Mae cael eich twyllo yn achosi straen a gallai gael effaith fawr ar eich cyllideb myfyriwr. Cofiwch fod sgamio yn drosedd felly mae’n bwysig iawn rhoi gwybod am unrhyw beth rydych chi’n meddwl sy’n seiberdrosedd, hyd yn oed os nad ydych chi’n dioddef yn bersonol. Er bod llawer o wahanol ddulliau sgamio a seiberdroseddau, mae yna ambell i arwydd cyffredin bod rhywun yn ceisio eich targedu. Dilynwch ein cyngor i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel.

Adnabod Sgamiau

Mae llawer o wahanol fathau o seiberdroseddau. Dyma engreifftiau o rai cyffredin i fod yn ymwybodol ohonynt:

  • Gwefannau'r llywodraeth Ffug - Mae ambell i seiberdrosedd yn cynnwys gwefannau sydd wedi'u cynllunio i edrych fel gwefannau swyddogol y llywodraeth fel CThEM. Yn aml byddant yn ceisio codi tâl arnoch am wasanaethau y gallwch eu cael am ddim, ac yn gofyn am fanylion personol nad oes angen eu darparu.
  • Seiberdroseddau dêtio – Mae seiberdroseddwyr yn defnyddio gwefannau dêtio, rhwydweithiau cymdeithasol ac ystafelloedd sgwrsio i gael manylion personol neu arian gan bobl. Nid yw seiberdroseddwyr rhamant yn dewis eu dioddefwyr ar sail rhyw, rhywioldeb, hil neu oedran penodol.
  • Twyll gwyliau - Mae seiberdroseddwyr yn targedu safleoedd archebu gwyliau a llety ar-lein i dwyllo cwsmeriaid i dalu am lety sydd nail ai ddim ar gael, neu sydd ddim yn bodoli.
  • Gwe-Rwydo - Mae seiberdroseddwyr yn anfon e-bost ffug atoch yn esgus ei fod gan eich banc neu sefydliad arall rydych yn ymddiried ynddo fel CThEM neu PayPal. Bydd yr e-bost hwn yn gofyn i chi ymweld â gwefan a mewngofnodi gyda manylion eich cyfrif. Mae'r wefan yn edrych yn union fel gwefan eich banc ond mewn gwirionedd mae'n wefan ffug a sefydlwyd gan droseddwyr er mwyn dwyn eich manylion. 

I gael awgrymiadau ar ganfod seiberdroseddau ar-lein, ewch i Take Five - Stop Fraud ac Report Fraud.

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Gwasanaeth TG y Brifysgol i gael rhagor o wybodaeth am beth i'w wneud os ydych yn amau eich bod yn cael eich targedu gan e-byst gwe-rwydo.

Diogeli’ch hun rhag sgamiau 

Mae'r rhyngrwyd yn rhan anatod o fywyd myfyrwyr. Felly ydych yn cynnal ymchwil ar gyfer eich astudiaethau, yn prynu llyfrau, neu’n cadw mewn cysylltiad â ffrindiau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’n seibr-ddiogel.

  • Defnyddiwch gyfrifiaduron diogel gyda meddalwedd diogelwch.
  • Prynwch ar safleoedd dibynadwy yn unig; chwiliwch am y symbol clo.
  • Cadwch fanylion mewngofnodi a chyfrineiriau yn breifat.
  • Peidiwch byth â chyhoeddi manylion personol fel eich enw a’ch cyfeiriad ar-lein – a pheidiwch â’u rhoi i bobl nad ydych wedi’u cwrdd.
  • Cadwch eich holl gofnodion o drafodion ar-lein.

Os bydd troseddwyr yn dod o hyd i’ch manylion personol, mae’n bosib y gallant eu defnyddio i agor cyfrifon banc neu gael cardiau credyd, benthyciadau a budd-daliadau’r wladwriaeth yn eich enw chi. Gall troseddwyr hefyd geisio cael dogfennau yn eich enw chi, fel trwydded yrru neu basbort. Mae gwybodaeth sy'n ddefnyddiol i droseddwyr yn cynnwys eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad, rhif Yswiriant Gwladol  a manylion banc a cherdyn credyd.

  • Gwaredwch ar ddogfennau sy'n cynnwys manylion personol. Defnyddiwch beiriant rhwygo.
  • Hysbyswch y corff perthnasol ar unwaith os ydych yn colli’ch pasbort, trwydded yrru neu gerdyn credyd.
  • Os byddwch yn symud tŷ, dywedwch wrth bob sefydliad yr ydych yn ymwneud a nhw. Gall gwasanaeth ailgyfeirio’r Post Brenhinol sicrhau bod eich post yn cyrraedd eich cyfeiriad newydd.
  • Os ydych yn defnyddio'r rhyngrwyd, defnyddiwch gyfrinair gwahanol i bob cyfrif. Dilynwch y cyngor ar ein tudalen Cyfrinair ac E-bost.

I gael rhagor o wybodaeth am ddwyn hunaniaeth, ewch at www.identitytheft.org.uk a www.getsafeonline.org