Sut mae ffilteri harddwch fel 'bold glamour’ TikTok yn effeithio ar gyn-arddegwyr sy’n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol

30 Ebrill, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Selfie_resized.jpg

Gan Dr Claire Pescott

Mae ffilter "bold glamour" newydd TikTok yn "gwella" nodweddion corfforol mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n anodd gwybod a yw rhywun yn defnyddio ffilter ai peidio, er gwaetha’r ffaith  ei fod yn defnyddio dulliau ‘brwsh aer’.

Yn wahanol i'w ragflaenwyr, mae'r ffilter hwn yn galluogi’r gwrthrych i symud, â llai o amharu ar y ddelwedd. Gellir symud llaw o flaen yr wyneb, er enghraifft, heb amharu ar y ddelwedd mae’r ffilter yn ei chreu, diolch i ddatblygiadau mewn Deallusrwydd Artiffisial.

Gall hyn beri i ddefnyddwyr gymharu eu pryd a’u gwedd heb y ffilter â’r ddelwedd "berffaith" mae’r ffilter yn ei chreu. Gallan nhw ddechrau datblygu nodau perffeithrwydd corfforol afrealistig a gall hyn, yn ei dro, effeithio ar eu hunan barch.

Er bod telerau gwasanaeth y rhan fwyaf lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol i fod yn 13 oed o leiaf i’w defnyddio, mae gan nifer sylweddol o "gyn-arddegwyr" (plant rhwng 9 a 12 oed) broffil cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn.

Mae gwersi diogelwch ar-lein mewn ysgolion yn tueddu i ganolbwyntio ar risgiau corfforol ac ymddygiad ysglyfaethus yn hytrach na risgiau emosiynol y gall plant ddod ar eu traws, gan nad yw'r rhain mor amlwg i oedolion, sy’n annhebygol o fod wedi cael profiad ohonyn nhw.

Mae effaith niweidiol "ffilteri" (effeithiau delweddu digidol sy'n newid ymddangosiad person) yn cael ei dysgu'n llai aml.

Yn fy ymchwil, cyflwynais weithgareddau i wyth grŵp ffocws, i ennyn trafodaethau gyda phlant 10 ac 11 oed oedd yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd. Roedd un o'r gweithgareddau'n gysylltiedig â defnyddio ffilteri.

Cafodd y cyfranogwyr set o luniau o bobl yn defnyddio ffilteri ar y safle cyfryngau cymdeithasol Snapchat a gofynnwyd cwestiynau fel: "Sut mae'r rhain yn wahanol i sut maen nhw'n edrych mewn bywyd go iawn?" a "Pam mae pobl yn defnyddio'r ffilteri hyn?"

Roedd y canlyniadau'n dangos rhaniad amlwg ar sail rhywedd. Dywedodd y bechgyn eu bod yn defnyddio ffilteri ar gyfer hwyl ac adloniant, gan ffafrio pethau fel clustiau cŵn a thafodau mawr i "wneud i bobl chwerthin". Roedd y merched yn defnyddio ffilteri i greu delwedd ‘berffaith’ oedd yn cydymffurfio â delfrydau harddwch ac i gael eu dilysu drwy bobl yn clicio ‘hoffi’ ac yn cynnig sylwadau canmoliaethus.

Dywedodd un ferch, Samantha: "Mae [ffilteri] yn gwneud i chi edrych yn berffaith ac yn ddi-frycheuyn". Esboniodd un arall: "Dwi'n hoffi rhoi defnyddio ffilteri achos maen nhw’n cuddio fy man geni. Maen nhw’n tynnu’r brychau o fy wyneb".

Yn yr un modd, esboniodd Mia, sydd hefyd yn ‘gyn-arddegwr’: "Os ydych chi’n defnyddio ffilter, mae'n gwneud i’ch croen edrych yn fwy llyfn, ac mae’n cuddio unrhyw smotiau neu gleisiau sy’n gwneud i chi deimlo'n ansicr amdanoch chi’ch hun."

