Dyddiadau Symud I mewn mis Medi 2026
Byddwch yn derbyn e-bost gan y Llety tua mis Awst gyda'ch dyddiad symud i mewn a dolen i archebu'ch slot amser cyrraedd. Os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch, cysylltwch ag [email protected].
Sefydlu
Fel amod yn eich cytundeb meddiannaeth tymor penodol, mae'n ofynnol i chi gwblhau'r cwrs sefydlu Ar-lein gorfodol ar gyfer y Neuaddau Preswyl. Mae hyn yn ein galluogi i'ch croesawu i’r Neuaddau Preswyl a rhoi gwybodaeth allweddol i chi am fyw yn llety'r Brifysgol a chadw’n ddiogel. A fyddech cystal â chydnabod eich bod wedi cwblhau'r cwrs sefydlu yma.
Cydnabod Cwblhau'r cwrsMyfyrwyr ag anabledd
Os oes gennych anabledd sy'n golygu y bydd angen cymorth neu fesurau ychwanegol arnoch er mwyn gwacáu adeilad mewn argyfwng, llenwch Ffurflen Cynllun Gwagio Brys Personol a fydd yn ein helpu i lunio cynllun addas. Unwaith y bydd wedi'i ddatblygu, y cynllun fydd y dull arfaethedig o ymadael mewn argyfwng (gan gynnwys ymarferion tân).
Unwaith y byddwn wedi gwneud hyn, byddwn yn cysylltu â chi i'w drafod. Dychwelwch eich ffurflen wedi'i llenwi atom ni yn [email protected]
Ffurflen Cynllun Gwagio Brys Personol