Manylion y Rhaglen

  • Hyfforddiant wythnosol gyda staff hyfforddi arbenigol
  • Amgylchedd hyfforddi elitaidd o ansawdd uchel
  • Cefnogaeth cryfder a chyflyru
  • Gwasanaethau tylino ffisiotherapi a chwaraeon
  • Dadansoddi perfformiad
  • Dillad chwaraeon prifysgol am ddim*
  • Aelodaeth cyfleuster chwaraeon am ddim*
  • Siaradwr gwadd a digwyddiadau datblygu
  • Hyrwyddo a phrofiad yn y cyfryngau
  • Cyfleoedd ysgoloriaeth chwaraeon

*Yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n derbyn yr ysgoloriaeth chwaraeon yn unig.

Rhestr wythnosol enghreifftiol o'r hyn i'w ddisgwyl:

  • Dydd Llun: Hyfforddiant cryfder a chyflyru
  • Dydd Mawrth: Sesiynau hyfforddi a pharatoi gemau
  • Dydd Mercher: Diwrnod Gêm
  • Dydd Iau: Adferiad a dadansoddi perfformiad
  • Dydd Gwener: Diwrnod i ffwrdd (neu hyfforddiant annibynnol)

Byddwch yn derbyn hyfforddiant lefel perfformiad proffesiynol trwy gydol eich amser gyda'r rhaglen wedi'i chyfuno â chyfleusterau hyfforddi penodol i chwaraeon. Mae’r staff hyfforddi ym Mhrifysgol De Cymru yn gweithio’n ddiflino i sicrhau eich bod yn cael eich gwerthfawrogi drwy gydol eich amser yn y Brifysgol ac yn cynnwys y canlynol:

  • Hyfforddwyr Perfformiad
  • Hyfforddwyr Cryfder a Chyflyru
  • Gwyddor Chwaraeon a Dadansoddi Fideo
  • Tylino Chwaraeon a Therapi

Gwybodaeth Ysgoloriaeth a Chwestiynau Cyffredin

Cynigir tri chategori gwahanol o ysgoloriaeth i ysgolheigion chwaraeon sy'n amrywio o ran gwobrau ariannol a manteision ysgolheigion chwaraeon. Mae gan bob categori ei feini prawf cymhwysedd ei hun fel y manylir isod:

Ysgoloriaeth Platinwm

£1,500, ynghyd â cherdyn ParthFfit gwerth £215 | Proffil: Cenedlaethol dan 20/21 neu gap hŷn.

Mae ein hysgoloriaeth Platinwm ar gael i fyfyrwyr sy'n cystadlu ar lefel genedlaethol yn unig. Mae ysgoloriaethau chwaraeon lefel broffesiynol ar gael o fewn ein categorïau aur ac arian.

Ysgoloriaeth Aur

£1,000, ynghyd â cherdyn ParthFfit gwerth £100 | Proffil: Cap cenedlaethol dan 18*

Ystyrir cynrychiolaeth chwaraeon ar lefel broffesiynol gyfatebol hefyd ar gyfer pêl-droed a rygbi.

Pêl-droed: Contract proffesiynol dan 23 neu glwb a gynrychiolir yng Nghynghrair Pencampwyr UEFA, Cynghrair Europa neu gyfwerth.

Rygbi: Contract dan 21 proffesiynol neu gynrychiolaeth ar lefel uwch cynghrair rygbi.

Ysgoloriaeth Arian

£500, ynghyd â cherdyn ParthFfit gwerth £100 |  Proffil: Cenedlaethol dan 16*

Ystyrir cynrychiolaeth chwaraeon ar lefel broffesiynol gyfatebol hefyd ar gyfer pêl-droed a rygbi.

Pêl-droed: Pêl-droed proffesiynol 16-18 oed neu aelod presennol o glwb uwch gynghrair.

Rygbi: Contract dan 18 proffesiynol neu gynrychiolaeth ar lefel uwch cynghrair rygbi.

Unrhyw fyfyriwr amser llawn neu ran-amser sy'n astudio ym Mhrifysgol De Cymru. Rhaid i fyfyrwyr rhan-amser fod yn astudio o leiaf 60 credyd y flwyddyn i fod yn gymwys a chynrychioli'r Brifysgol yn BUCS. Gallwch wneud cais bob blwyddyn ar unrhyw adeg yn ystod eich astudiaethau.

Gallwch wneud cais bob blwyddyn o'ch astudiaeth, p'un a ydych yn fyfyriwr israddedig, rhan-amser neu ôl-raddedig amser llawn ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd rhagofyniad. Os bydd yn rhaid i chi ail-sefyll am flwyddyn ni fyddwch yn gallu ailymgeisio am yr un flwyddyn eto.