Llawlyfrau Cwrs
Mae'n ofynnol i arweinwyr eich cwrs ddarparu gwybodaeth gywir a pherthnasol am eich cwrs. Mae'r safon ofynnol y cytunwyd arni yn cynnwys llawlyfr y cwrs.
Mae eich llawlyfr yn rhoi gwybodaeth allweddol am eich cwrs:
- cyflwyniad i'r staff ar dîm eich cwrs a sut i gysylltu â nhw
- nodau, canlyniadau, a chynnwys eich cwrs
- sut a lle bydd eich cwrs yn cael ei addysgu
- sut mae'r cwrs yn cael ei asesu
- pryd a sut i gyflwyno gwaith wedi'i asesu
- manylion ynglŷn ag amgylchiadau esgusodol
- sut bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro
- sut i gynnig adborth ar eich cwrs
- y sgiliau cyflogadwyedd y byddwch yn eu cael o'ch cwrs
- deunyddiau ac offer gofynnol neu sydd ar gael
- amserlenni
Gellir dod o hyd i'r Llawlyfr o dan 'My Organisations’ yn Blackboard (UniLearn). Dewiswch enw eich cwrs a bydd y llawlyfr yn cael ei restru yn y ddewislen ar yr ochr chwith.
Os ydych chi'n defnyddio'r ap Blackboard bydd angen i chi ddewis 'My Orhganisations’, ac yna enw'ch cwrs ac yna 'Organisation Content'.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'ch llawlyfr cwrs, cysylltwch ag arweinydd eich cwrs.