Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang: Roedd cymorth arbenigol yn hanfodol i roi menter ar waith
10 Tachwedd, 2021
Jake Spanswick sy'n esbonio sut mae cymorth arbenigol wedi bod yn allweddol i droi syniad yn fusnes newydd llwyddiannus.
'Oni bai am y gefnogaeth oedd ar gynnig gan Stiwdio Startup Prifysgol De Cymru (PDC), dydw i ddim yn siŵr a fyddai ein busnes wedi cychwyn.'
Dyna eiriau Jake Spanswick, sy'n 25 oed ac a raddiodd mewn Dylunio Gemau o Brifysgol De Cymru (PDC) ac sydd, ynghyd â chyd-gyn-fyfyriwr Dylunio Gemau Quinn Byron-Dyer, wedi sefydlu busnes arbenigol o'r enw Blank Pixel Games.
Ar ôl graddio ym mis Mai 2020, dechreuodd cyd-sylfaenwyr Pixel Blank Games eu menter ym mis Tachwedd, gan ddefnyddio'r sgiliau yr oedden nhw wedi'u hennill yn ystod eu hastudiaethau gradd i ddatblygu adnodd dysgu arbenigol ar ffurf gemau.
"Mae'n amgylchedd rhithwir ar-lein sy'n cefnogi gweithwyr mewn diwydiannau penodol – niwrowyddoniaeth, gwyddorau cemegol, gwyddorau biolegol, peirianneg fecanyddol, unrhyw beth sy’n ymwneud â STEM – a myfyrwyr, rhai sy'n gwneud Gradd Meistr neu PhD, i ddysgu elfennau ymarferol yr hyn maen nhw'n ei wneud, ond heb yr angen i fynd i leoedd penodol, fel labordai, i'w gwneud," meddai Jake.
"Yn amlwg, yn ystod y pandemig, cyfyng oedd y cyfleoedd i ddysgu ar y safle, ac mae diffyg capasiti hefyd weithiau, felly mae nod y cynhyrchion rydyn ni’n eu datblygu yn rhoi'r gallu iddyn nhw gyflawni’r dysgu’n rhithwir.
"Ar hyn o bryd rydyn ni yn y cam cynhyrchu o adeiladu labordy rhithwir lle gall pobl ddysgu am offer a sut i wneud recordiadau. Yn ei hanfod, mae'n gêm fideo datrys posau gyda chyfrifiadur, llygoden a bysellfwrdd, ond, ar yr un pryd, mae'r defnyddwyr yn dysgu am y theori y tu ôl i’r pethau sydd angen iddynt eu dysgu."
Fel rhan o ddatblygiad y busnes, yn gynharach eleni derbyniodd Blank Pixel Games £2,000 gan Raglen Springboard+ PDC, sy'n cefnogi menter a chyflogadwyedd graddedigion. Galluogodd hyn y cwmni i uwchraddio offer hen ffasiwn i helpu i gyflymu'r prosesau dylunio.
Dim ond un elfen o’r cymorth a roddwyd i Jake a Quinn gan y Brifysgol oedd yr arian. Maen nhw’n gweithio o Stiwdio Startup Campws Caerdydd PDC, y deorydd penodedig cyntaf yng Nghymru.
"A dweud y gwir, dwi ddim yn meddwl y bydden ni wedi cyrraedd lle rydyn ni pe na baen ni yno," meddai Jake. "Mae'r manteision i'r busnes wedi bod yn enfawr.
"Creu cynnyrch yw’r peth sy’n gyrru’r ddau ohonon ni yn ein blaenau, a doedd gyda ni mo’r wybodaeth a'r cysylltiadau busnes sy'n hanfodol i lwyddo.
"Roedd y 'bwtcamps' wythnosol yn wych ac yn help aruthrol gydag ochr fusnes pethau. Fe ddysgon ni sut i ddiogelu ein gwasanaethau a'n Heiddo Deallusol yn gyfreithiol, datblygu ein sgiliau rhwydweithio, a chael cyngor gan bobl oedd yn gwybod beth oedd ei angen i fynd â'r busnes i'r cam nesaf.
"Fyddai dim syniad gyda ni am ochr fusnes pethau pe na baen ni wedi gwneud hyn. Nawr bod gyna ni’r sgiliau hynny, gallwn edrych tuag at ffyrdd o ehangu ein sylfaen gwsmeriaid, a sicrhau bod ein hymdrechion, a'r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan PDC, yn talu ar eu canfed."