sicrhau opsiwn astudio amgen yn PDC.
3.5 Penderfyniadau ar Geisiadau
Bydd y Brifysgol, ar ôl i’r holl wybodaeth ofynnol gael ei chyflwyno, yn anelu at wneud penderfyniad derbyniadau cyn gynted â phosibl. Gallai rhai ffactorau oedi’r broses, yn benodol pan fydd angen gwybodaeth bellach gan yr ymgeisydd a/neu pan fydd angen cyfweliad neu glyweliad neu yn ystod cyfnodau brig dyddiadau cau UCAS. Anfonir negeseuon e-bost cynigion at bob ymgeisydd yn eu hysbysu o’u penderfyniad.
Mae negeseuon e-bost cynigion yn nodi dyddiadau dechrau, teitl a lleoliad y cwrs. Mae gwybodaeth bellach, gan gynnwys ffioedd a chostau astudio ychwanegol wedi’u cynnwys ar dudalennau unigol cyrsiau. Hefyd, mae dolen i Delerau ac Amodau Tîm Derbyniadau’r Brifysgol wedi’i chynnwys yn y neges e-bost. Mae Telerau ac Amodau Derbyniadau’r Brifysgol yn cael eu hadolygu’n flynyddol a’u cyhoeddi ar wefan y Brifysgol.
3.6 Gwneud Cais am Gyrsiau
Mae’n rhaid gwneud pob cais israddedig amser llawn drwy Wasanaeth Derbyniadau Prifysgolion a Cholegau (UCAS), neu Wasanaeth Derbyniadau Conservatoires y DU (CUKAS) ar gyfer cyrsiau cerddoriaeth israddedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (RWCMD), neu hyfforddiant athrawon graddedig drwy Hyfforddiant Athrawon UCAS. Dylid gwneud pob cais israddedig rhan amser a phob cais ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil drwy broses gwneud cais ar-lein y Brifysgol.
3.7 Ceisiadau Gohiriedig
Gall ymgeisydd wneud cais i oedi dechrau eu cwrs drwy wneud cais i ohirio eu cais neu gallant, mewn rhai achosion, wneud cais ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Derbynnir ceisiadau gohiriedig ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau, fodd bynnag ni all nifer fach dderbyn ceisiadau gohiriedig felly dylai pob ymgeisydd wirio ar dudalen cyrsiau’r Brifysgol neu gadarnhau gyda’r Tîm Ymholiadau a Derbyniadau a yw'n bosibl gohirio cyn gwneud cais.
3.8 Cofnod o Ddysgu a Throsglwyddiadau Blaenorol
Gall astudiaeth, profiad gwaith a hyfforddiant blaenorol gyfrif hefyd fel credyd tuag at eich rhaglen astudio - gelwir hyn yn ‘Cydnabod Dysgu Blaenorol’ (RPL). Os oes gennych gymwysterau rydych wedi’u cyflawni, er enghraifft Gradd Sylfaen neu Dystysgrif Addysg Uwch neu fodiwlau gradd israddedig neu ôl-raddedig mewn prifysgol arall, gallwn ystyried cais am eithrio modiwl. Mae mynediad uniongyrchol i ail neu drydedd flwyddyn rhaglen israddedig hefyd yn bosibl, yn amodol ar yr hyn a gyflawnwyd a’i berthnasedd i’r rhaglen y gwneir cais amdani. Gelwir y broses hon yn Trosglwyddo Credyd a gallwn ganiatáu hyn pan fyddwn yn gallu mapio’r modiwlau sydd gennych yn uniongyrchol, a’u cynnwys i’r rhai ar y rhaglen rydych yn gwneud cais amdani. Dim ond yn erbyn modiwlau cyflawn y gellir cymhwyso credyd, ni ellir ystyried modiwlau sydd wedi’u cwblhau'n rhannol.
3.9 Derbyniadau Rhyngwladol
Mae ceisiadau ar gyfer derbyniadau gan fyfyrwyr rhyngwladol yn cael eu hystyried yn yr union yr un ffordd â cheisiadau Cartref/yr Undeb Ewropeaidd, ac eithrio pan osodir gofynion ychwanegol ar y sefydliad gan gyrff llywodraethol/deddfwriaethol.
