• How to talk to your GP about your mental health – Fideo byr defnyddiol.
  • Moodjuice – Safle a ddyluniwyd i gynnig gwybodaeth a chyngor i'r rhai sy'n profi meddyliau a theimladau trafferthus.
  • Shout - Os ydych chi'n profi argyfwng personol, yn methu ag ymdopi ac angen cefnogaeth, tecstiwch Shout i 85258.
  • Y Samariaid - darparu cymorth emosiynol i unrhyw un sydd mewn trallod emosiynol, sy’n cael trafferth ymdopi, neu sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Ffoniwch 116 123, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

  • OCD-UK – Elusen genedlaethol, sy'n gweithio'n annibynnol gyda phobl ag Anhwylder Obsesiynol-Gorfodaethol ac ar eu cyfer.
  • Symptomau OCD – Gwefan sy'n darparu cyngor helaeth am achosion a thriniaeth Anhwylder Obsesiynol-Gorfodaethol.

How To Overcome Perfectionism – Adnodd ar Sut i Oresgyn Perffeithrwydd.

  • BPDRecovery – Gwefan sy'n canolbwyntio ar wella o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol gan ddefnyddio offer sy'n canolbwyntio'n bennaf ar Therapi Gwybyddol-Ymddygiadol (CBT).
  • BPD World – Gwefan sy’n anelu at ddarparu gwybodaeth am bob agwedd ar BPD – sut mae’n cael ei ddiffinio, damcaniaethau cyfredol o’r hyn all ei achosi, opsiynau triniaeth a manylion y newyddion, cynadleddau a mentrau diweddaraf yn y maes.
  • Canllaw Nice ar gyfer BPD – Yn ymdrin â'r gofal, y driniaeth a'r cymorth y dylid eu cynnig i bobl yn y DU ag anhwylder personoliaeth ffiniol.

AnxietyUK – Elusen sy'n gweithio i leddfu a chefnogi'r rhai sy'n byw gydag anhwylderau gorbryder trwy ddarparu gwybodaeth, cymorth a dealltwriaeth.

Deall Anhwylder Straen Wedi Trawma – Gwybodaeth am beth yw PTSD, beth yw'r symptomau, beth sy'n ei achosi.

  • New Pathways – Yn darparu gwasanaeth cofleidiol, llawn cydymdeimlad, gofalgar a gwerth chweil i holl ddioddefwyr trais rhywiol, cam-drin rhywiol a thrawma. Defnyddir gwasanaethau, a ddarperir yn rhad ac am ddim, gan gleientiaid ledled Cymru.
  • Rape Crisis – Gwybodaeth, cymorth a chyngor i fenywod sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol mewn unrhyw ffordd, naill ai'n ddiweddar neu yn y gorffennol, wedi’u darparwyd gan Rape Crisis.
  • Survivors UK – Yn darparu gwybodaeth, cymorth a chwnsela i ddynion sydd wedi cael eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol.
  • The Havens- cymorth arbenigol i bobl sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol. Am gyngor ac apwyntiadau brys, ffoniwch 020 3299 6900.
  • Solace - yn darparu cyngor a chefnogaeth i fenywod ar gyfer cam-drin domestig a thrais rhywiol.

  • Stonewall – Nod Stonewall Cymru yw cyflawni cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru.
  • Relate – Yn cynnig cwnsela perthynas ledled y DU drwy'r Rhyngrwyd, llinell gymorth dros y ffôn a chyfarfodydd wyneb yn wyneb.
  • Galop yn elusen sy’n cefnogi pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a cwiar sy’n cael eu heffeithio gan drais rhywiol a domestig.

Gwella Hunan-barch – Modiwlau i weithio drwyddynt a thaflenni gwybodaeth.

  • Prosiect Amber - Yn darparu cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc (14-25) sydd â phrofiad o hunan-niweidio.
  • LifeSIGNS – Sefydliad gwirfoddol a arweinir gan ddefnyddwyr sy'n creu dealltwriaeth o amgylch hunan-niwed.
  • Fforwm Rhwydwaith Hunan-niwed Cenedlaethol – Fforwm sy’n darparu cymorth mewn argyfwng, gwybodaeth ac adnoddau, cyngor, trafodaethau a gwrthdyniadau.
  • Gwrthdyniadau hunangymorth - Taflen ffeithiau gan y Rhwydwaith Hunan-niwed Cenedlaethol. 
  • Self injury Support – Sefydliad cenedlaethol sy'n darparu cefnogaeth i ferched a menywod yr effeithir arnynt gan hunan-anafu neu hunan-niwedio.
  • The Calm Zone: Self Harm – Anelir The Campaign Against Living Miserably at ddynion ifanc rhwng 15 a 35 oed. Mae'r ymgyrch yn cynnig llinell gymorth, gwybodaeth a chyngor.

