Ardal Gynghori Ar-Lein
Yr Ardal Gynghori Ar-lein yw system cymorth myfyrwyr ar-lein PDC. Mae'n lle canolog lle gallwch gyflwyno cwestiynau, trefnu apwyntiadau, dod o hyd i ddigwyddiadau a chwblhau rhai prosesau gweinyddol.
Mewngofnodi i'r Ardal Gynghori Ar-lein
Gallwch fewngofnodi i'r Ardal Gynghori Ar-lein gyda'ch cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair myfyriwr gan ddefnyddio'r botwm isod:
Ardal Gynghori Ar-Lein (internal ‘section’ link back to ‘Ardal Gynghori’)
Os ydych wedi cofrestru neu newid eich manylion personol yn ddiweddar, gall gymryd hyd at 24 awr cyn y gallwch gael mynediad i'r Ardal Gynghori Ar-lein.
Beth allaf ei wneud yn yr Ardal Gynghori Ar-lein?
Trefnu apwyntiad
Gallwch drefnu apwyntiad gydag un o wasanaethau cymorth (internal section link to ‘Cymorth i Fyfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru’) arbenigol PDC.
Llwybrau
Llifoedd gwaith strwythuredig yw llwybrau, ac maent wedi'u cynllunio i fyfyrwyr gwblhau tasgau penodol neu gyflawni nodau penodol. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio llwybr i ddiweddaru eich manylion personol ar system cofnodion myfyrwyr PDC.
Gofyn cwestiwn
Gallwch gyflwyno cwestiwn drwy’r Ardal Gynghori Ar-lein, a fydd yn cael ei anfon yn awtomatig at 'dîm' cywir y Brifysgol. Pan fydd eich cwestiwn wedi'i ateb byddwch yn cael e-bost sy’n gofyn i chi fewngofnodi i'r system, i weld yr ymateb.
Mae eich cwestiynau'n cael eu cadw'n ddiogel yn yr Ardal Gynghori Ar-lein sy'n eich galluogi i chwilio ac olrhain, ymholiadau cyfredol a blaenorol. Os nad yw'ch ymholiad wedi'i ddatrys, mae’r Ardal Gynghori Ar-lein yn ei gwneud hi'n haws rhyngweithio â staff a dod o hyd i'r ateb rydych chi'n chwilio amdano.
Cwestiynau Cyffredin
Mae’r Ardal Gynghori Ar-lein yn eich cysylltu â Chwestiynau Cyffredin (a’u hatebion) ar amrywiaeth o bynciau cymorth.
Digwyddiadau
Mae’r Ardal Gynghori Ar-lein yn rhestru digwyddiadau sydd ar ddod, ac yn gadael i chi neilltuo lle ar unrhyw ddigwyddiad sydd angen i chi gofrestru ymlaen llaw ar ei gyfer.
Datganiad Preifatrwydd
Mae Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr (internal section link to ‘Datganiad Preifatrwydd Yr Ardal Gynghori Ar-lein’) PDC yn berthnasol i’r Ardal Gynghori Ar-lein.
Datganiad Hygyrchedd
Mae’r Ardal Gynghori Ar-lein wedi'i hadeiladu ar y System Target Connect, ac mae Datganiad Hygyrchedd Target Connect yn berthnasol iddi.