Amgylchiadau Esgusodol
Mae'r Brifysgol yn diffinio 'amgylchiadau esgusodol' fel a ganlyn: "amgylchiadau eithriadol sydd y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr ac sydd wedi eu hatal, neu a fydd yn eu hatal rhag perfformio mewn asesiad ar y lefel a ddisgwylir neu sy'n ofynnol ganddynt."
Mae'r asesiadau dan sylw yn cynnwys gwaith cwrs, profion dosbarth ac arholiadau. Os na allwch gyflwyno gwaith cwrs erbyn y dyddiad cau, neu sefyll prawf dosbarth neu arholiad, oherwydd amgylchiadau esgusodol, gallwch gyflwyno cais o dan Reoliadau Amgylchiadau Esgusodol PDC. Prif bwrpas y rheoliadau hyn yw sicrhau tegwch i fyfyrwyr mewn perthynas â'r asesiadau y mae'n ofynnol iddynt eu cwblhau fel rhan o'u cwrs.
Mae tri math o gais Amgylchiadau Esgusodol:
- Hunanardystio
- Cais safonol
- Anabledd/cyflwr hirsefydlog
Byddai cais llwyddiannus yn arwain at ganiatáu estyniad neu ohiriad i chi, gan eich galluogi i wneud yr asesiad ar y cyfle addas nesaf. Gallai hyn fod yn ystod y cyfnod ailsefyll neu ar adeg y cytunir arno gan diwtor y modiwl.
Myfyrwyr Colegau Partner - mae'r ffordd rydych chi'n gwneud cais am Amgylchiadau Esgusodol yn wahanol, gweler isod am fanylion.
Materion TG - ar gyfer problemau TG sy’n digwydd yn ystod asesiad mae proses wahanol, gweler Gwybodaeth a Chymorth gydag Asesiadau.
Dyddiadau Pwysig
Bob blwyddyn mae dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno hawliadau amgylchiadau esgusodol ar gyfer y cyfnod ailsefyll, ar gyfer ein cyrsiau nyrsio a chyrsiau ôl-raddedig.
Cyhoeddir y dyddiadau cau hynny ar y dudalen hon pan fyddant ar gael.
Gellir defnyddio hunanardystiad am gyfnod byr lle byddai'n anodd cael tystiolaeth.
Rhaid i'r amgylchiadau fod wedi digwydd yn y 7 diwrnod calendr cyn dyddiad cau/amser yr asesiad, a rhaid i chi gyflwyno'ch cais cyn dyddiad cau/amser yr asesiad.
Nid oes angen tystiolaeth ar gyfer y math hwn o gais fel arfer.
Yr hyn y gallwch wneud cais amdano
- Estyniad hyd at uchafswm o 5 diwrnod gwaith i ddyddiad cau cyflwyno gwaith cwrs.
- Peidio â chyflwyno/gohirio tan y pwynt asesu nesaf, e.e. y cyfnod ailsefyll, heb gosb am asesiad ar y diwrnod.
Sut i wneud cais
- Ymgeisiwch yma: https://extenuatingcircumstances.southwales.ac.uk
- Dewiswch "Hunanardystio" ar gyfer y math hwn o gais.
Gellir defnyddio’r math hwn o gais ar gyfer amgylchiadau a allai effeithio ar astudiaethau am 7 diwrnod calendr neu fwy ac y gellir eu cefnogi gan dystiolaeth annibynnol.
Dylech wneud cais o fewn 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad cyflwyno/cau gwreiddiol ar gyfer yr asesiad/au.
Yr hyn y gallwch wneud cais amdano
- Estyniad hyd at uchafswm o 15 diwrnod gwaith i ddyddiad cau gwaith cwrs
- Gohirio i'r pwynt asesu nesaf, e.e. y cyfnod ailsefyll, heb gosb.
Sut i wneud cais
- Ymgeisiwch yma: https://extenuatingcircumstances.southwales.ac.uk
- Dewiswch ‘Safonol’ ar gyfer y math o gais.
Tystiolaeth ategol
Ni fydd yn ofynnol i chi ddarparu tystiolaeth ar adeg y cais. Fodd bynnag, efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth ategol pan fydd eich cais yn cael ei asesu neu ar gyfer archwilio samplau.
Rwyf wedi eistedd/cyflwyno'r asesiad
Mae'r Brifysgol yn gweithredu polisi Addas i Sefyll, sy'n golygu, pan fydd myfyriwr yn cyflwyno neu’n cyrraedd ar gyfer asesiadau, ei fod yn datgan ei fod yn 'addas i sefyll’. Pan fydd myfyriwr yn mynd yn sâl yn ystod asesiad, neu os yw ei grebwyll yn amharedig wrth ymgymryd ag asesiad, gall ofyn i ‘dynnu ei ddatganiad addas i sefyll yn ôl'.
Os gofynnir i chi am dystiolaeth, mae'r tabl hwn yn cynnwys enghreifftiau o dystiolaeth y gallwch ei defnyddio i gefnogi'ch cais.
