PDC a’r FAW yn datgelu partneriaeth hanfodol ar gyfer pêl-droed Cymru

17 Tachwedd, 2021

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/FAW_USW_partnership_GwbIr9o.jpg

Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC y Dywedodd Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol FAW

Adnewyddodd Prifysgol De Cymru (PDC) a Chymdeithas Bêl-droed Cymru (yr FAW) eu partneriaeth, am bum mlynedd arall, ym mhresenoldeb Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon.

Mae PDC yn un o ddarparwyr academaidd mwyaf cyrsiau gradd pêl-droed ledled y DU gyda dros 800 o fyfyrwyr yn astudio ystod o gyrsiau pêl-droed. Mae'r cysylltiad â’r FAW yn unigryw o ran darparu cynnig unigryw trwy'r cyrsiau hyn sy'n arwain y farchnad.

At hynny, cyd-ddyluniwyd y cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig gyda'r FAW, gan ymgorffori trwyddedau hyfforddi pêl-droed a gydnabyddir yn rhyngwladol (fel trwyddedau UEFA B ac A) yn y cwricwlwm. Mae integreiddio cymwysterau proffesiynol yn un o linynnau craidd y bartneriaeth, a PDC yw'r unig brifysgol yn y DU sy'n darparu hyn, gan gynhyrchu graddedigion cyflogadwy iawn.

Mae ymgysylltu â'r gymuned hefyd yn agwedd annatod o'r bartneriaeth. Mae myfyrwyr hyfforddi pêl-droed yn cyflwyno dros 5000 o oriau dysgu yn y gwaith yn flynyddol, gan gefnogi lleoliadau FAW a mentrau pêl-droed cymunedol ar lawr gwlad. Hefyd, maen nhw'n gwirfoddoli 5000 awr arall y flwyddyn.

Cynhaliwyd y lansiad ym Mharc Chwaraeon PDC ddydd Mawrth 16 Tachwedd. Dan gadeiryddiaeth yr Athro Brendan Cropley o PDC, roedd y digwyddiad yn cynnwys trafodaeth banel gyda Gemma Grainger, Rheolwr Tîm Cenedlaethol Menywod Cymru, Gavin Chesterfield, Arweinydd Cwrs yn PDC, a Hyfforddwr Cenedlaethol Rheolwr Hyfforddi Addysg, FAW, Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol, FAW a Dave Adams, Cyfarwyddwr Technegol, FAW.

Dywedodd Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol FAW: “Byddwn yn elwa o dystiolaeth a mewnwelediadau ymchwil PDC, gan ddarparu ymchwil effeithiol sy’n cefnogi arloesi a datblygu. Rydyn ni eisiau bod yn arweinwyr meddwl ym mhêl-droed y byd, gan wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ar ac oddi ar y cae. Partneriaethau fel hyn yw hanfod yr hyn a wnawn.”

Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC: “Rydym yn hynod falch o’n partneriaeth â’r FAW. Yn PDC, gosodwn bartneriaethau wrth wraidd popeth a wnawn, ac maen nhw'n rhan allweddol o'n strategaeth 2030 PDC.

“Adroddodd UEFA fod pêl-droed wedi cyfrannu dros £550 miliwn y flwyddyn i Gymru. Felly, mae'r Brifysgol, wrth gynhyrchu graddedigion sydd wedi'u hachredu'n broffesiynol, yn cefnogi twf yr economi. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at bum mlynedd nesaf y bartneriaeth.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden AS: “Nodwedd allweddol o'n Rhaglen Lywodraethu yw ein hymrwymiad i fynediad cyfartal i chwaraeon, cefnogi pobl ifanc a chlybiau llawr gwlad, a buddsoddi mewn cyfleusterau.

“Ein hymrwymiad i lawr gwlad yw'r blociau adeiladu sylfaenol ar gyfer ein llwyddiant ehangach fel cenedl ar lwyfan y byd. Ac rydym wedi gweld y camau cadarnhaol y mae ein timau cenedlaethol - menywod a dynion - wedi bod yn eu cymryd yn eu priod ymgyrchoedd diweddar.

“Mae cyfleusterau modern, hygyrch a chynaliadwy yn hanfodol i annog pobl i mewn i chwaraeon neu yn ôl i chwaraeon, a gallaf weld pam y byddai timau domestig ac ymweld eisiau hyfforddi yma ym Mharc Chwaraeon y Brifysgol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru i sicrhau mynediad cyfartal ac i gefnogi ein hathletwyr a'n hyfforddwyr talentog, ble bynnag maen nhw'n byw a beth bynnag fo'u cefndir.

“Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r bartneriaeth hon ar gyfer y dyfodol.”