Myfyrwyr PDC mewn unrhyw Sefydliad Partner
Mae Prifysgol De Cymru yn cydweithredu â nifer o wahanol ddarparwyr addysg yn y DU a thramor. Mae'r cyrsiau'n amrywio o fodiwlau byr eu maint i Addysg Uwch fwy helaeth.
Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i amlinelliad o wasanaethau PDC y gall myfyrwyr Addysg Uwch mewn sefydliadau partner eu cyrchu yn nodweddiadol wrth astudio yn ein Colegau Partner Addysg Bellach. Gall yr union ddarpariaethau amrywio, yn dibynnu ar Gytundebau Partneriaeth. Dylech drin y dudalen hon fel canllaw yn unig.
Nid yw’r holl drefniadau Partneriaeth yr un peth. Yn y rhan fwyaf, ond nid ymhob achos, mae PDC yn ysgwyddo'r cyfrifoldebau canlynol mewn perthynas â Cholegau Partner:
- Rydym yn achredu'r cyrsiau masnachfraint, felly mae ein polisïau academaidd yn berthnasol. Mae hynny'n cynnwys:
- Amgylhiadau Esgusodol a pholisi Addasrwydd i Sefyll
- Torri ar draws Astudiaethau
- Cwynion ac apeliadau academaidd.
- Mae PDC yn delio â sicrhau ansawdd y cyrsiau, ac yn delio ag ail farcio, arholwyr allanol a byrddau dyfarnu (sy'n pennu graddau terfynol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd).
- Fel rheol, gall myfyrwyr ar gyrsiau masnachfraint gyrchu adnoddau ein llyfrgell.
- Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG PDC. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr a storfa cwmwl trwy Microsoft 365.
- Rheolir eich canlyniadau diwedd blwyddyn gennym ni.
Oes gennych chi gwestiwn am wasanaethau PDC?
E-bostiwch: [email protected].
Cewch fwy o wybodaeth ar ein tudalen Partneriaethau.
UniLearn (Blackboard)
Amgylchedd Dysgu Rhithwir PDC.
Llyfrgell PDC
Cyrchwch Adnoddau Llyfrgell PDC.
Cyfeirnodi
Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau PDC yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddefnyddio Arddull Cyfeirnodi Harvard. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r Canllawiau Cyfeirnodi ar gyfer eich cwrs.
Ymrestru gyda PDC
Rhaid i bob myfyriwr PDC ymrestru (cofrestru) gyda Phrifysgol De Cymru. Gallwch wneud hyn ar-lein.
Canlyniadau Diwedd Blwyddyn
Bydd angen eich rhif adnabod myfyriwr PDC a'ch cyfrinair PDC arnoch i gael mynediad i'ch canlyniadau.
Amgylchiadau Esgusodol
Os yw rhywbeth annisgwyl yn effeithio ar eich gallu i lwyddo mewn asesiad, gallwch wneud cais am amgylchiadau esgusodol.
Apeliadau Academaidd
Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi gwneud gwall gyda’r marc a gofnodwyd ar gyfer eich gwaith, neu os bu afreoleidd-dra yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu’r dull o drin arholiadau, gallwch wneud Apêl Academaidd.
Gwaith Achos Myfyrwyr
Canllaw cryno i reoliadau a gweithdrefnau’r brifysgol ar gyfer gwaith achos myfyrwyr.
Yn y lle cyntaf, fe'ch anogir i godi materion yn uniongyrchol gyda'r aelod perthnasol o staff. Rhaid codi pryderon cyn gynted â phosibl a dim mwy na 3 mis ar ôl iddynt godi gyntaf. Mae hyn yn ei gwneud yn llawer haws i ni ymchwilio iddynt yn drylwyr.
Graddio PDC
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein Seremonïau Graddio.
Undeb Myfyrwyr PDC
Mae Undeb y Myfyrwyr yno i gynrychioli eich buddiannau.
Cynrychiolwyr Cwrs
Canllawiau Undeb Myfyrwyr PDC ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs.
Ardaloedd Cynghori PDC
Gall Ardaloedd Cynghori PDC helpu gydag ymholiadau am apeliadau, amgylchiadau esgusodol a materion academaidd eraill.
Gyrfaoedd PDC
Gallwch gyrchu amrywiaeth lawn o wasanaethau a chefnogaeth gyrfaoedd.
Adnoddau Sgiliau Astudio
Cyrchwch ganllawiau ac adnoddau Sgiliau Astudio PDC. I gael cymorth sgiliau astudio gyda thiwtor, cysylltwch â'ch coleg.
Rheoliadau a Pholisïau PDC
Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau PDC yn nodi'r rheolau a'r disgwyliadau y mae disgwyl i'r Brifysgol a'i myfyrwyr gadw atynt.
Ailosod eich cyfrinair PDC
Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, neu os yw wedi dod i ben, gallwch ei ailosod ar-lein.
Eich Cyfrif E-bost PDC
Fel myfyriwr PDC, mae gennych gyfrif Office 365 sy'n cynnwys Outlook Mail, Calendr Outlook, storfa ar-lein OneDrive, rhaglenni Office a mwy.