Cynrychiolaeth Cwrs
Mae Cynrychiolwyr Cwrs yn bodoli i wella'r cwrs y cânt eu hethol i'w gynrychioli.
- I ddod yn Gynrychiolydd Cwrs, cysylltwch â'ch Arweinydd Cwrs i gyflwyno eich enw o fewn wythnosau cyntaf y flwyddyn academaidd.
- Os bydd mwy o fyfyrwyr yn gwirfoddoli nag sydd angen, mae'n bosib y bydd etholiad yn cael ei gynnal i benodi cynrychiolwyr ar gyfer pob cwrs.
- Edrychwch ar y tudalennau Cynrychiolwyr Cwrs ar wefan Undeb y Myfyrwyr i gael rhagor o fanylion.
Beth mae cynrychiolwyr cwrs yn ei wneud?
Mae Cynrychiolwyr Cwrs yn rhannu barn eu cyd-fyfyrwyr â tîm eu Cwrs fel y gellir gwella dysgu ac addysgu ar gyfer myfyrwyr presennol a'r dyfodol. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn rhoi rôl ganolog i lais y myfyriwr wrth lunio profiad dysgu'r myfyrwyr eu hunain a a sicrhau bod materion yn cael eu cyflwyno i dîmau y cyrsiau. Mae Cynrychiolwyr Cwrs hefyd yn gweithio gyda Chynrychiolwyr Llais Myfyrwyr os yw mater academaidd yn effeithio ar fyfyrwyr ar draws eu hysgol neu Gyfadran. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am rôl Cynrychiolwyr Cwrs ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
A yw Cynrychiolwyr Cwrs yn gwneud gwahaniaeth?
Yn bendant! Mae Cynrychiolwyr Cwrs yn chwarae rhan hanfodol yn y systemau ansawdd yn PDC ac maent yn ganolog i wneud gwelliannau i’r profiad myfyriwr. Gallant ddelio â materion fel prydlondeb adborth, cynnwys cwrs, dulliau addysgu, argaeledd llyfrau yn y Llyfrgell a chyfathrebu gyda'r staff..
Dod yn Gynrychiolydd Cwrs
Cynhelir etholiadau Cynrychiolwyr Cwrs yn eich darlithoedd yn ystod tair wythnos gyntaf y tymor. Bydd eich Arweinydd Cwrs yn sicrhau eich bod yn gwybod pryd y maent a sut i sefyll am swydd Cynrychiolydd Cwrs.
Cwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am fod neu ddod yn Gynrychiolydd Cwrs, cysylltwch â'r Tîm Llais Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr.