Ffasiwn
Ble i brynu dillad ail-law
Defnyddiwch Vinted neu unrhyw wefannau ail-law eraill i brynu neu werthu eich eitemau dillad diangen.
Yng Nghaerdydd, Casnewydd a Threfforest mae 20 o siopau elusen ar gyfartaledd yng nghanol y ddinas.
Osgoi ffasiwn gyflym
Newidiadau cyflym mewn ffasiwn, cynhyrchu cyflym, eitemau sy'n cael eu gwisgo ychydig o weithiau yn unig ac wedyn cael eu taflu – nid yw hyn yn gynaliadwy.
Awgrymiadau ar ddewis dillad cynaliadwy sy'n arbed arian yn y tymor hir
- Hepgor pethau a fydd yn mynd allan o ffasiwn mewn ychydig o fisoedd
- Mae'n bosibl bod eitemau ail-law wedi cael eu gwisgo unwaith neu ddwywaith, heb unrhyw draul
- Y dyddiau hyn, mae mor hawdd postio'ch eitemau rydych wedi’u gwerthu
- Cynnal ‘siop cyfnewid’ gyda myfyrwyr i arbed arian, gwneud lle yn eich cwpwrdd dillad a dal i edrych yn wych
- Siopa'n ddoethach – buddsoddi mewn brandiau sy'n hybu arferion cynaliadwy
- 6. Herio eich hun i ‘beidio â phrynu’ am wythnos neu fis