PDC yn datgelu enillwyr cyntaf Cronfa Gychwyn Springboard
24 Tachwedd, 2020
Mae enillwyr cyntaf Cronfa Gychwyn Springboard ar gyfer cwmnïau newydd gan Raddedigion PDC yn 2020/21 wedi eu cyhoeddi.
Wedi'u creu i roi cymorth i entrepreneuriaid graddedig, ac yn benodol i ddarparu cyllid hadu i raddedigion PDC i ddechrau busnes newydd, mae'r gwobrau hefyd yn dangos ymrwymiad PDC i gefnogi graddedigion Dosbarth 2020, sy'n wynebu'r dirywiad economaidd mwyaf difrifol mewn cenhedlaeth, gyda Chronfa Cyflwyno Syniadau newydd.
Roedd yn rhaid i bawb a gafodd eu hystyried ar gyfer y gwobrau fod wedi graddio o PDC yn 2020, fod wedi cwblhau un o dair rhaglen fenter ac entrepreneuriaeth gan PDC, neu wedi cwblhau un rhaglen cymorth busnes a chymorth cychwyn busnes cymwys arall, megis Syniadau Mawr Cymru, Ymddiriedolaeth y Tywysog, Busnes Cymru, neu raglen gyfatebol. Roedd yn rhaid iddynt hefyd fod naill ai ar y cam cyn-cychwyn, neu fod yn ystod eu chwe mis cyntaf o fasnachu.
Wynebodd yr enillwyr gystadleuaeth galed, gyda chyfanswm o 12 cais ar y rhestr fer gan 14 o raddedigion, saith ohonynt wedi'u lleoli yng Nghymru, dau yn Kenya, un yn Jamaica, a dau dros y ffin yn Lloegr.
Roedd y beirniaid hefyd yn ffigurau amlwg yn eu sectorau, ac yn cynnwys yr Athro Dylan Jones-Evans, Dirprwy Ganghellor Cynorthwyol PDC; Geryn Evans, sylfaenydd Project Blu; Mandy Powell, sylfaenydd The Goodwash Company; Sarah John, sylfaenydd Boss Brewing; a Kevin Mansell-Abell, un o raddedigion PDC a sylfaenydd That Media Group.
Dywedodd yr Athro Jones-Evans: "Roeddem wrth ein bodd bod 14 o'n graddedigion entrepreneuraidd yn 2020 ar y rhestr fer ar gyfer y gronfa Springboard gyntaf. Cafodd ein panel hynod brofiadol o entrepreneuriaid o Gymry eu syfrdanu gan ehangder a dyfnder y syniadau busnes. Gwnaeth y pedwar enillydd, sydd wedi derbyn £10,000 rhyngddynt i lansio eu mentrau, argraff arbennig arnynt. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw drwy'r Startup Stiwdio a chefnogi eu datblygiad dros y 12 mis nesaf."
Cynhelir ail rownd o wobrau ym mis Chwefror.
Yr enillwyr
Gareth Martinson - CheekyRub & CheekyCaress
Wedi eu sefydlu gan Gareth Martinson, a raddiodd mewn Busnes Rhyngwladol, ac sy’n dod o Gasnewydd, mae CheekyRub & CheekyCaress yn frand o bersawrau fegan wedi eu cynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy. Gareth ei hun sy’n creu’r holl gynnyrch. Mae Gareth yn gobeithio dechrau masnachu yn ystod y misoedd nesaf.
Dyfarnwyd yr uchafswm o £4,000 iddo tuag at ddeunydd pacio, cynhwysion, adroddiadau diogelwch cynnyrch cosmetig, a thrwyddedau eraill a chofrestru nod masnachu.
Dywedodd: "Diolch i aelodau'r panel am wrando ar fy nghyflwyniad. Rwyf wedi gweithio'n eithriadol o galed ar y busnes a'r cynnig hwn. Mae cael fy enwi’n rhywun sy’n haeddu'r wobr uchaf o £4,000 yn golygu'r byd i mi. Diolch o galon am y wobr gan y Startup Stiwdio, a'r mentora a ddaw ganddynt yn y dyfodol. Bydd yn help enfawr i fi allu symud yn fy mlaen fel entrepreneur."
