Symud i mewn
Cyrraedd eich Llety yng Nghaerdydd
Yng Nghaerdydd, rydyn ni’n gweithio gydag ychydig o ddarparwyr sy'n cynnig llety i fyfyrwyr yng nghanol y ddinas.
Llety Crwydro Caerdydd
Dyddiad Dechrau
Bydd eich contract ystafell yn nodi’r manylion ynghylch pryd y bydd eich contract yn dechrau ac yn dod i ben, a bydd pob darparwr yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi’n rheolaidd gyda manylion mwy penodol am gyfarwyddiadau ac amseroedd cyrraedd.
Dyraniad Ystafell
Bydd darparwr eich llety yng Nghaerdydd yn anfon e-bost atoch gyda'ch dyraniad ystafell fel arfer wythnos i bythefnos cyn i chi gyrraedd. Bydd yr e-bost hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am eich llety a’r hyn i’w ddisgwyl. Rydyn ni’n annog pob myfyriwr a rhiant i’w ddarllen cyn cyrraedd y llety o'ch dewis.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'ch darparwr:
- Lumya student living - [email protected], +44 02920499844
- Zenith Cardiff - [email protected], 02921 040198
- Unite Ty Pont Haearn - [email protected], 02920498148