Atal Byrglyriaethau
Cadw eich eiddo yn ddiogel
Yn ffodus, ychydig iawn o'n myfyrwyr sy'n dioddef trosedd ond mae'n bwysig gwybod beth ddylech chi ei wneud, er enghraifft, os oes gennych rywbeth wedi'i ddwyn. Mae'r mwyafrif o fyrgleriaid yn fanteisgar sy'n cael mynediad i'ch cartref trwy ddrws neu ffenestr agored. Cadwch eich pethau gwerthfawr allan o'r golwg a byddwch yn ofalus o'r hyn rydych chi'n ei bostio ar gyfryngau cymdeithasol - bydd lladron yn defnyddio pa bynnag wybodaeth sydd ganddynt i benderfynu pwy i'w dargedu.
Mae'n bwysig cofio bod y rhan fwyaf o lety myfyrwyr yn wag yn ystod y gwyliau gan ei gwneud yn amser perffaith i droseddwyr ymosod, felly ni all sicrhau eich bod yn ddiogel ac wedi’ch gwarchod ar y campws ac oddi arno fod yn fwy pwysig. Y cyngor gorau yw cymryd mesurau ataliol i leihau'r siawns o ddod yn ddioddefwr.
Cadw lle rydych chi'n byw yn ddiogel
- Clowch eich drysau a'ch ffenestri bob tro y byddwch yn gadael yr eiddo, hyd yn oed pan fyddwch chi allan am ychydig funudau. Cofiwch gloi drysau UPVC (codwch y ddolen a throi’r allwedd).
- Cuddiwch yr holl allweddi, gan gynnwys allweddi ceir, allan o'r golwg ac i ffwrdd o'r blwch llythyrau - gellid defnyddio dyfais i fachu allweddi drwy'r blwch llythyrau.
- Tynnwch eitemau gwerthfawr o olwg ffenestri llawr gwaelod ac allan o gyrraedd lladron.
- Gofynnwch i ffrind neu gymydog gadw llygad ar eich eiddo pan fyddwch chi i ffwrdd am ychydig ddyddiau.
- Cadwch ddrysau i goridorau wedi'u cloi a pheidiwch â'u dal ar agor. Dylech atal mynediad i westeion heb wahoddiad.
Am fwy o awgrymiadau, llawrlwythwch y llyfryn U-SAFE.
Cyngor Diogelwch Teclynnau
Mae gliniaduron, cyfrifiaduron llechen a ffonau symudol yn eitemau y mae’n rhaid i droseddwyr eu cael. Nid y caledwedd sy'n apelio atynt yn unig. Y tebyg yw, bydd eich dyfeisiau yn llawn manylion cyswllt eich ffrindiau a'ch data personol amdanoch chi. Dylech o leiaf ddefnyddio cyfrinair!
Byddwch yn synhwyrol gyda'ch teclynnau a'u cadw'n ddiogel:
- Cofrestrwch eich eiddo ar Immobilise, a sicrhewch eu bod yn dod o dan eich yswiriant cynnwys.
- Ar gyfer ffonau clyfar a chyfrifiaduron llechen, ystyriwch gosod apiau a fydd yn eu dilyn os cânt eu dwyn, ac yn eich galluogi i ddileu data ac achosi sŵn larwm o bell.
- Cariwch eich gliniadur dim ond pan fydd yn rhaid i chi wneud hynny. Cadwch ef yn gudd allan o'r golwg yn ddiogel yn eich bag.
- Os ydych chi'n mynd â'ch gliniadur rywle i astudio, peidiwch â'i adael heb neb yn bresennol.
- Byddwch yn synhwyrol wrth ddefnyddio'ch ffôn symudol yn gyhoeddus - peidiwch â'i arddangos yn ddiangen.
- Cadwch gofnod o rif IMEI eich ffôn, sy'n god unigryw sydd fel arfer y tu ôl i'ch batri ffôn. Os caiff eich ffôn ei ddwyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ganslo gyda'ch darparwr rhwydwaith. Bydd hyn yn rhwystro'r cerdyn SIM.
Darllenwch yr erthygl hon gyda chyngor i fyfyrwyr ar sut i atal lladrad ar y campws ac oddi arno.