Yr hyn y gallwch wneud cais amdano
- Estyniad hyd at uchafswm o 15 diwrnod gwaith i ddyddiad cau, neu
- Beidio â chyflwyno/gohirio i'r pwynt asesu nesaf, e.e. y cyfnod ailsefyll, heb gosb.
Myfyrwyr gyda Chynllun Cymorth Unigol neu gynllun cyfatebol
Os ydych yn fyfyriwr anabl (neu os oes gennych gyflwr hirsefydlog) gyda Chynllun Cymorth Unigol, caniateir i chi gyflwyno gwaith cwrs o fewn y cyfnod cyflwyno hwyr (5 diwrnod gwaith), heb y cosbau arferol.
Os oes gennych bryderon ynghylch dyddiadau cau asesiadau, nad yw'r addasiad uchod yn mynd i'r afael â nhw, dylech drafod eich amgylchiadau gyda Chynghorydd Anabledd. Os yw'n briodol, ychwanegir "hyblygrwydd o ran terfynau amser" fel addasiad rhesymol i'ch Cynllun Cymorth Unigol. Yna byddwch yn gallu gwneud cais am addasiadau rhesymol ychwanegol i derfynau amser asesiadau penodol pan fo angen drwy'r broses Amgylchiadau Esgusodol.
Sut i wneud cais
- Ymgeisiwch yma: https://extenuatingcircumstances.southwales.ac.uk
- Dewiswch "Cynllun Cymorth Unigol (CCU)/Cyflwr Hir-dymor" ar gyfer y math hwn o gais.
Myfyrwyr HEB Gynllun Cymorth Unigol neu gynllun cyfatebol
Os ydych yn fyfyriwr anabl (neu os oes gennych gyflwr hirsefydlog) ac heb Gynllun Cymorth Unigol, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o'ch anabledd/cyflwr y tro cyntaf i chi wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol o ganlyniad i'r anabledd/cyflwr hwnnw.
Os yw eich tystiolaeth yn galluogi'r Panel Amgylchiadau Esgusodol i gadarnhau bod gennych anabledd/cyflwr hirsefydlog, gofynnir i Dîm Cymorth Anabledd PDC greu Cynllun Cymorth Unigol ar eich cyfer fydd â "hyblygrwydd o ran terfynau amser" wedi'i gynnwys fel addasiad rhesymol.
Os effeithir eto ar eich gallu i gyflwyno asesiadau yn ddiweddarach o ganlyniad i'ch anabledd/cyflwr gallwch gyflwyno cais am Amgylchiadau Esgusodol heb fod angen cyflwyno rhagor o dystiolaeth.
Sut i wneud cais
- Dechreuwch eich cais yma: https://extenuatingcircumstances.southwales.ac.uk
- Pan ofynnir i chi, dewiswch "Byddaf yn darparu tystiolaeth o fy anabledd/cyflwr hirsefydlog gyda'r cais hwn".
- Ewch yn eich blaen a chyflwyno'r ffurflen.
- Uwchlwythwch eich tystiolaeth ar wahân i'r Ardal Gynghori Ar-lein.
Pa dystiolaeth y gallaf ei chyflwyno i gefnogi fy nghais?
Mae'r tabl hwn yn rhoi enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol y gallech ei defnyddio i gefnogi'ch cais.
Rwyf wedi eistedd/cyflwyno'r asesiad
Mae'r Brifysgol yn gweithredu polisi Addas i Sefyll, sy'n golygu, pan fydd myfyriwr yn cyflwyno neu’n cyrraedd ar gyfer asesiadau, ei fod yn datgan ei fod yn 'addas i sefyll’. Pan fydd myfyriwr yn mynd yn sâl yn ystod asesiad, neu os yw ei grebwyll yn amharedig wrth ymgymryd ag asesiad, gall ofyn i ‘dynnu ei ddatganiad addas i sefyll yn ôl'.
Nid oes cyfyngiad ar sawl gwaith y gallwch hawlio Amgylchiadau Esgusodol.
Os ydych yn hawlio Amgylchiadau Esgusodol fwy na dwywaith mewn un flwyddyn academaidd, caiff eich sefyllfa ei hadolygu ac efallai y bydd camau pellach yn cael eu hawgrymu/yn ofynnol, ymgysylltu â’r gwasanaethau cymorth, er enghraifft. Os ydych yn camddefnyddio'r gallu i hunanardystio, efallai y byddwch yn destun camau gweithredu o dan y Weithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr neu'r Weithdrefn Addasrwydd i Ymarfer (gweler y Rheoliadau Myfyrwyr).
DS: Nid yw gwneud cais yn gwarantu y caiff eich cais ei gymeradwyo.
