Blackbullion
Rydym wedi ffurfio partneriaeth â Blackbullion i’ch helpu i fod yn graff gydag arian a chymryd rheolaeth ar eich dyfodol ariannol.
Beth yw Blackbullion?
Mae Blackbullion yn blatfform dysgu digidol a grëwyd i'ch helpu i fynd i'r afael â phopeth sy'n ymwneud ag arian. Mae'n llawn fideos, delweddau a chwisiau sy'n trafod pynciau ariannol, sydd wedi'u cynllunio i roi sgiliau arian am oes i chi.
Sut mae cael gafael ar Blackbullion?
Gallwch gofrestru am ddim gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost eich prifysgol. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn gallu ennill bathodynnau digidol wrth i chi gwblhau'r llwybrau dysgu a chymryd rhan mewn cystadlaethau unigryw.
YmunoSut ydw i'n dysgu ar y platfform?
Byddwch yn ennill sgiliau a gwybodaeth newydd gan ddefnyddio llwybrau dysgu.
Mae llwybrau dysgu yn fideos byr sy'n archwilio pynciau, fel rheoli arian a sicrwydd ariannol.
Mae'r pynciau'n cael eu rhannu'n gyfres o sesiynau byr gan gynnwys adrannau cwestiwn-ac-ateb i brofi a chryfhau eich dysgu mewn ffordd gefnogol. Ond peidiwch â phoeni – dim ond i’ch helpu chi i ddeall eich taith ddysgu y mae’r profion wedi’u cynllunio; ni chewch eich asesu gan unrhyw un arall mewn unrhyw ffordd.
Dyma rai llefydd gwych i ddechrau arni:
- Lawrlwythwch ap Money Manager - https://app.blackbullion.com/
- Sgôr Lles Ariannol - https://www.blackbullion.com/tools/wellbeing/start
- Cyllidebu - https://www.blackbullion.com/library/categories/budgeting
- Bywyd Myfyrwyr - https://www.blackbullion.com/library/categories/student-life
- Cynilo - https://www.blackbullion.com/library/categories/saving