Adnoddau Hunangymorth
Os oes angen cymorth brys arnoch, cliciwch ar y botwm coch yn y pennawd i gael mynediad i wefannau a llinellau cymorth hanfodol. Os yw'r mater yn peryglu bywyd, ffoniwch 999 ar unwaith.
Nid yw Prifysgol De Cymru yn gyfrifol am gynnwys unrhyw un o'r gwefannau allanol a restrir.
adnoddau eraill
Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd a'ch lles corfforol ond nad ydych chi'n barod i wneud apwyntiad, neu os ydych chi am allu cynnal eich hun wrth i chi aros i apwyntiad ddod ar gael, edrychwch ar yr adnoddau isod.
- Beat – elusen ar gyfer pobl ag anhwylderau bwyta a'u teuluoedd.
Ymarfer corff ac iechyd meddwl - Podlediad yn egluro sut y gall pawb ofalu am eu hiechyd meddwl gan ddefnyddio ymarfer corff.
- Cymdeithas ME – Gwybodaeth am grŵp cymorth i oedolion a phlant y mae ME/CFS yn effeithio arnynt.
- Action for ME – Elusen yn y DU yw Action for ME sy’n ymgyrchu i wella bywydau pobl ag enseffalopathi myalgig yn y DU.
Gwasanaeth Iechyd PDC - am wybodaeth ar sut i gofrestru gyda Meddyg Teulu
- Ymddiriedolaeth Terrence – Gwybodaeth am HIV ac AIDS, rhyw mwy diogel, llyfrynnau ar-lein, a'r llinell gymorth genedlaethol gan y brif elusen HIV ac AIDS.
- The Well Project – Gwybodaeth a chymorth i fenywod sy'n byw gyda HIV.
Moodjuice – Canllaw hunangymorth i ddysgu mwy am broblemau cysgu a sut i ymdopi â nhw.
- Brechiadau - gwybodaeth am y brechiadau y dylech eu cael tra'n astudio yn y DU.
- Cofrestru gyda’r Meddyg Teulu/Gwasanaeth Iechyd - gwybodaeth ar sut i gofrestru
Dewis Sylfaenol - ar gyfer pan nad ydych yn siŵr a oes angen i chi weld nyrs, meddyg neu fferyllydd
Meningitis Now - gwybodaeth am symptomau a sut i gael cymorth
- Stonewall – Nod Stonewall Cymru yw cyflawni cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru.
- Relate – Yn cynnig cwnsela perthynas ledled y DU drwy'r Rhyngrwyd, llinell gymorth dros y ffôn a chyfarfodydd wyneb yn wyneb.
- Mermaids wedi bod yn helpu plant a phobl ifanc amrywiol eu rhywedd a’u teuluoedd ers 1995
- Galopyn elusen sy’n cefnogi pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a queer sy’n cael eu heffeithio gan drais rhywiol a domestig.
- Prosiect Amber - Yn darparu cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc (14-25) sydd â phrofiad o hunan-niweidio.
- LifeSIGNS – Sefydliad gwirfoddol a arweinir gan ddefnyddwyr sy'n creu dealltwriaeth o hunan-niwed.
- National Self-Harm Network Forum – Fforwm sy’n darparu cymorth mewn argyfwng, gwybodaeth ac adnoddau, cyngor, trafodaethau a gwrthdyniadau.
- Gwrthdyniadau hunangymorth - Taflen ffeithiau gan y Rhwydwaith Hunan-niwed Cenedlaethol.
- Self injury Support – Sefydliad cenedlaethol sy'n darparu cefnogaeth i ferched a menywod yr effeithir arnynt gan hunan-anafu neu hunan-niwedio.
- The Calm Zone: Self Harm – Anelir The Campaign Against Living Miserably at ddynion ifanc rhwng 15-35 oed. Mae'r ymgyrch yn cynnig llinell gymorth, gwybodaeth a chyngor.
- Brook - Yn darparu gwasanaethau iechyd rhywiol a chyngor i bobl ifanc (hyd at 25).
- Atal Cenhedlu Brys – y Bilsen Bore Wedyn – Gwybodaeth GIG ar atal cenhedlu brys a ble i’w gael.
- Forward - Yn cynnig cyngor a chymorth i unrhyw un y mae FGM (Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod) yn effeithio arnynt, gan gynnwys unrhyw un sy'n ofni eu bod nhw neu rywun arall mewn perygl.
- Marie Stopes - Yn cynnig cyngor am ryw, perthnasoedd, beichiogrwydd ac atal cenhedlu.
- GIG – Llinell Iechyd Rhywiol – Cyngor cyfrinachol am iechyd rhywiol, gan gynnwys gwybodaeth am ganolfannau lleol ar gyfer Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol.
- Porn Recovery UK - Gwybodaeth a chymorth i unrhyw un y mae pornograffi neu ryw seiber yn effeithio arnynt.
- Cydsyniad rhywiol - fideo Youtube – pam mae cydsyniad rhywiol yn union fel cynnig paned o de i rywun.
- Barod – gwasanaeth camddefnyddio sylweddau sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim i unrhyw un yr effeithir arno gan ddefnyddio sylweddau. Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael i bobl bryderus eraill sy’n poeni am, neu’n cael eu heffeithio gan ddefnydd o sylweddau gan eu hanwyliaid. Mae Barod yn gweithredu gwasanaeth gwe-sgwrsio byw cyfrinachol sydd ar gael 7 diwrnod yr wythnos trwy ei wefan, sy'n darparu gwybodaeth a chymorth.
- SMART Recovery – Grŵp cydgymorth cyfrinachol sy'n helpu cyfranogwyr i benderfynu a oes ganddynt broblem, yn cynyddu eu cymhelliant i newid ac yn cynnig set o offer a thechnegau profedig i gefnogi adferiad. Mae Barod yn hwyluso cyfarfodydd SMART Recovery yn ardal Cwm Taf. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth Barod Cwm Taf ar 0300 333 0000.
- Club Drug Clinic – Gwasanaeth cenedlaethol i bobl sydd wedi dechrau cael problemau gyda'u defnydd o gyffuriau hamdden.
- dan247 – Llinell gymorth am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau rhagor o wybodaeth neu gymorth yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol.
- Alcoholics Anonymous – Yn darparu ystod o wybodaeth, cyngor a sesiynau wyneb yn wyneb i helpu pobl i ymdopi â phroblemau sy'n ymwneud ag alcohol.
- Drinkaware – Gwybodaeth ac offer i'ch helpu i edrych yn agosach ar eich yfed.
- Adult children – Gwybodaeth a chymorth i'r rhai a gafodd eu magu mewn cartref alcoholig neu gartref camweithredol fel arall.
- Frank – Cyngor a gwybodaeth ymlaen llaw i bobl ifanc am gyffuriau. Yn cynnwys A-Z o gyffuriau, llinell gymorth gyfrinachol, ac adroddiadau.
Gwiriwch eich symptomau - gwiriwr symptomau'r GIG ar gyfer os ydych yn teimlo'n sâl ac yn ansicr o'r achos
Brechiadau y dylech eu cael cyn a thra byddwch yn y Brifysgol