Gwybodaeth gyswllt frys
Peidiwch ag oedi cyn gofyn am help
Argyfwng
Os oes angen ymateb brys arnoch chi, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999. Os ydych chi ar y campws, cysylltwch â thîm Diogelwch y Campws ar 01443 483333 (Est 83333), neu gan ddefnyddio'r ap SafeZone, fel y gallant gyfeirio cymorth a/neu’r gwasanaethau brys.
Argyfwng meddygol
Os ydych chi'n dyst i sefyllfaoedd difrifol iawn neu’n profi un yn uniongyrchol, ffoniwch 999 a gofynnwch am ambiwlans.
Os ydych chi ar y campws, ffoniwch y tîm Diogelwch ar unwaith fel y gallant roi cyfarwyddiadau pan fydd yr ambiwlans yn cyrraedd.
Gofal meddygol brys
Ar gyfer problemau meddygol brys, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru: ffôn 0845 46 47. Mae'r rhif wedi’i staffio 24 awr y dydd neu ewch i GIG 111 Cymru. Gallwch fynd i uned Damweiniau ac Achosion Brys ysbyty am ddamweiniau ac argyfyngau - chwiliwch ar-lein am eich uned Damweiniau ac Achosion Brys lleol.
|
Argyfyngau yn y DU |
999 |
|
Problem feddygol (nad yw'n bygwth bywyd) yng Nghymru neu Lloegr |
111 |
|
I roi gwybod am drosedd (os nad ydych chi mewn perygl uniongyrchol) |
101 |
|
Ymholiadau Cyfeirlyfr (cost isel) |
118 226 |
|
Gollyngiadau / argyfyngau nwy |
0800 111999 |
|
Achub anifeiliaid |
0300 1234 999 |
|
Staff diogelwch ar eich campws: |
Rhif ffôn |
|
Caerdydd |
01443 668538 |
|
Glyn-taf |
01443 483011 |
|
Dinas Casnewydd |
01633 435020 |
|
Trefforest |
01443 482057 |
Tân
Os bydd tân allan o reolaeth, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999 a gofynnwch am y frigâd dân.
Rhoi gwybod am drosedd
Os oes angen ymateb brys arnoch chi, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999. Gall argyfyngau gynnwys ofni bod trais ar fin digwydd neu os yw eich eiddo wrthi’n cael ei ddifrodi / dwyn.
Os nad oes argyfwng, ffoniwch 101 i gofnodi eich cwyn.
Os oes angen cymorth nad yw'n frys arnoch – er enghraifft os ydych chi wedi dioddef o aflonyddu neu os hoffech roi gwybod am ymddygiad amheus neu os ydych chi eisiau cyngor a chymorth gan yr heddlu – cysylltwch â'r rhif ar gyfer achosion nad ydynt yn frys, 101.
Gweler hefyd dudalen Yr Heddlu a’r Gymuned. Mae'n cynnwys gwybodaeth am gyfarfodydd PACT, staff heddlu lleol a mwy.
Rhifau Defnyddiol
Mae'n bwysig gwybod - neu gael mynediad hawdd at - y rhifau ffôn canlynol.
Nodyn am ymholiadau cyfeirlyfr: Mae cannoedd o ddarparwyr yn y DU. Mae bron pob un yn costio arian. Y tri mwyaf poblogaidd yw 118 500, 118 118 a 118 888. Mae un am ddim - 0800 118 3733 - sy'n system adnabod llais awtomataidd, ond mae'n rhaid i chi wrando ar hysbysebion. Mae ffordd i’w ddefnyddio’n rhad neu am ddim ar ffonau symudol. Fodd bynnag, at ddibenion ymarferol, efallai y byddai’n haws ffonio gwasanaeth dynol. O'r gwasanaethau ymholiadau cyfeiriadur sy'n codi tâl ac sy'n cael eu staffio gan weithredwyr dynol, 118 226 yw'r rhataf (fel ym mis Gorffennaf 2013).
Ychwanegwch at eich ffôn:
- Y rhifau i roi gwybod bod eich cardiau banc ar goll neu wedi'u dwyn. Efallai y bydd rhif i'w ffonio o'r DU, ac un ar wahân i'w ffonio os ydych chi dramor
- Rhif ffôn eich landlord
- Rhifau ffôn ar gyfer eich darparwyr cyfleustodau
Cyswllt ICE (argyfwng) yn llyfr ffôn eich ffôn symudol. Os byddwch wedi enwi cyswllt yn ICE a'ch bod wedi'ch hanafu neu'n anymwybodol, gall ymatebwyr brys ffonio eich person enwebedig yn gyflymach o lawer os ydyn nhw wedi'u marcio fel hyn yn eich ffôn.