Dywedodd un o’r beirniaid, Mandy Powell: "Llongyfarchiadau i Gareth am sicrhau'r brif wobr. Roedd ei gyflwyniad yn ardderchog, mae brand Cheeky Rub o bersawrau, gyda’r pwyslais ar ailgylchadwyedd a feganiaeth, yn sicr yn un i'w wylio yn y dyfodol. Da iawn Gareth."
Sasha Masters - Serentity Spa Wax Melts
Er mai newydd ddechrau mae Serentity Spa Wax Melts, mae cwmni cwyr tawdd ac arogleuon cartref Sasha Masters eisoes yn creu sylfaen gref o gwsmeriaid teyrngar.
Dyfarnwyd £2,500 i'r fyfyrwraig a raddiodd mewn Rheoli Digwyddiadau tuag at stoc, cynhyrchion newydd a gweithgareddau marchnata.
Dywedodd: "Rwy'n hynod ddiolchgar fy mod wedi ennill y grant hwn sy'n mynd i weddnewid sefyllfa’r cwmni. Bydd yn cael effaith enfawr ar Serenity Spa, gan roi'r gallu i fi gyrraedd uchelfannau newydd, ehangu fy ystod cynnyrch, ac, yn y dyfodol agos, agor fy ngweithdy fy hun."
Charlotte Blackmore – AnimalEd
Cwmni ymweliadau a digwyddiadau addysgol yn ymwneud ag anifeiliaid yw AnimalEd, ac fe’i sefydlwyd gan Charlotte Blackmore. Mae’n mynd ag anifeiliaid egsotig sydd wedi'u hachub i ysgolion, cartrefi gofal a lleoliadau eraill, i addysgu pobl am yr anifeiliaid, eu lles, eu cynefinoedd a'u haddasiadau. Mae hefyd yn tynnu sylw at y dinistr sy’n digwydd i lawer o'r amgylcheddau naturiol sy'n gartref i'r anifeiliaid egsotig hyn.
Graddiodd Charlotte gyda BSc mewn Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol, a dyfarnwyd £1,500 iddi tuag at offer, datblygu gwefan, gwisgoedd, yswiriant a thrwyddedu. Cafodd Charlotte gefnogaeth gan Ysgol Haf Entrepreneuriaeth y Startup Stiwdio a rhaglen Llwybr Carlam Llawrydd Menter Myfyrwyr PDC.
Dywedodd: "Bydd yr arian hwn yn ein helpu i barhau i ddarparu gofal anhygoel i'n hanifeiliaid, a thalu am rai agweddau cyfreithiol fel yswiriant. Rwy'n hynod ddiolchgar am y grant ac am yr holl gymorth arall rwyf wedi'i gael gan y brifysgol yn fy helpu gyda fy musnes. Mae wedi bod yn gwbl amhrisiadwy."
Rhi Hughes – gwasanaethau a thriniaethau harddwch
Yn targedu dynion a'r gymuned drawsryweddol yn benodol yn ardal Torfaen, bydd busnes Rhi Hughes yn defnyddio cynnyrch moesegol a fegan i wella lles cyffredinol pobl drwy driniaethau sba a salon. Fel person anabl, mae Rhi angen cymorth ariannol i dalu am ddodrefn trydan, a fydd yn ei galluogi i weithio'n haws. Mae Rhi yn gobeithio dechrau masnachu cyn gynted ag y gall brynu'r offer.
Cafodd Radd Sylfaen Lefel 5 mewn Iechyd a Lles Anifeiliaid a derbyniodd £2,000 tuag at gyfarpar triniaethau arbenigol
Dywedodd: "Ar ôl y flwyddyn ryfedd mae pawb wedi'i chael yn 2020, roeddwn i mor hapus i gael galwad yn fy llongyfarch ddiwrnod wedi i fi gyflwyno fy syniadau. Bydd yr arian yn helpu i brynu offer arbenigol mae mawr eu hangen arna i i allu darparu gwasanaethau i ddarpar gleientiaid sydd ag anghenion na all busnesau eraill eu diwallu. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y daith nawr."