Myfyrwyr PDC yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/09-logos/logo-gower-college-swansea-1-1340X512.jpg)
Dylai'r dudalen hon ddarparu'r holl ddolenni sydd eu hangen arnoch ar gyfer Prifysgol De Cymru a'ch Coleg Partner. Mae hefyd yn rhestru cyfrifoldebau a chysylltiadau'r ddau sefydliad.
PDC
UniLearn (Blackboard)
Amgylchedd Dysgu Rhithwir PDC.
Llyfrgell PDC
Cyrchwch Adnoddau Llyfrgell PDC.
Cyfeirnodi
Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau PDC yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddefnyddio Arddull Cyfeirnodi Harvard. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r Canllawiau Cyfeirnodi ar gyfer eich cwrs.
Ymrestru gyda PDC
Rhaid i bob myfyriwr PDC ymrestru (cofrestru) gyda Phrifysgol De Cymru. Gallwch wneud hyn ar-lein.
Canlyniadau Diwedd Blwyddyn
Bydd angen eich rhif adnabod myfyriwr PDC a'ch cyfrinair PDC arnoch i gael mynediad i'ch canlyniadau.
Amgylchiadau Esgusodol
Os yw rhywbeth annisgwyl yn effeithio ar eich gallu i lwyddo mewn asesiad, gallwch wneud cais am amgylchiadau esgusodol.
Apeliadau Academaidd
Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi gwneud gwall gyda’r marc a gofnodwyd ar gyfer eich gwaith, neu os bu afreoleidd-dra yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu’r dull o drin arholiadau, gallwch wneud Apêl Academaidd.
Gwaith Achos Myfyrwyr
Canllaw cryno i reoliadau a gweithdrefnau’r brifysgol ar gyfer gwaith achos myfyrwyr.
Coleg Gŵyr Abertawe
Moodle
Mae gan CGA ei Amgylchedd Dysgu Rhithwir ei hun - Moodle. Gallwch ei ddefnyddio i gyrchu adnoddau, uwchlwytho aseiniadau, cwblhau asesiadau a sgwrsio â dysgwyr eraill a darlithwyr gan ddefnyddio’r fforymau.
Llyfrgell
Mae gan y Llyfrgell AU Ymgynghorydd ymroddedig a phrofiadol sy’n gweithio’n agos gyda thîm y Cwricwlwm i sicrhau bod cymorth ac adnoddau ar gael drwy gydol eich cwrs. Mae’r Ymgynghorydd AU wrth law i’ch helpu gyda phob agwedd ar eich astudiaethau yn y Llyfrgell a gallwch drefnu apwyntiad i gael cymorth un-i-un.
PDC
Ardaloedd Cynghori PDC
Gall Ardaloedd Cynghori PDC helpu gydag ymholiadau am apeliadau, amgylchiadau esgusodol a materion academaidd eraill.
Bwrsariaeth Dilyniant PDC
Rydym yn cynnig ein Bwrsariaeth Dilyniant i fyfyrwyr sy'n dewis ychwanegu at eu HND neu radd sylfaen PDC i radd anrhydedd lawn yn un o'n campysau PDC.
Gyrfaoedd PDC
Gallwch gyrchu amrywiaeth lawn o wasanaethau a chefnogaeth gyrfaoedd.
Adnoddau Sgiliau Astudio
Cyrchwch ganllawiau ac adnoddau Sgiliau Astudio PDC. I gael cymorth sgiliau astudio gyda thiwtor, cysylltwch â'ch coleg.
Rheoliadau a Pholisïau PDC
Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau PDC yn nodi'r rheolau a'r disgwyliadau y mae disgwyl i'r Brifysgol a'i myfyrwyr gadw atynt.
Coleg Gŵyr Abertawe
Cymorth i Fyfyrwyr
Yn ogystal â’ch Tiwtor Personol, mae gan y Coleg dîm ymroddedig o Swyddogion Cymorth Myfyrwyr ac Ymgynghorwyr Iechyd sy’n gallu cynnig help a chymorth ar nifer o faterion sy’n effeithio ar eich astudiaethau.
Cymorth ychwanegol i'r rhai sy'n Gadael Gofal.
