Coleg Llwybr Dilyniant newydd i ddechrau ym Mhrifysgol De Cymru

5 Mai, 2021

USW INT + QA PARTNERSHIP LOGO.jpg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cyhoeddi y bydd yn gweithio mewn partneriaeth â QA Higher Education (QAHE) i ddarparu Coleg Llwybr Dilyniant Rhyngwladol ar ei champysau yng Nghaerdydd a Phontypridd.

Bydd y llwybr a rhaglenni Saesneg yn cefnogi myfyrwyr sydd angen datblygu eu gallu yn yr iaith Saesneg a'u sgiliau astudio academaidd i gynnig llwybrau dilyniant gwarantedig i Fusnes, Cyfrifiadura, Peirianneg a’r Diwydiannau Creadigol, gyda Gwyddoniaeth Gymhwysol a Gwyddor Chwaraeon ar gael yn y dyfodol.

Mae QAHE wedi hen ennill eu lle yn y farchnad llwybrau rhyngwladol, gyda phartneriaethau ar waith gyda Phrifysgol Northumbria, Prifysgol Roehampton, a Phrifysgol Solent, yn ogystal â phartneriaethau Addysg Uwch eraill gyda Phrifysgol Ulster, Prifysgol Middlesex, a Phrifysgol Fetropolitan Llundain. 

Mae ganddo alluoedd recriwtio a marchnata rhyngwladol cryf, gan gynnwys rhwydwaith mawr o gynrychiolwyr rhyngwladol a hanes cryf o ddilyniant yn yr ystafell ddosbarth gyda'i bartneriaid prifysgol. Bydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn cychwyn yn hydref 2021.

Mae tyfu ei hôl troed rhyngwladol yn flaenoriaeth strategol i PDC. Yn ogystal â chefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth ryngwladoli ehangach, bydd y bartneriaeth yn gwella amrywiaeth ymhellach ar draws y garfan ryngwladol ac yn darparu sianel recriwtio newydd a fydd yn helpu i ddiogelu'r Brifysgol yn y dyfodol yn erbyn effeithiau Brexit a sector rhyngwladol sy'n cynyddol heriol.

Dywedodd yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor PDC: "Rwyf wrth fy modd bod Prifysgol De Cymru wedi gallu sicrhau'r bartneriaeth hon gyda QAHE, sydd â hanes o gyflwyno darpariaeth debyg i fyfyrwyr tramor mewn nifer o sefydliadau yn y DU.

"Drwy gydnabod anghenion cyfran ehangach o fyfyrwyr rhyngwladol a rhoi'r gefnogaeth iddynt i gyflawni eu potensial, byddwn yn gwella ein henw da ymhellach fel sefydliad rhyngwladol sy'n cynnig cymwysterau sydd yn aml ar flaen y gad yn rhyngwladol. 

"Yn PDC, mae gennym flynyddoedd lawer o brofiad o ddarparu dysgu o'r radd flaenaf i fyfyrwyr o bob cwr o'r byd, a gallwn ddefnyddio'r arbenigedd hwn i sicrhau bod y rhaglenni integredig hyn yn cyflwyno addysg sydd heb ei hail i'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr."

Dywedodd Julie Noone, Prif Weithredwr QAHE: “Rydym yn falch iawn o weithio gyda Phrifysgol De Cymru ar y bartneriaeth newydd hon a fydd yn darparu mwy o ddewisiadau pwnc a lleoliad i fyfyrwyr Rhyngwladol ym mhortffolio partneriaid a chyrsiau QAHE.

“Mae gan PDC uchelgeisiau Rhyngwladol cryf iawn ac rydym yn hapus iawn i weithio gyda phartner newydd sydd ag uchelgais o’r fath yn y maes hwn. Mae'r campysau a'r ystod o bynciau yn rhagorol ac yn hynod ddeniadol i fyfyrwyr Rhyngwladol. ”

Mae rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth a'r cyrsiau sydd ar gael ar wefan QA Higher Education https://qahighereducation.com/