Polisi Cwynion ac Apeliadau
Gwybodaeth am Bolisi Cwynion ac Apeliadau'r Brifysgol ar gyfer Ymholwyr ac Ymgeiswyr.
Polisi Derbyn
Ym Mhrifysgol De Cymru rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ac mae’r Tîm Ymholiadau a Derbyniadau yn monitro adborth yn barhaus ac yn mynd i’r afael â phryderon sy’n cael eu mynegi gan staff, myfyrwyr, ymgeiswyr neu ymholwyr.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd achlysuron o bosibl, pan fydd ymholwr neu ymgeisydd yn teimlo’n anfodlon gyda’r gwasanaeth a ddarparwyd gan Dîm Ymholiadau a Derbyniadau’r Brifysgol, unrhyw weithdrefnau sy’n rhan o’r broses ymholiadau a derbyniadau, a/neu ganlyniadau unrhyw rai o’r prosesau hyn.
Sut i wneud cwyn neu apêl
Mae’r polisi hwn yn cynnwys arweiniad manwl ar y broses, gan gynnwys beth sy’n cael ei ystyried yn gŵyn neu’n apêl, sut i wneud cwyn neu apêl, a sut rydym yn storio, yn prosesu ac yn monitro’r holl gyflwyniadau. Gellir cyflwyno cwynion ac apeliadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na chwynion ac apeliadau a wneir yn Saesneg.