Chwifio'r faner dros hip-hop Cymreig: PDC yn partneru ag Amgueddfa Cymru
11 Tachwedd, 2022
Kaptin Barrett (blaen, canol) gyda myfyrwyr Cerddoriaeth a Sain PDC
Heddiw (11 Tachwedd) croesawodd Prifysgol De Cymru DJ a chyn bennaeth cerdd ar gyfer Gŵyl Boomtown, Kaptin Barrett, fel rhan o arddangosfa sy’n archwilio hanes cyfoethog hip-hop yng Nghymru.
Ar y cyd ag Amgueddfa Cymru, mae Kaptin Barrett yn curadu’r arddangosfa a gynhelir yn 2023 a’i nod yw dathlu’r goreuon o blith hip hop Cymru, gan olrhain ei wreiddiau gwrthryfelgar i’w dderbyn fel rhan o gelfyddyd a diwylliant Cymru.
Cynhaliodd Prifysgol De Cymru ddosbarth meistr ar Gampws Caerdydd, lle bu’r cynhyrchydd yn dweud mwy wrth y gynulleidfa am y prosiect ac yn trafod pam fod hip-hop Cymraeg yn elfen mor hanfodol o dreftadaeth gerddorol Cymru.
“Nod yr arddangosfa yw adrodd hanes hip-hop o fewn Cymru o safbwynt y rhai a adeiladodd y diwylliant yma ar ddechrau’r 1980au, i’r rhai sydd wedi cario’r ffagl ymlaen ar gyfer pob un o’r elfennau, ar draws cenedlaethau,” meddai Kaptin Barrett.
“Rydyn ni eisiau dangos bod yna sylfaen y gall artistiaid heddiw adeiladu ohoni a hefyd archwilio sut mae’r diwylliant wedi datblygu. Bydd yn arddangosfa hollol wahanol i unrhyw beth y mae’r Amgueddfa Genedlaethol wedi’i gynnal o’r blaen a bydd yn defnyddio cymysgedd o ddelweddau, ffasiwn, cerddoriaeth, fideo, technoleg, gosodiadau trochi, gwaith celf a straeon uniongyrchol.”