Tîm bach o nyrsys ydym sy'n ymdrechu i helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau newydd i rymuso eu hunain a dod yn fwy cyfrifol am eu hiechyd a'u lles. P'un ai yw ar y campws neu i ffwrdd o’r campws, ychydig o drwyn yn rhedeg neu rywbeth mwy difrifol, rydyn ni yma i'ch helpu chi yn y ffordd orau bosib.

Bethan Rees, Cynghorydd Nyrsio

Helô! Fy enw i yw Beth, rydw i wedi gweithio i PDC ers bron i 3 blynedd, cyn hynny roeddwn i'n gweithio i'r GIG mewn amrywiol adrannau, y sector Preifat a hefyd i'r Heddlu. Mae'r holl brofiad hwn wedi dod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer iechyd myfyrwyr, mewn ffyrdd a fyddai'n eich synnu! Afraid dweud nad yw'n hawdd fy synnu na’m cywilyddio. Yr adborth rwy'n ei werthfawrogi fwyaf yw bod myfyrwyr yn ei chael hi'n hawdd iawn siarad â mi a gwerthfawrogi fy null siarad plaen.

Rwyf wrth fy modd â'r gwaith amrywiol a ddaw yn sgil gweithio yn PDC. Yn ogystal ag ymdrin ag anafiadau a salwch, un o'r agweddau ar fy swydd rwy'n ei mwynhau fwyaf ac yn teimlo sy'n rhan hanfodol o'n rôl yw galluogi a chefnogi myfyrwyr i ddysgu cymryd cyfrifoldeb a gofalu am eu hiechyd a'u lles eu hunain. 

  • Hoff Chwaraeon: Tra bod fy nyddiau o chwarae chwaraeon ar ben, yn anffodus, roeddwn i'n arfer chwarae darbi rholio ac yn dal i fwynhau cefnogi fy hen dîm ac ail-fyw fy nyddiau a dreuliais ar y trac. Y dyddiau hyn dwi'n fam rygbi ac yn mwynhau gwylio fy mab yn chwarae yn ogystal â chefnogi fy nhîm cenedlaethol wrth gwrs!
  • Drygioni cudd: Rwy'n dipyn o ffanatig ceir ac yn mwynhau gyrru, i gyd yn gyfreithlon wrth gwrs!! O! a sodlau! Sodlau uchel iawn!
  • Lliw Gwallt Cyfredol: Wedi ennill ychydig o enw da i mi fy hun am fy lliw gwallt sy'n newid yn barhaus. Ers i mi fod yn PDC mae wedi bod yn frown, platinwm, cymysgedd o wahanol liwiau’r enfys a phinc. Mae'n felyn golau ar hyn o bryd .... ond gwyliwch y gofod hwn: pwy a ŵyr beth fydd nesaf!

Tiffany Bressington, Cynghorydd Nyrsio

Helo, Tiffany ‘dw i a dw i wedi bod yn rhan o deulu PDC ers mis Mawrth 2023. Dw i'n eithaf newydd i'r rôl yma ond nid yn newydd i nyrsio nac i PDC ar ôl astudio ar gyfer fy ngradd nyrsio yma yn PDC! Dw i wrth fy modd fy mod yn gallu darparu cyngor a chymorth iechyd i fyfyrwyr sy'n astudio yn PDC gan fy mod yn gwybod o lygad y ffynnon pa mor werthfawr y gall yr help fod yn ystod cyfnod a all weithiau fod braidd yn llethol.

Dw i wedi gweithio mewn gwahanol rolau nyrsio yn ystod fy ngyrfa, ond mae'r swyddi rydw i wedi eu gweld yn fwyaf gwerth chweil wedi gweithio'n agos gyda phobl i helpu gwella eu hiechyd a'u lles cyffredinol. Dw i'n credu'n gryf mai iechyd cyfannol yw'r ffordd ymlaen, sy'n golygu fy mod i mewn sefyllfa dda i ddangos empathi, deall a helpu gyda bwrlwm bywyd myfyrwyr.

Fy hoff dri pheth i'w wneud yw:

  • Treulio amser y tu allan: Dw i'n DWLU ar yr awyr agored. Heicio, beicio, padl-fyrddio ac archwilio cefn gwlad hardd Cymru a thu hwnt. Dw i wrth fy modd awyr iach a bod yn heini’n gyffredinol. Dw i hyd yn oed wedi cwblhau ychydig o driathlonau, rhywbeth dw i'n gobeithio ei ail-gydio ynddo pan fydd fy mhlant ychydig yn hŷn!
  • Teithio: Dw i'n mwynhau teithio gyda fy nheulu, arbrofi gyda gwahanol fwydydd a dysgu am ddiwylliannau eraill ar ôl ymweld ag Athen, Paris, Strasbourg a Llundain yn ddiweddar! Dwi’n edrych ymlaen at ragor o deithiau cyffrous yn y dyfodol.
  • Gwendid Cyfrinachol: Dw i wrth fy modd â bwyd o bob math a dw i'n mwynhau coginio. Ond mae gen i dipyn o ddibyniaeth ar siocled, yn enwedig Lindt a ffrwythau a chnau Cadburys! Blasus!