Bwyd
Smart ways to plan meals and save money
Cynllunio eich prydau bwyd
Mae cynllunwyr prydau bwyd yn ffordd wych o leihau gwastraff ac arbed arian.
Traciwch beth sydd yn yr oergell/rhewgell, a beth sydd angen ei ychwanegu at eich rhestr siopa.
Gall prynu cynhwysion mewn swmp fod yn gost-effeithiol, ac yn ffordd wych i gyd-letywyr gydweithio.
- Edrychwch ar y cardiau ryseitiau
Awgrymiadau gwych ar gyfer ymweld â’r archfarchnad
Gall rhuthro o amgylch yr archfarchnad (neu siopa ar-lein cyflym) arwain at eitemau ar hap yn y fasged.
Canfu’r gwasanaeth The Money Helper fod pobl flinedig yn gwario £14.53 ychwanegol ar bob siop.
Os ydych yn chwilio am fargeinion, siopiwch yn hwyrach yn y dydd pan allai fod mwy o eitemau am brisiau gostyngol.
Mae 59% o siopwyr yn prynu mwy pan fyddant yn newynog - felly bwytewch fyrbryd cyn siopa.
Sut i arbed arian
Mae’r ffordd y mae bargeinion yn cael eu cyflwyno, yn ei gwneud yn anodd gwybod a ydych chi'n cael bargen dda ai peidio.
Mae bargeinion prynu 1, cael 1 am ddim yn swnio'n wych, ond a oes angen dau o'r cynhyrchion hynny yn y lle cyntaf?
Cofrestrwch ar gyfer cynlluniau pwyntiau fel Nectar, My Morrisons, neu Tesco Clubcard.
Ystyriwch apiau arian yn ôl – edrychwch ar Save the Students am apiau arian yn ôl gorau archfarchnadoedd.