Offeryn cyfathrebu a chydweithredu yw Microsoft Teams sy'n cynnig galwadau fideo, sgwrs testun, trafodaethau grŵp a mwy.

Rydym yn argymell llawrlwytho'r ap Teams i'ch dyfais:  PC/Mac/Linux, iOS and iPadOS, Android. Gallwch hefyd gyrchu Teams ar y we. Mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch cyfrif PDC arferol.

Defnydd academaidd o Microsoft Teams

Os yw'ch cwrs yn gofyn ichi ddefnyddio Microsoft Teams fe’ch hysbysir gan eich Arweinwyr Cwrs.

Apwyntiadau Cymorth trwy Microsoft Teams

Mae llawer o wasanaethau cymorth PDC yn cynnig apwyntiadau trwy Teams, fel dewis amgen i apwyntiadau personol. Gweler y dudalen Apwyntiadau am ragor o fanylion.