3.10 Asesiadau Ffioedd
Pan fydd statws ffioedd ymgeisydd yn ansicr o’r wybodaeth a ddarparwyd yn y cais, gallwn ofyn am wybodaeth ychwanegol i’n galluogi i benderfynu ar y statws cywir a sicrhau strwythur ffioedd cywir ar gyfer y cwrs.
4 Cyfathrebu gydag ymgeiswyr, gan gynnwys adborth, cwynion ac apeliadau
Yn achos ymgeiswyr aflwyddiannus, darperir adborth, cyngor ac arweiniad mewn ymgynghoriad â’r staff academaidd yn ôl y cais, ac eithrio cyrsiau Nyrsio a Bydwreigiaeth. Mae’n rhaid gwneud pob cais am adborth yn ysgrifenedig i PDC. Ni fydd unrhyw gyfathrebu ag unrhyw un heblaw'r ymgeisydd, neu heb ganiatâd yr ymgeisydd.
Pan fydd gan ymholwr neu ymgeisydd gŵyn neu apêl bydd angen iddynt gael mynediad i'r Polisi Cwynion ac Apeliadau yma.
5 Staff Ymholiadau a Derbyniadau
Mae'r holl staff Ymholiadau a Derbyniadau yn ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad parhaus gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o ddatblygiadau ar lefel y Brifysgol, cenedlaethol a rhyngwladol mewn perthynas â derbyniadau i addysg uwch. Mae cyswllt agos rhwng staff Ymholiadau a Derbyniadau a'r rhai yn y Cyfadrannau/adrannau yn sicrhau cysondeb a thryloywder yn y broses dderbyn.
6 Data Personol
Bydd ymgeiswyr i PDC yn derbyn manylion, o fewn pedair wythnos i gyflwyno eu cais, o sut y defnyddir eu data personol yn y broses derbyn a chofrestru. Mae hyn yn cydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Cyhoeddir manylion hefyd ar adran derbyniadau gwefan y Brifysgol.
7 Deddf yr Iaith Gymraeg 2018
Croesewir ceisiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.
8 Cynnydd
Gall ymgeiswyr sydd wedi astudio am Radd Sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Sefydliad Partner neu sefydliad arall ac sy'n dymuno “ychwanegu” at radd lawn berthnasol ym Mhrifysgol De Cymru wneud cais i wneud hynny drwy gwblhau cais ar-lein y Brifysgol. Yn ogystal, gall ymgeiswyr sydd wedi astudio gradd israddedig ym Mhrifysgol De Cymru neu mewn sefydliad AU arall ac sy'n dymuno gwneud cais am gwrs ôl-raddedig wneud hynny trwy gwblhau cais ar-lein y Brifysgol.
9 Siarter Myfyrwyr
Datblygwyd y polisi hwn gydag ystyriaeth i egwyddorion a gorchmynion Siarter Myfyrwyr Prifysgol De Cymru, sy’n hygyrch i bob ymgeisydd a myfyriwr.
Cymeradwywyd gan y Bwrdd Academaidd 11 Mehefin 2008
Diwygiwyd yn dilyn y Fforwm Derbyniadau 5 Tachwedd 2009
Diwygiwyd yn dilyn y Fforwm Derbyniadau 21ain Ebrill 2010
Cymeradwywyd gan y Bwrdd Academaidd Tachwedd 2010
Diweddarwyd Ionawr 2012 Diweddarwyd Mawrth 2012
Diweddarwyd Hydref 2012
Diweddarwyd Ebrill 2013
Diweddarwyd Tachwedd 2013
Diweddarwyd Mehefin 2014
Diweddarwyd Tachwedd 2015
Cymeradwywyd gan y Bwrdd Academaidd Ionawr 2015
Diweddarwyd yn dilyn y Fforwm Derbyniadau Ionawr 2018
Diweddarwyd yn dilyn y Fforwm Derbyniadau Ebrill 2018
Cymeradwywyd gan y Gwasanaeth Ansawdd ac Academaidd Medi 2019
Diweddarwyd Chwefror 2025