Rethink: Schizophrenia – Elusen iechyd meddwl genedlaethol, sy'n gweithio i helpu pawb y mae salwch meddwl yn effeithio arnynt i wella ansawdd bywyd.

Adnoddau Straen gan y Sefydliad Iechyd Meddwl – Ystod o daflenni, erthyglau, profiadau personol a phodlediadau all eich helpu i ddeall a rheoli straen yn well.

  • Barod – gwasanaeth camddefnyddio sylweddau sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim i unrhyw un yr effeithir arno gan ddefnyddio sylweddau. Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael i bobl bryderus eraill sy’n poeni am eu hanwyliaid yn defnyddio sylweddau, neu’n sy’n cael eu heffeithio ganddynt. Mae Barod yn gweithredu gwasanaeth gwe-sgwrsio byw cyfrinachol 7 diwrnod yr wythnos trwy ei wefan, sy'n darparu gwybodaeth a chymorth.
  • SMART Recovery – Grŵp cydgymorth cyfrinachol sy'n helpu cyfranogwyr i benderfynu a oes ganddynt broblem, yn cynyddu eu cymhelliant i newid ac yn cynnig set o offer a thechnegau profedig i gefnogi adferiad. Mae Barod yn hwyluso cyfarfodydd SMART Recovery yn ardal Cwm Taf. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth Barod Cwm Taf ar 0300 333 0000. 
  • Club Drug Clinic – Gwasanaeth cenedlaethol i bobl sydd wedi dechrau cael problemau gyda'u defnydd o gyffuriau hamdden. 
  • dan247 – Llinell gymorth am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau rhagor o wybodaeth neu gymorth yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol.
  • Alcoholics Anonymous – Yn darparu ystod o wybodaeth, cyngor a sesiynau wyneb yn wyneb i helpu pobl i ymdopi â phroblemau sy'n ymwneud ag alcohol.
  • Drinkaware – Gwybodaeth ac offer i'ch helpu i edrych yn agosach ar eich yfed.
  • Adult children – Gwybodaeth a chymorth i'r rhai a gafodd eu magu mewn cartref alcoholig neu gartref camweithredol fel arall.
  • Frank – Cyngor a gwybodaeth ymlaen llaw i bobl ifanc am gyffuriau. Yn cynnwys A-Z o gyffuriau, llinell gymorth gyfrinachol, ac adroddiadau.

  • Angen cymorth yn syth? – Cymorth o brif wefan Students Against Depression sy’n canolbwyntio ar ddeall a goroesi meddyliau hunanladdol.
  • Samariaid – Yn darparu cymorth emosiynol cyfrinachol i unrhyw berson sy'n profi anobaith, trallod, neu deimladau hunanladdol.
  • The Calm Zone: Suicide – Anelir The Campaign Against Living Miserably at ddynion ifanc rhwng 15 a 35 oed. Mae'r ymgyrch yn cynnig llinell gymorth, gwybodaeth a chyngor.
  • The Hopeline - Cyngor Cyfrinachol ar Atal Hunanladdiad Pobl Ifanc a ddarperir gan PAPYRUS, yr elusen genedlaethol sy'n ymroddedig i atal hunanladdiad pobl ifanc.
  • How to help someone who is suicidal  – Beth yw'r arwyddion rhybudd y gallai rhywun gyflawni hunanladdiad? Beth allwch chi ei wneud os ydych chi'n agos atynt? Mae'r llyfryn hwn yn ateb y cwestiynau hyn a llawer mwy.

Ap Stay Alive - Ap symudol sy'n cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl sy'n meddwl am hunanladdiad ac i bobl sy'n poeni am rywun arall.

  • Combat Stress – elusen iechyd meddwl y Cyn-filwyr sy’n helpu cyn-filwyr a chyn-fyddinwragedd â phroblemau iechyd meddwl. Mae’n darparu amrywiaeth o driniaethau a chymorth arbenigol.
  • GIG Cymru i Gyn-filwyr – Gwasanaeth arbenigol â blaenoriaeth i unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ar unrhyw adeg yn eu bywydau ac sy’n profi anawsterau iechyd meddwl sy’n ymwneud yn benodol â’u gwasanaeth milwrol.