Prifysgol De Cymru yn agor deorydd i raddedigion ar Gampws Casnewydd

9 Mehefin, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/20220608_154601.jpg

Yr Athro Donna Whitehead ac cynghorydd Jane Mudd

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi agor ei hail ddeorydd ar gyfer graddedigion ar ei champws yng Nghasnewydd i helpu i greu busnesau newydd yn y ddinas.

Bydd y Stiwdio Sefydlu’n cynnig lle i raddedigion PDC sy'n dechrau eu busnesau eu hunain, ac yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth, gan gynnwys cyngor busnes, cymorth gydag eiddo deallusol, a mynediad at gymorth arbenigol mewn amryw feysydd.

Bydd hefyd yn cynnig rhaglen gymorth bwrpasol i fusnesau newydd, lle gwych i weithio, a'r cyfle i gwmnïau newydd dyfu eu cysylltiadau busnes drwy fynediad at rwydweithiau a digwyddiadau amrywiol.

Mae'r Brifysgol eisoes wedi sefydlu un Stiwdio ar ei champws yng Nghaerdydd - sy'n arbenigo mewn cefnogi graddedigion diwydiannau creadigol - a bydd un arall yn cael ei hagor ar Gampws Trefforest PDC yn ddiweddarach yn yr haf i gefnogi myfyrwyr gwyddoniaeth a pheirianneg sydd am ddechrau busnes. Hyd yma, mae Stiwdio Sefydlu PDC wedi cefnogi 65 o raddedigion entrepreneuraidd.  

Mae tri busnes newydd eisoes wedi'u lleoli yn Stiwdio Casnewydd - NDT De Cymru, sy'n gwmni peirianneg profi nad yw'n ddinistriol; C Bloc Productions, sy'n arbenigo mewn fideos cerddoriaeth; a Talking Reality, sy'n gwneud podlediadau sy'n canolbwyntio ar les.

Syniad yr Athro Dylan Jones-Evans, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol PDC dros Fenter, yw’r rhaglen deori, sydd o’r farn y bydd y Stiwdio Sefydlu yn chwarae rhan bwysig yn nyfodol y ddinas.

"Mae Casnewydd yn ddinas wych sydd â photensial enfawr ar gyfer y dyfodol ac mae'n hanfodol ein bod yn annog mwy o bobl ifanc i ystyried dod yn fosys arnyn nhw eu hunain a dechrau cwmnïau newydd arloesol i greu swyddi a chefnogi'r economi leol.

"Gall y Stiwdio Sefydlu fod yn gatalydd ac yn gyfrwng i gynyddu gweithgarwch entrepreneuraidd yng Nghasnewydd ac, wrth wneud hynny, ddod yn rhan bwysig o'r gymuned.

"Bydd hefyd yn ategu datblygiadau diweddar fel adnewyddu marchnad Casnewydd a'r gweithgareddau sy'n deillio o Sefydliad Alacrity."

Wrth agor y Stiwdio, dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Casnewydd,  y bydd y cyfleuster yn rhoi cyfle i raddedigion arddangos y sgiliau y maen nhw wedi'u hennill wrth astudio yn PDC.

"Rydyn ni'n treulio llawer o amser yn siarad am yr hyn sydd gan raddedigion i’w gynnig, ac mae’r cyfleuster hwn wir yn rhoi cyfle i raddedigion ddangos y sgiliau sydd ganddyn nhw," meddai'r Cynghorydd Mudd.

"Mae yma entrepreneuriaeth a chreadigrwydd, arloesedd a dyfeisgarwch, ac mae'n rhoi llwyfan go iawn iddyn nhw wir lansio eu gyrfaoedd. Ac rwyf mor falch bod y Stiwdio Sefydlu yma yng Nghasnewydd, mae’n golygu llawer iawn i ni."

Tynnodd y Cynghorydd Mudd sylw hefyd at yr effaith fawr y bydd y Stiwdio yn ei chael ar y ddinas.

"Mae hyn wir yn cyfleu'r ysbryd entrepreneuraidd sydd gyda ni yma yng Nghasnewydd. Mae gyda ni gymuned  greadigol ac arloesol gref iawn iawn – ac mae hynny i’w weld yn y busnesau sydd wedi dechrau mewn ystod o sectorau.

"Ac rydych chi hefyd yn gweld y busnesau hynny'n mynd yn eu blaen i gyflogi pobl, mwy o raddedigion, mwy o bobl leol hefyd. Mae'r twf yn aruthrol."

