Camdriniaeth mewn Plentyndod

Cam-drin Domestig

  • BAWSO – Sefydliad gwirfoddol Cymru gyfan, sy'n darparu gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr a phobl y mae Cam-drin Domestig a phob math o drais yn effeithio arnynt, neu eu bod mewn perygl o hynny; gan gynnwys Anffurfio Organau Cenhedlu Menywod, Priodas dan Orfod, Trais ar Sail Anrhydedd a Masnachu Pobl.
  • The Oasis Centre  – Wedi'i leoli ym Mhontypridd, gwasanaeth nad yw'n benodol o ran rhywedd sy'n rhoi cymorth a chefnogaeth i bobl y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt.
  • Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru - Gwasanaeth cenedlaethol cymorth a gwybodaeth rhad ac am ddim i fenywod, plant a dynion yng Nghymru sy'n dioddef neu sydd wedi dioddef cam-drin gan rywun sy'n agos atynt. Llinell gymorth 0808 8010 800.
  • Atal y Fro – Helpu teuluoedd i dorri'r cylch trais domestig. Mae’n darparu cymorth, cwnsela a lloches i fenywod a phlant ym Mro Morgannwg sydd wedi profi, neu sydd yn profi, trais domestig.
  • galop - Yn cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT+) sy'n profi trais domestig. 
  • Respect – Cymorth i ddynion sydd eisiau rhoi'r gorau i ymddwyn yn sarhaus tuag at eu partner.
  • The Hideout  – mae Cymorth i Fenywod wedi creu’r gofod hwn i helpu plant a phobl ifanc ddeall cam-drin domestig, a sut i gymryd camau cadarnhaol os yw’n digwydd.

Priodas dan Orfod

  • ForcedMarriage.net – Gwefan un stop sy'n rhoi gwybodaeth ymarferol a ffynonellau cyngor a chymorth ar briodas dan orfod.
  • Uned Priodasau dan Orfod – Uned y Llywodraeth i gysylltu â hi os ydych yn ceisio atal priodas dan orfod neu os oes angen cymorth arnoch i adael priodas y’ch gorfodwyd iddi. 
  • Freedom Charity – Gwefan sefydliad sy'n bodoli i rymuso pobl ifanc i deimlo bod ganddynt yr offer, yr hyder a'r gefnogaeth ynghylch materion perthnasoedd teuluol a all arwain at briodas gynnar a gorfodol a thrais ar sail anrhydedd.

Cam-drin Rhywiol

  • New Pathways – Yn darparu gwasanaeth cofleidiol, llawn cydymdeimlad, gofalgar a gwerth chweil i holl ddioddefwyr trais rhywiol, cam-drin rhywiol a thrawma. Defnyddir y gwasanaethau rhad ac am ddim gan gleientiaid ledled Cymru.
  • The Calm Zone: Camdriniaeth – Anelir y ‘Campaign Against Living Miserably’ at ddynion ifanc rhwng 15 a 35 oed. Mae'r ymgyrch yn cynnig llinell gymorth, gwybodaeth a chyngor. 

Pandora’s Project: Cam-drin rhywiol - Yn cynnig cymorth i gyfoedion i unrhyw un sydd wedi dioddef trais rhywiol a cham-drin rhywiol.

  • Yn Bryderus am Gyflwyniadau? – Syniadau ac awgrymiadau gan y Gwasanaeth Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio.
  • AnxietyUK – Mae AnxietyUK yn gweithio i leddfu a chefnogi'r rhai sy'n byw gydag anhwylderau gorbryder trwy ddarparu gwybodaeth, cymorth a dealltwriaeth trwy ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau therapi un-i-un.
  • How to overcome fear and anxiety– Podlediad yn amlinellu ffyrdd o oresgyn ofn a phryder (hefyd ar gael fel llyfryn).
  • No Panic – Elusen sy'n darparu cymorth i ddioddefwyr Pyliau o Banig, Ffobiâu, Anhwylder Obsesiynol- Gorfodaeth, Anhwylder Gorbryder Cyffredinol a Diddyfnu o Dawelyddion.
  • Panic-attacks.co.uk – Tîm o therapyddion, seicolegwyr a hyfforddwyr, yn darparu adnoddau rhad ac am ddim yn ogystal â rhai sydd angen talu amdanynt.
  • Anxiety Issues  - Adnoddau Hunangymorth ar gyfer Problemau Iechyd Meddwl gan gynnwys llawer o faterion gorbryder.

  • Cruse Bereavement Care – Mae'n cynnig gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sydd wedi'u heffeithio gan farwolaeth ac yn darparu cymorth a chwnsela un-i-un ac mewn grwpiau. 
  • Sands – Mae'n cynnig cymorth a chyngor i unrhyw un sydd wedi'u heffeithio gan farwolaeth baban yn dilyn marw-enedigaeth neu farwolaeth newyddenedigol. Mae ganddyn nhw linell gymorth, fforwm ar-lein a grwpiau cymorth lleol.
  • 2 Wish Upon a Star – Mae’n cynnig cymorth a chefnogaeth yn dilyn marwolaeth sydyn neu drawmatig plentyn (hyd at 26 oed). Maent yn cynnig cwnsela un-i-un yn ogystal â grwpiau cymorth a digwyddiadau lleol.
  • Miscarriage Association – Gwybodaeth a chymorth i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan gamesgoriad, beichiogrwydd ectopig neu feichiogrwydd molar. Maent yn cynnig llinell gymorth ffôn yn ogystal â gwasanaeth cymorth ar-lein trwy eu fforwm ar-lein, llinell gymorth e-bost a thudalennau Facebook. 
  • Army Families Federation – ar gyfer y rhai sydd wedi colli aelod o’r teulu yn y lluoedd arfog.
  • Marie Curie - elusen gofal diwedd oes sy’n darparu amrywiaeth o gymorth i bobl sydd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i unrhyw salwch terfynol, gan gynnwys cwnsela, cymorth grŵp a chymorth ffôn 1:1.