Mae fy nghanfyddiadau yn awgrymu bod merched yn mewnoli’r delfrydau harddwch mae’r cyfryngau cymdeithasol yn eu hybu, ac yn dymuno eu hefelychu. Mae pwysau i edrych yn gorfforol ddelfrydol drwy ddefnyddio ffilteri, a gallai bod sgil-effeithiau emosiynol i hyn.

Defnyddiais collage hefyd fel gweithgaredd i archwilio profiadau unigol. Dewisodd un plentyn, Sophie, ddangos darlun o'i hun mewn dau hanner.

Yn hanner y cyfryngau cymdeithasol, defnyddiodd lawer o wahanol brintiau anifeiliaid mewn trionglau i ddangos y gallwch fod yn llawer o wahanol bethau a bod llawer o wahanol rannau i berson.

Eglurodd fod y patrymau roedd hi wedi'u dewis yn edrych yn annaturiol, yn wahanol i'r ffilteri mwy realistig ar-lein.

Oherwydd ei bod hi’n teimlo (fel merched eraill yr astudiaeth) bod disgwyl i ferched gael eu portreadu’n ddelfrydol, ysgrifennodd Sophie hefyd "does neb yn berffaith" ar ei collage.

I'r merched yn fy ymchwil, roedd ymdeimlad bod cysylltiad cryf rhwng hunanfynegiant ac ymddangosiad, gyda phwysau i gadw at ddelfrydau corfforol penodol.

Yn ei collage, trafododd Karen yn helaeth sut y gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn estyniad ar realiti a sut y gallan nhw gynyddu teimladau o ansicrwydd yn sgil y pwysau i fod ag ymddangosiad corfforol perffaith.

Mae'r lluniau yn ei collage yn dangos "bywyd go iawn" heb ffilter, oedd yn "ei gwneud hi'n drist" a "bywyd gyda ffilter" gyda cholur a ffilteri i wella’i phryd a gwedd, oedd yn ei gwneud hi'n hapus.

Pwysleisiodd hefyd y teimladau o ddiffyg hunan-barch y gall gweld delweddau gyda ffilter eu hennyn drwy ddweud:

Mae pobl yn ceisio gwneud iddyn nhw eu hunain edrych yn brydferth ac efallai mai siom y byddan nhw’n ei chael yn y pendraw.

Daeth ymchwil tebyg yn 2020 hefyd i’r casgliad bod merched yn tueddu i efelychu nodweddion "benywaidd" sy’n cael eu poblogeiddio drwy’r cyfryngau cymdeithasol, fel gwefusau amlwg iawn a chroen perffaith.

Er bod fy ymchwil yn canolbwyntio'n benodol ar Snapchat, mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill fel TikTok ac Instagram hefyd yn annog defnyddio ffilteri i wella ymddangosiad.

Mae ffilteri harddwch yn atgyfnerthu'r neges mai gwisgo colur, bod â phryd a gwedd penodol a chydymffurfio â delfrydau harddwch yw'r cyflwr corfforol a ddymunir i fenywod. Roedd gan Isabel neges gref i ferched yn ei collage: "Byddwch yn chi eich hun a pheidiwch â’ch cymharu’ch hun ag eraill".

Yn sicr, nid yw'r defnydd helaeth o ffilteri yn hwyluso'r neges hon ac mae'n bwysig bod sgil-effeithiau emosiynol defnyddio'r offer newid ymddangosiad hyn – ac effaith eu gweld yn barhaus ar y cyfryngau cymdeithasol – yn cael sylw.

Gallai trafodaethau agored helpu merched i ddeall nad yw'r delfrydau corfforol anghyraeddadwy hyn yn cynrychioli realiti.

Ailgyhoeddir yr erthygl hon o The Conversation dan Drwydded Creative Commons. Darllen yr erthygl wreiddiol.