Stiwdio Sefydlu yn gynnig gwych i fusnes ffilm newydd

Mae dau fyfyriwr graddedig newydd o Went ymhlith y rhai cyntaf i elwa o weithio allan o’r Stiwdio Sefydlu ar Gampws Casnewydd PDC.

Will Langley, 23, o Gasnewydd, ac Alicia Jones, 22, o Dredegar Newydd, yw sylfaenwyr C-bloc Productions, y maen nhw’n ei ddisgrifio fel cwmni sy'n 'darparu ac yn cynhyrchu cynnwys sain a gweledol uwchlaw safon y diwydiant'. Deilliodd enw'r cwmni o'r gwahanol letyau myfyrwyr roedden nhw wedi byw ynddyn nhw, oedd 'bob amser ag C yn eu henwau', eglurodd Will.

Mae gan y partneriaid busnes raddau Meistr mewn Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth o Brifysgol De Cymru (PDC), lle gwnaethon nhw gwblhau graddau israddedig mewn technoleg cerddoriaeth ar ôl gwneud gradd sylfaen mewn cynhyrchu cerddoriaeth yng Ngholeg Pont-y-cymer .

Er gwaethaf y ffaith mai dim ond yn gynharach eleni y cafodd c-bloc ei sefydlu - dim ond ym mis Ionawr y gwnaethon nhw orffen eu hastudiaethau - mae Alicia a Will eisoes wedi cael nifer o lwyddiannau, ac mae dyfodol disglair iddyn nhw yn y sector, a nhwythau eisoes wedi profi eu sgiliau i'w cyfoedion yn gyntaf.

"Roedden ni wastad eisiau sefydlu ein busnes ein hunain ac fe wnaethon ni roi cynnig ar ein syniadau yn ystod ein trydedd flwyddyn yn y brifysgol," meddai Will.

"Fe gynhalion ni nosweithiau meic agored yn ein llety, dim ond fel hwyl mewn gwirionedd, eu recordio nhw a gwneud ffilmiau ar gyfer ein sianel YouTube, a hefyd eu rhoi ar Instagram a TikTok. Roedd yr adborth yn dda iawn, felly dyma benderfynu mynd amdani."

Ar ôl creu enw iddyn nhw eu hunain ar-lein am eu sgiliau creadigol, penderfynodd Alicia a Will gymryd y cam nesaf ac ymchwilio i ffyrdd o gael eu cynyrchiadau i sylw cynulleidfa ehangach.

"Fe wnaethon ni'r hyn maen nhw’n ei alw'n gynnwys 'Un Cynnig' i ddechrau, sesiwn fyw wedi'i ffilmio lle mae artist yn perfformio pedair cân a'r cyfan wedi'i ffilmio, fel mae'r enw'n awgrymu, mewn un ‘shot’," ychwanegodd Will.

"Dyw e ddim wedi gwneud unrhyw arian i ni – dydyn ni ddim yn codi tâl amdano – yn hytrach, mae wedi bod yn hysbyseb berffaith i ni. Ac mae pob artist rydyn ni wedi creu ‘Un Cynnig’ gyda nhw, wedi dychwelyd aton ni gyda gwaith â thâl."

Mae'r llwyddiant cychwynnol hwn eisoes wedi arwain at gyfleoedd pellach, gyda c-bloc Productions wedi gweithio ar agoriad arena newydd Abertawe.

"Fe wnaethon ni fideo uchafbwyntiau gyda’r artistiaid oedd yn perfformio - fe wnaethon ni ffilmio’r prif fand Trampolene a'r band cefnogi, The Now," esboniodd Alicia.

"Fe wnaethon ni ffilmio'r gig i gyd, gydag uned tri chamera, a thynnu lluniau. Roedd e’n wych."

Gyda'r busnes yn ffynnu, mae Alicia a Will yn falch iawn o gael lle yn Stiwdio Sefydlu Casnewydd, ac yn ddiolchgar am y cymorth y mae PDC wedi ei gynnig.

“Mae wedi bod yn wych hyd yn hyn," meddai Alicia. "Gallwn fenthyg offer o safleoedd eraill PDC, sy'n amlwg yn ddefnyddiol iawn pan fo gyda chi fusnes newydd ac yn ceisio rheoli costau.

"Hefyd, gan nad ydyn ni'n byw’n agos at ein gilydd, bydden ni’n ei chael hi'n anodd cwrdd heb y swyddfa hon – mae wedi bod yn wych ar gyfer hynny, ac mae'n rhoi cyfle i ni ddod at ein gilydd, bod yn greadigol, a gweithio ar ddatblygu camau nesaf y busnes."