  • Bipolar UK – Elusen sy'n cael ei harwain gan ddefnyddwyr sy'n gweithio i alluogi pobl sydd wedi'u heffeithio gan anhwylder deubegynol / iselder manig i gymryd rheolaeth ar eu bywydau.
  • Rethink: Bipolar Disorder – elusen iechyd meddwl genedlaethol, sy'n gweithio i helpu pawb y mae salwch meddwl yn effeithio arnynt i wella ansawdd bywyd.

  • Young Minds - Yn darparu cyngor a chymorth os ydych yn cael eich bwlio.
  • Bully OnLine – Adnodd ar fwlio a materion cysylltiedig.
  • Seiberfwlio – Gwybodaeth a chymorth ar gyfer bwlio ar-lein.
  • Cyngor ar Bopeth yn darparu rhywfaint o wybodaeth os ydych yn cael eich bwlio neu’n dioddef aflonyddu yn y gwaith.

  • The Recovery Letters - Llythyrau a ysgrifennwyd gan bobl sy'n gwella o iselder, wedi'u cyfeirio at y rhai sy'n dioddef ar hyn o bryd. Mae'r ysgrifenwyr llythyrau wedi profi gwahanol fathau o iselder gan gynnwys iselder clinigol/mawr, iselder deubegwn ac ôl-enedigol.
  • Students Against Depression – Yn cynnig gwybodaeth gynhwysfawr a thrafodaeth i fyfyrwyr y DU am beth yw iselder a sut mae'n gweithio, ym mha gyd-destunau y mae iselder yn ffynnu, strategaethau hunangymorth ar gyfer mynd i'r afael ag iselder a sut i gael cymorth a help pellach.
  • Dod o hyd i’ch ffordd - canllaw gan y Samariaid i unrhyw un sy’n cael trafferth ymdopi â’u hiechyd meddwl.

First Person Plural – Elusen a arweinir gan oroeswyr cam-drin sydd â phrofiad uniongyrchol o drallod datgysylltiol cymhleth. Mae aelodau'n cefnogi ei gilydd gydag awgrymiadau hunangymorth, gwybodaeth ac ati trwy gyfrwng y cylchlythyr a mynychu cyfarfodydd aelodau agored achlysurol.

 

  • Beat – elusen ar gyfer pobl ag anhwylderau bwyta a'u teuluoedd.
  • 'Men Get Eating Disorders Too'. Trwy gyfweliadau, mae naw dyn yn rhannu eu stori ysbrydoledig am ddewrder a gwydnwch, gan anfon neges o obaith i bob dioddefwr.

  • Gamblers Anonymous UK – Pobl sydd wedi dod at ei gilydd i wneud rhywbeth am eu problem gamblo eu hunain ac i helpu gamblwyr cymhellol eraill i wneud yr un peth.
  • Gamcare – Cymorth, gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sy'n dioddef o broblem gamblo.

  • The Beaumont Society - Y grŵp cymorth mwyaf yn y DU. Trwy ei waith mae'n hybu gwell dealltwriaeth o amodau trawsrywioldeb, trawswisgo a dysfforia rhywedd.
  • GIRES-Gender Identity Research and Education Society – Gwybodaeth i bobl traws, eu teuluoedd a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gofalu amdanynt.
  • The Gender Trust – Yn cefnogi pawb y mae materion hunaniaeth rhywedd yn effeithio arnynt.
  • Mermaids UK- Cymorth mewn argyfwng i bobl ifanc Trawsryweddol, anneuaidd ac amrywiol o ran rhywedd a’u teuluoedd.

  • Tell Mama mesur troseddau casineb gwrth-Fwslimaidd ac aflonyddu
  • Stop Hate UK yn cynnig cymorth i ddioddefwyr troseddau casineb
  • Community Security Trust, elusen sy'n amddiffyn Iddewon Prydain rhag gwrth-semitiaeth a bygythiadau cysylltiedig.

  • Hearing the Voice - Prosiect rhyngddisgyblaethol dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Durham sydd â'r nod o'n helpu i ddeall yn well ffenomen clywed llais na all neb arall ei glywed.
  • Rhwydwaith Hearing Voices – Rhwydwaith o wrandawyr llais ac unigolion sydd â diddordeb yn y profiad o glywed lleisiau.
  • Intervoice – Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer Hyfforddiant, Addysg ac Ymchwil i Glywed Lleisiau.

The Mix – Elusen gofrestredig sy'n darparu taflenni ffeithiau ac erthyglau ar faterion allweddol sy'n wynebu pobl ifanc, gan gynnwys hiraeth.

Meetup.com - Gwefan ac ap sy'n eich helpu i gysylltu â phobl â diddordebau tebyg yn eich ardal leol.