Os oes gennych reswm digon da dros fethu â chyflawni erbyn y dyddiadau cau amgylchiadau esgusodol cynharach (h.y. 5 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cau/arholiad gwreiddiol, a 2 wythnos cyn y bwrdd asesu), gallwch ddal i wneud cais am amgylchiadau esgusodol ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi, drwy gyflwyno 'Ffurflen Cais Amgylchiadau Esgusodol Ôl-fwrdd'.
Mae 'ôl-fwrdd' yn golygu ar ôl i'r bwrdd asesu gwrdd a chyhoeddi canlyniadau. Rhaid cyflwyno pob cais ôl-fwrdd o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl i'ch canlyniadau gael eu cyhoeddi.
Sut i wneud cais
Gellir gwneud Ceisiadau am Doriad i Astudiaethau drwy’r Ardal Gynghori Ar-lein:
- Mewngofnodwch i'r Ardal Gynghori Ar-lein
- Dewiswch ‘Llwybrau’
- Dewiswch ‘Amgylchiadau Esgusodol ar ôl y Bwrdd’
- Darllenwch y wybodaeth ‘Trosolwg – Am y Llwybr Hwn’ a dewiswch ‘Parhau’ i ddechrau’r broses
- Llenwch y ffurflen ar-lein
- Lanlwythwch unrhyw dystiolaeth berthnasol i gefnogi eich cais, yna dewiswch ‘Cyflwyno’ i gwblhau eich cais
Dogfennau y mae angen i chi eu cyflwyno
- Ffurflen Cais Amgylchiadau Esgusodol Ôl-fwrdd
- Tystiolaeth Gefnogol
- Cadarnhad e-bost gan staff academaidd (os oes angen)
- Copi o'r canlyniadau a gyhoeddwyd ar eich cyfer yn ddiweddar
Pa dystiolaeth y gallaf ei chyflwyno i gefnogi fy nghais?
Mae'r tabl hwn yn rhoi enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol y gallech ei defnyddio i gefnogi cais amgylchiadau esgusodol.
Y dyddiad cau ar gyfer amgylchiadau eithriadol ar ôl y bwrdd ar gyfer canlyniadau a gyhoeddir ar 24 Mehefin 2025 (myfyrwyr sy'n graddio) a 25 Mehefin 2025 (myfyrwyr nad ydynt yn graddio) fydd 8 Gorffennaf 2025 a 9 Gorffennaf 2025 yn y drefn honno.
Nid yw myfyrwyr mewn Colegau Partner yn defnyddio'r dulliau a ddisgrifir uchod i wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol. Yn hytrach, gofynnwch am Ffurflen Amgylchiadau Esgusodol trwy’r Ardal Gynghori Ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen hon.
Byddwch yn derbyn hysbysiad o ganlyniad eich cais drwy’r Ardal Gynghori Ar-lein.
Wrth wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol, darllenwch yr holl wybodaeth a ddangosir i chi yn ofalus a sicrhewch eich bod yn cyflwyno pob gwybodaeth y gofynnir amdani ar bob cam o’r broses.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch Amgylchiadau Esgusodol, cysylltwch â'r Ardal Gynghori yn uniongyrchol. Gall staff yr Ardal Gynghori drafod y broses gwneud cais a rhoi arweiniad ar gymhwysedd. Ni allant roi barn ar gryfder eich cais.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i gwblhau eich cais, efallai y gall Undeb y Myfyrwyr helpu.
Os oes angen cyngor neu gymorth arnoch gyda'r problemau sylfaenol sy'n achosi i chi wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol, mae gan y Brifysgol nifer o Wasanaethau Cymorth a all helpu.
Os nad ydych chi'n gwybod ble i ddechrau, cysylltwch â'r Ardal Gynghori.
Os yw eich cais yn syml, byddwch fel arfer yn cael canlyniad o fewn 5 diwrnod gwaith o gwblhau eich cais.
Caiff ceisiadau cymhleth eu cyfeirio at y Panel Amgylchiadau Esgusodol. Mae'r panel yn grŵp o bobl sy'n cwrdd yn wythnosol, ac sy'n cynnwys staff academaidd o bob rhan o PDC. Dylech gael canlyniad o fewn 5 diwrnod gwaith i benderfyniad y panel.
Os ydych wedi gofyn am estyniad, dylech barhau â'ch gwaith a pheidio ag aros am ganlyniad eich cais gan y bydd unrhyw estyniad a roddir o'r dyddiad cyflwyno gwreiddiol yn hytrach nag o’r dyddiad y derbyniwch y canlyniad.
Os ydych yn anhapus â chanlyniad eich cais gallwch wneud 'Cais am Adolygiad' o'r penderfyniad. Rhaid gwneud ceisiadau o fewn 10 diwrnod i ddyddiad derbyn y canlyniad.
Gweler adran B12 o'r Rheoliadau a Gweithdrefnau Amgylchiadau Esgusodol i gael manylion am resymau dros apelio.
Mae'r Ffurflen Gais am Adolygiad ar gael o'r dudalen Rheoliadau Amgylchiadau Esgusodol.