Llythyrau myfyrwyr
Gall y Brifysgol ddarparu sawl llythyr defnyddiol i fyfyrwyr cymwys.
- Mae llythyrau fel arfer yn ymdrin â'r flwyddyn academaidd bresennol yn unig.
- Mae llythyrau newydd ar gael ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs bob blwyddyn academaidd.
- Mae’n bwysig bod eich cofnod myfyriwr gyda’ch cyfeiriad cartref a thymor cywir, gan eu bod wedi’u cynnwys ar rai o’ch llythyrau myfyrwyr. Os yw’ch manylion yn anghywir, diweddarwch eich manylion personol nawr.
Llythyr Statws Myfyriwr
Gofyn am Lythyr Statws Myfyriwr - Mae'r llythyr hwn yn cadarnhau eich statws fel myfyriwr cofrestredig yn y Brifysgol.
Llythyr y Dreth Gyngor
Gofyn am Lythyr y Dreth Gyngor – gelwir Llythyr y Dreth Gyngor hefyd yn Dystysgrif Eithrio'r Dreth Gyngor. Mwy o wybodaeth –Lythyr y Dreth Gyngor
Llythyr Banc
Sylwch: nid oes angen llythyrau banciau ar gyfer banc ar-lein.
Myfyrwyr Cartref
Gall myfyrwyr cartref agor cyfrif banc gan ddefnyddio eu Llythyr Statws Myfyriwr, nid oes angen llythyr banc ar wahân arnynt. Gofynnwch am lythyr statws myfyriwr.
Myfyrwyr Rhyngwladol
Mae angen llythyr banc ar fyfyrwyr rhyngwladol i agor cyfrif banc myfyriwr. Mae'r llythyr banc yn cadarnhau'r cwrs a'r flwyddyn rydych wedi cofrestru arni, hyd y cwrs, y dyddiad cychwyn a dyddiad gorffen disgwyliedig y cwrs. Mae'r llythyr hefyd yn cadarnhau eich cyfeiriad cartref a'ch cyfeiriad yn ystod tymor sydd gan y Brifysgol.
Gall myfyrwyr rhyngwladol ofyn am lythyr banc gan ddefnyddio'r ddolen hon: Cais am Lythyr Banc.
Byddwch yn cael rhestr o ganghennau banc i ddewis ohonynt. Os nad yw'r gangen yr hoffech ei defnyddio wedi'i rhestru, cyflwynwch gwestiwn newydd gan ddefnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein, a nodwch gyfeiriad eich cangen. Bydd hyn yn cymryd mwy o amser i'w brosesu.
Peidiwch â gofyn am lythyrau ar gyfer sawl banc. Fodd bynnag, os bydd un banc yn gwrthod eich cais, gallwch ofyn am lythyr banc newydd ar gyfer banc gwahanol.
Mae'r dudalen Banciau a Chyfrifon Banc yn egluro manteision cael cyfrif banc yn y DU, sut i ddewis un, a pha ddogfennau eraill y gallai fod angen i chi eu darparu.
Llythyrau Myfyrwyr Eraill
Gellir gwneud cais am lythyrau sy'n ymdrin â blynyddoedd blaenorol a mathau eraill o lythyrau, gan gynnwys Llythyrau Fisa Schengen a Llythyrau Fisa nad ydynt yn rhai Schengen, gan ddefnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein.