Mewn labordy, nid yn y gwyllt, y cafwyd hyd i rywogaeth fwyaf newydd mwncïod y byd

25 Tachwedd, 2020

The discovery of the Popa langur, a medium-sized leaf-eating monkey found in central Myanmar, was recently announced by scientists.

gan Tracie McKinney

Datgelodd gwyddonwyr yn ddiweddar bod Langur Popa, mwnci canolig ei faint sy’n bwyta dail, wedi ei ddarganfod yng nghanoldir Myanmar. Amcangyfrifir mai dim ond 200-250 o'r mwncïod hyn sydd yn y byd, sy’n debygol o olygu y bydd y rhywogaeth newydd yn cael ei hystyried yn un sydd "mewn perygl difrifol". Cyhoeddwyd y newyddion tuag wythnos yn unig ar ôl y newyddion bod dwy rywogaeth newydd o ‘r gleidiwr mawr – creadur bolgodog sy’n gleidio - wedi eu darganfod yn Awstralia. Ond beth mae gwyddonwyr yn ei olygu pan fyddan nhw’n cyhoeddi eu bod wedi darganfod rhywogaethau mamalaidd "newydd"? Oedd yr anifeiliaid hyn wir yn anhysbys i wyddoniaeth?

Er bod darganfyddiadau fel y langur a’r gleidwyr yn sicr yn gyffrous, mae'n bwysig deall nad anturiaethwyr a ddaeth o hyd i rywogaethau nad oedd neb wedi eu gweld o’r blaen sydd yma.  Yn hytrach, mae'r anifeiliaid hyn wedi'u nodi fel grŵp sy’n wahanol o ran geneteg o fewn poblogaeth sydd eisoes yn hysbys. Yn wir, mae pobl leol wedi bod yn byw gyda'r anifeiliaid hyn ers cenedlaethau, ac mae ganddynt eu ffyrdd eu hunain o adnabod a dosbarthu rhywogaethau.  Pan fydd ysgolheigion yn cyhoeddi rhywogaeth sydd newydd ei diffinio yn seiliedig ar dystiolaeth genetig, mae fel arfer yn golygu eu bod wedi codi statws is-rywogaeth i fod yn statws rhywogaeth. 

Nid yw rhywogaethau mor syml ag yr oedden nhw’n ymddangos pan oedden ni’n dysgu amdanyn nhw yn yr ysgol.  Mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion yn defnyddio'r "cysyniad rhywogaethau biolegol", sy'n seiliedig ar p'un a yw'r anifeiliaid yn gallu cynhyrchu epil ffrwythlon gyda'i gilydd, ond mae llawer o ffyrdd eraill o ddiffinio rhywogaeth.  Fel y rhan fwyaf o brimatiaid eraill sydd wedi cael eu disgrifio’n ddiweddar, mae'r Langur Popa wedi'i adnabod drwy ddefnyddio gwybodaeth genetig, neu'r cysyniad o rywogaethau ffilogenetigol.  Mae hyn yn seiliedig ar sut mae anifeiliaid yn ymwneud â grwpiau eraill o ran esblygiad, gan ddiffinio rhywogaeth fel y grŵp lleiaf y gellir ei wahaniaethu'n enetig o rywogaethau eraill ond sy'n dal i rannu hynafiad amlwg.

Gall codi statws o fod yn is-rywogaeth i fod yn rhywogaeth newydd ar sail gwybodaeth genetig fod yn ddadleuol.  Mae rhai ysgolheigion yn diystyru'r darganfyddiadau hyn fel "chwyddiant tacsonomig", ac yn poeni bod newid dosbarthiadau  yn gallu drysu ymdrechion cadwraethol. Mae eraill yn nodi, heb enw ac amcangyfrif dibynadwy o'r boblogaeth, y gallai'r pocedi bach hyn o amrywiadau genetig ddiflannu’n hawdd a heb rybudd, a bod eu codi i lefel rhywogaeth  yn sicrhau bod cyllid ac ymdrechion cadwraeth yn cael eu cyfeirio at y grwpiau hyn sydd mewn perygl. Beth bynnag yw’ch barn, mae'n werth nodi bod y syniad o rywogaeth – o ddefnyddio unrhyw ddiffiniad – yn rhywbeth y mae dyn wedi ei greu i esbonio amrywiaethau yn y byd naturiol, ac na fydd unrhyw ddiffiniad yn cynrychioli amrywiaeth fiolegol yn berffaith.

Adnabod rhywogaeth newydd

Cafodd y Langur Popa sydd newydd ei ddisgrifio ei ddarganfod drwy astudiaeth ffilogenetigol oedd yn ceisio deall yn well y berthynas esblygol ymhlith yr 20 rhywogaeth sy’n hysbys o'r genws Trachypithecus – a adwaenir yn anffurfiol fel y languriaid, y lutungiaid neu fwncïod y dail. Defnyddiodd gwyddonwyr samplau ysgarthol o languriaid gwyllt a samplau o feinweoedd o sbesimenau amgueddfeydd i ddeall  cydberthnasau tacsonomeg o fewn y genws.

Roedd un grŵp o languriaid yn wahanol - roedd y dystiolaeth genetig yn dangos fod mathau gorllewinol a dwyreiniol clir, ond bod poblogaeth ganolog nad oedd yn cyd-fynd â’r naill na'r llall. Yna, cafodd y mathau gorllewinol a dwyreiniol, a enwyd yn flaenorol yn is-rywogaethau languriaid Phayre, eu codi i lefel rhywogaeth (languriaid Phayre neu Trachypithecus phayrei a languriaid Talaith Shan neu T. melamera, yn y drefn honno). Enwyd y boblogaeth oedd yn weddill yn Trachypithecus popa – y Languriaid Popa, ar ôl Mynydd Popa gerllaw. Mae'r rhywogaeth newydd hon yn byw mewn pedair poblogaeth benodol, ac mae mewn perygl o ddiflannu oherwydd bod cyn lleied ohonyn nhw, digoedwigo, ac effeithiau amaethyddiaeth a thynnu  coed.

Efallai ei bod yn syndod clywed bod rhywogaeth sydd newydd ei darganfod mewn perygl o ddiflannu, ond mae hyn yn aml yn wir pan fo ailddosbarthu genetig yn digwydd.  Roedd y ddau is-rywogaeth oedd eisoes wedi eu henwi, ac o ble y daethpwyd i adnabod y languriaid Popa,  eisoes wedi'u dosbarthu fel rhai "mewn perygl" yn erbyn meini prawf rhestr goch Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur (IUCN), sy'n golygu bod gan yr anifeiliaid hyn, sydd eisoes dan fygythiad, boblogaeth lai fyth nag a gredid o'r blaen.  Bydd angen ail-werthuso pa mor ddifrifol mae perygl diflaniad y  ddwy is-rywogaeth hynny – languriaid Phayre a languriaid Talaith Shan, gan eu bod bellach yn rhywogaethau yn eu hiawn ryw.  Nid yw'r Langur Popa wedi'i ddosbarthu eto ond mae awduron yr astudiaeth yn awgrymu y dylai ddod o dan y categori "mewn perygl difrifol", oherwydd ei phoblogaeth fach a darniog a'r cynefin cyfyngedig sydd ar gael iddo.

Gall ailddosbarthu genetig helpu i’n hatgoffa y dylid canolbwyntio ymdrechion cadwraethol ar lefelau tacsonomeg uwch. Er enghraifft, mae'r aye-aye, primat nosol rhyfedd yng nghoedwigoedd Madagascar, yn cynrychioli genws monobenodol – genws sydd ag un rhywogaeth fyw yn unig.  Does yr un creadur byw arall tebyg i’r aye-aye, felly byddai ei ddiflaniad yn golled fawr o ran amrywiaeth genetig, ecolegol ac ymddygiadol.  Mae'r Langur Popa, ar y llaw arall, yn un o tua 20 rhywogaeth yng  ngenws langur Trachypithecus, sydd i gyd yn rhannu hanes esblygiadol cymharol ddiweddar.

Serch hynny, mae pob rhywogaeth newydd o brimatiaid sy’n cael ei hadnabod yn dweud ychydig mwy wrthon ni am amrywiaeth y grŵp difyr hwn o famaliaid. Drwy ddeall bod y Langur Popa yn enetigol wahanol i boblogaethau cyfagos, gallwn flaenoriaethu ymdrechion cadwraethol ar gyfer y grŵp hwn o anifeiliaid yn well.  Bydd y dosbarthiad newydd hwn yn hanfodol i greu cronfeydd cadwraethol i ddiogelu'r mwnci prin hwn a'i amgylchedd.