Os oes angen help arnoch, anfonwch e-bost atom neu trefnwch apwyntiad. Rydyn ni yma i helpu.

Cysylltu â'r Tîm Iechyd PDC

E-bost [email protected] 

Beth os caf adborth?

Rydym bob amser yn falch o dderbyn adborth.  e-bostiwch [email protected].

Beth os oes gen i gŵyn?

Gwelwch Cwynion Myfyrwyr.

Datganiad Preifatrwydd

Rydym yn defnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein ar gyfer trefnu apwyntiadau a pheth rhyngweithio cefnogi ac mae'r defnydd hwn yn dod o dan Ddatganiad Preifatrwydd yr Ardal Gynghori Ar-lein . Ar gyfer datganiadau preifatrwydd cyffredinol PDC, gweler Hysbysiadau Preifatrwydd a Defnyddio Gwybodaeth Bersonol.

Apwyntiadau Tîm Iechyd PDC 

Campws Trefforest a Chaerdydd

Mae apwyntiadau ffôn ar gael a gellir eu harchebu trwy’r Ardal Gynghori Ar-lein. Cofiwch gynnwys eich rhif ffôn symudol yn adran nodiadau'r ffurflen archebu ar-lein. Gallwch hefyd gynnwys neges fer am yr hyn yw eich mater neu ymholiad Iechyd os dymunwch.

Campws Casnewydd

Ar hyn o bryd , yn anffodus, ni allwn ddarparu apwyntiadau Nyrsys wyneb yn wyneb ar ein campysau yng Nghaerdydd neu Gasnewydd, ond mae apwyntiadau ffôn ar gael a gellir eu harchebu drwy'r Ardal Cynghori Ar-lein. Cofiwch gynnwys eich rhif ffôn symudol yn adran nodiadau'r ffurflen archebu ar-lein ynghyd â disgrifiad bach o beth fydd pwrpas yr apwyntiad. 

Sylwch (apwyntiad ffôn): os ydych yn archebu apwyntiad ffôn, weithiau bydd y galwadau o rif 'wedi'i ddal yn ôl', felly gwiriwch eich gosodiadau ffôn i sicrhau y bydd eich ffôn yn eu derbyn. 

Apwyntiadau meddygon ar y campws (Trefforest)

Meddygfa Ashgrove sy'n darparu'r ddarpariaeth meddyg teulu ar gyfer y Myfyrwyr hynny sy'n byw yn ardal Trefforest ac maent wedi cwblhau'r cofrestriad gofynnol.   

Mae Meddygfa Ashgrove yn darparu gwasanaethau meddygon teulu i fyfyrwyr sy'n byw yn ardal Trefforest. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru gyda nhw.

Maent fel arfer yn cynnal apwyntiadau meddyg teulu ar gampws Trefforest bob yn ail brynhawn dydd Mercher.I archebu, ffoniwch Feddygfa Ashgrove ar 01443 404 444 neu e-bostiwch [email protected].

NB: Nid yw'r apwyntiadau hyn ar gael drwy’r Ardal Gynghori Ar-lein.