Cymorth arbenigol i fyfyrwyr ag anghenion ychwanegol
Rydym yn cynnig cyngor i fyfyrwyr â gwahaniaethau dysgu penodol gan gynnwys dyslecsia, dyspracsia ac ADHD er enghraifft, ar sut i gael cymorth arbenigol priodol, addasiadau rhesymol ar gyfer arholiadau, sgrinio ac asesiadau ynghyd â chanllawiau ar y broses o wneud cais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.
https://www.gcs.ac.uk/cy/higher-education#HE-Support
https://www.gcs.ac.uk/cy/aln
Diogelu
Mae Diogelu yn ymwneud â chadw ein dysgwyr yn ddiogel a’u hamddiffyn rhag niwed, camdriniaeth, bwlio ac ati. Mae manylion ein swyddogion diogelu ar gael gan ddefnyddio’r cod QR ar gefn eich cerdyn adnabod. Gallwch ddefnyddio’r cod hwn hefyd i gael cymorth brys y tu allan i oriau yn ystod gyda’r nos, ar benwythnosau neu yn ystod gwyliau.
Dyletswydd Prevent
Mae Dyletswydd Prevent yn ddeddfwriaeth y mae’n rhaid i bob corff statudol a Sefydliad Addysg gydymffurfio â hi. Mae’n ymateb gan y Llywodraeth i gynorthwyo neu atal pobl rhag cael eu radicaleiddio.
Gallwch gyrchu Polisïau Diogelu a Prevent y Coleg drwy Moodle neu wefan y Coleg.
Bwrsariaethau
Mae’r Coleg yn dyfarnu bwrsari o £1000 ym mhob blwyddyn ar gyfer pob myfyriwr AU amser llawn sy’n astudio ar raglen wedi’i rhyddfreinio gan Brifysgol. (Mae meini prawf yn berthnasol)
Cronfa caledi
Os yw aros am gyllid myfyriwr yn achosi caledi, gall myfyrwyr gael mynediad at y gronfa hon os ydynt yn bodloni’r meini prawf.
Cyflogadwyedd a gyrfaoedd – Hybiau’r Dyfodol
Mae Rhaglen y Dyfodol yn gyfres gynhwysfawr o gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe.
Ar gyfer materion nad ydynt yn rhai academaidd mae polisïau a gweithdrefnau CGA yn berthnasol. Ar gyfer materion academaidd, cyfeiriwch at bolisïau a gweithdrefnau USW.
PDC
Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, neu os yw wedi dod i ben, gallwch ei ailosod ar-lein.
Fel myfyriwr PDC, mae gennych gyfrif Office 365 sy'n cynnwys Outlook Mail, Calendr Outlook, storfa ar-lein OneDrive, rhaglenni Office a mwy.
Coleg Gŵyr Abertawe
PDC
Graddio PDC
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein Seremonïau Graddio.
Coleg Gŵyr Abertawe
Dim dolenni perthnasol
PDC
Undeb Myfyrwyr PDC
Mae Undeb y Myfyrwyr yno i gynrychioli eich buddiannau.
Cynrychiolwyr Cwrs
Canllawiau Undeb Myfyrwyr PDC ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs.
Coleg Gŵyr Abertawe
PDC – Ein Cyfrifoldebau
Fel myfyriwr ar un o'n cyrsiau, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:
- Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn cadarnhau eich statws i'ch darparwr benthyciad i fyfyrwyr (os ydych wedi gwneud cais). Gwiriwch gynnydd eich cadarnhad am gyllid myfyrwyrar-lein
- Ni sy’n achredu eich cwrs, felly mae ein polisïau academaidd yn berthnasol. Mae hynny'n cynnwys:
- Amgylchiadau Esgusodol a pholisi Addasrwydd i Sefyll
- Torri ar draws Astudiaethau
- Cwynion ac apeliadau academaidd
- Mae PDC yn delio â sicrhau ansawdd y cwrs, ac yn delio ag ail farcio, arholwyr allanol a byrddau dyfarnu (sy'n pennu graddau terfynol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd).
- Gallwch gyrchu adnoddau ein llyfrgell.
- Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG PDC. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr a storfa cwmwl trwy Microsoft 365.
- Rheolir eich canlyniadau diwedd blwyddyn gennym ni.
- Pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau, gallwch raddio yn un o'n seremonïau graddio
Coleg Gŵyr Abertawe - Ein Cyfrifoldebau
Fel myfyriwr yn ein coleg, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:
- Bydd ein tiwtoriaid yn dysgu'r dosbarthiadau ac yn marcio'ch gwaith.
- Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gael gafael ar ddeunyddiau dysgu ar gyfer eich modiwlau ar-lein.
- Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gyflwyno gwaith.
- Bydd ein Tîm Canolog Addysg Uwch yn eich cynghori am unrhyw fater anacademaidd.
- Gallwch gyrchu adnoddau ein llyfrgell.
- Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG Coleg Gŵyr Abertawe, mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr trwy Office365.com.
Cysylltiadau
PDC: E-bostiwch [email protected]
Coleg Partner: Oes gennych gwestiwn am wasanaethau Coleg Gŵyr Abertawe? Cysylltwch â [email protected].